2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2023.
3. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i gallu i gynnal treial wythnos pedwar diwrnod yng Nghymru? OQ58997
Diolch i'r Aelod. Er nad ydym wedi ymrwymo i gynllun peilot, rydym yn cydnabod manteision posibl wythnos waith fyrrach ochr yn ochr â mathau eraill o weithio hyblyg. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid cymdeithasol i annog arferion gweithio blaengar.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb y prynhawn yma. Rwy'n siŵr y bydd yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd a gadeirir gennyf. Cafodd yr adroddiad ei gymeradwyo gan fwyafrif o'r pwyllgor, ac fe wnaeth argymell treialu wythnos pedwar diwrnod o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y peilot yn adeiladu ar dystiolaeth treialon y sector preifat sydd eisoes wedi dangos cynnydd mewn cynhyrchiant a'r manteision i weithiwr. Gwnsler Cyffredinol, mae'n siŵr fod hwn yn gynnig beiddgar, ond mae'n un a allai fod yn heriol. Ond nid yw'r ffaith bod rhywbeth yn heriol yn golygu na ddylem ei wneud. Ar draws y byd, mae treialon wythnos pedwar diwrnod wedi dangos llwyddiant o ran cynyddu cynhyrchiant a gwella iechyd meddwl a chorfforol gweithwyr a'u helpu i uwchsgilio hefyd. A gaf fi ofyn i chi, Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi ymrwymo i edrych ymhellach ar y mater hwn, a thrafod gyda'ch cyd-Weinidogion Llywodraeth Cymru, a dod yn ôl i'r Senedd hon gydag adroddiad llawnach ar y pwerau sydd gennym i gymryd y cam beiddgar hwn ymlaen?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am godi hyn? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y syniadau hyn yn cael eu codi yn y Siambr ac mae cwestiynau'n ffordd briodol o wneud hynny mewn gwirionedd. Mae'n fy atgoffa, pan ddaeth yr argymhelliad y gallem symud i wythnos waith pedwar diwrnod yn bwnc llosg yn sydyn iawn—rwy'n credu ei fod yn bwnc llosg mae'n debyg pan symudwyd o wythnos waith saith diwrnod i wythnos waith chwe diwrnod, pan symudwyd o chwe diwrnod i bum diwrnod, ac ati. Mae'n debygol ei fod yn bwnc llosg pan fuom yn sôn am atal plant rhag gorfod gweithio yn y pyllau glo ac yn y blaen.
Yr hyn y mae gennym ddiddordeb ynddo yw effeithlonrwydd economaidd, cynhyrchiant economaidd, ond hefyd llesiant cymdeithas, llesiant y bobl sy'n gweithio yn y gymdeithas, a sut y gall gweithio hyblyg a gwahanol fathau o weithio fod yn fwy cynhyrchiol mewn gwirionedd. Rwy'n meddwl mai dyna pam mae cymaint o gynlluniau peilot wedi bod. Rwy'n edrych ar hyn o bryd—. Rwy'n gwybod, ar draws y Llywodraeth, ein bod yn â diddordeb mawr yn y dystiolaeth ynghylch yr wythnos waith fyrrach. Nid oes gennym gymhwysedd deddfwriaethol mewn deddfwriaeth cyflogaeth, ond mae yna lawer o feysydd y gallwn ddylanwadu arnynt. Mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac wrth gwrs, mae gennym y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn dod drwodd hefyd, sy'n ceisio dylanwadu ar lesiant a chyflogaeth foesegol a materion o'r fath.
Ond fe gafwyd treialon. Rwy'n edrych ar rywfaint o'r ymchwil mewn perthynas â hyn. Mae'r Alban yn edrych ar hyn yn fanwl ar hyn o bryd. Mae'n fater sy'n ennyn diddordeb, rwy'n credu. Mae Gogledd America wedi cael treialon. Mae Gwlad yr Iâ wedi cael treialon. Mae Sbaen yn cynnal cynllun peilot. Mae Awstralia yn edrych ar gynllun peilot. Felly, nid yw hyn yn rhywbeth anarferol. Mae llywodraethau blaengar a modern ledled y byd yn edrych ar ffyrdd o weithio'n well, gwell i'r bobl sy'n gweithio, ond yn yr un modd, gwell i'r economïau hefyd. Cafodd cynllun peilot Sbaen ei lansio yn 2022, ac mae disgwyl iddo fod yn weithredol am ddwy flynedd. Felly, dyma rywbeth lle mae'n rhaid inni gadw meddwl agored. Mae'n rhaid inni fod eisiau newid lle bydd newid yn gwella amodau gwaith pobl, ac mae'n rhaid inni edrych ar y dystiolaeth o'r cynlluniau peilot sy'n cael eu cynhyrchu. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y bydd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mawr ynddo.
Rwy'n falch fod y cwestiwn hwn wedi'i godi heddiw, a diolch i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am ei ofyn, gan ei fod yn enghraifft berffaith o ragrith llwyr yn y Blaid Lafur Gymreig. Mewn un anadl, maent yn cefnogi tâl-feistri'r undebau sy'n dal i fod yn benderfynol o ddifa'r wlad, gyda streic ar ôl streic ar ôl streic, ond gyda'r anadl nesaf, maent yn gofyn i bobl weithio llai o ddyddiau a gostwng chynhyrchiant a chyflogau. Mae fy etholwyr sy'n gweithio yn sir y Fflint ac ardal Glannau Dyfrdwy yn wynebu morgeisi cynyddol, biliau ynni uwch, prisiau uchel am bob dim, ac maent am weithio goramser, gweithio awr neu ddwy ychwanegol, i gadw'r blaidd o'r drws, ac mae'r Aelodau lleol am iddynt weithio llai a lleihau eu rhagolygon. Mae'n anghredadwy. Felly, pryd y gwelwn Blaid Lafur a Llywodraeth Cymru sydd o ddifrif yn cefnogi gweithwyr gogledd-ddwyrain Cymru ac yn cefnogi pobl sydd eisiau camu ymlaen mewn bywyd, yn hytrach na'u dal yn ôl?
Wel, pe bai'r Aelod wedi bod o gwmpas ar yr adeg honno, rwy'n siŵr y byddech wedi bod yn gwneud yn union yr un araith pan aethom o wythnos waith saith diwrnod i wythnos waith chwe diwrnod, ac rwy'n tybio eich bod yn dal yn ddig nad ydym yn anfon plant o dan 12 oed i lawr y pyllau glo. O, fe anghofiais—fe wnaethoch chi gau'r rhan fwyaf o'r pyllau glo, felly mae'n debyg fod hynny wedi cael gwared ar y broblem honno.
Rwy'n siŵr hefyd eich bod yn dal i gefnogi safbwynt y Blaid Geidwadol pan wrthwynebodd yr isafswm cyflog a'r holl bethau a ddywedwyd am yr isafswm cyflog ar y pryd. Felly, gwrandewch, rwy'n clywed beth a ddywedwch. Mae arnaf ofn eich bod chi'n dal i fyw yn Oes Fictoria. Rydym bellach yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain ac rydym eisiau gofalu am y bobl sy'n gweithio am eu bywoliaeth, ac rydym eisiau cael economi dda ac effeithlon a chynhyrchiol.