Streic gan Staff y Comisiwn

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:13, 25 Ionawr 2023

Diolch am hynny. Mae'n swnio, felly, taw'r rhesymau ar gyfer y streic yw'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn San Steffan, yn lle unrhyw ddisbíwt sydd rhwng y Comisiwn a'r staff yma. Mae hynny'n adlewyrchu'r sefyllfa gyffredinol yng Nghymru, efallai, pan ydyn ni'n dod i weithwyr yn y sector cyhoeddus, lle mae yna benderfyniadau ariannu yn digwydd yn San Steffan ac mae'r penderfyniadau ariannu yna yn mynd i roi rhyw fath o gwtogiad, weithiau, ar faint o negodi sydd yn gallu digwydd.