3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2023.
1. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y trafodaethau sydd wedi arwain at staff y Comisiwn yn cyhoeddi streic ar 1 Chwefror? OQ59009
Nid yw'r Comisiwn yn rhan o unrhyw drafodaethau ffurfiol gydag undebau llafur sy'n cynrychioli staff y Comisiwn ar hyn o bryd. Mae trefniadau cyflog presennol y Comisiwn ar waith tan fis Mawrth 2025, ac mae'r Comisiwn yn mwynhau partneriaeth gadarnhaol gyda'n swyddogion undebau lleol. Mae cynrychiolwyr Prydeinig PCS wedi cadarnhau bod anghydfod ffurfiol, fodd bynnag. Cynhelir y streic ar 1 Chwefror yn sgil anghydfod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfres o egwyddorion ehangach—ar godiad cyflog, cyfiawnder pensiynau, sicrwydd swyddi a dim toriadau o ran telerau diswyddo. Fel Comisiwn, rydym yn parchu hawl aelodau'r undeb llafur i streicio.
Diolch am hynny. Mae'n swnio, felly, taw'r rhesymau ar gyfer y streic yw'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn San Steffan, yn lle unrhyw ddisbíwt sydd rhwng y Comisiwn a'r staff yma. Mae hynny'n adlewyrchu'r sefyllfa gyffredinol yng Nghymru, efallai, pan ydyn ni'n dod i weithwyr yn y sector cyhoeddus, lle mae yna benderfyniadau ariannu yn digwydd yn San Steffan ac mae'r penderfyniadau ariannu yna yn mynd i roi rhyw fath o gwtogiad, weithiau, ar faint o negodi sydd yn gallu digwydd.
Heb setliad cyllido sy'n seiliedig ar angen, bydd Cymru bob amser ar y pen anghywir i fympwy penderfyniadau a wneir yn Nhrysorlys Lloegr. Ac wrth gwrs, nid ariannu yw'r unig broblem yma. Mae Llywodraeth y DU wedi diystyru gweithwyr Cymru'n llwyr drwy gyhoeddi bwriad i gael gwared ar Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017.
Buaswn i'n dweud mai'r unig ffordd o warantu unrhyw hawliau ar gyfer gweithwyr fyddai os yw employment law yn cael ei ddatganoli i'r lle yma. Ond buaswn i'n gofyn i chi—dwi'n gwybod bod hynny y tu hwnt i beth y byddech yn gallu rhoi unrhyw farn arno—os oedd hynny yn digwydd, ac os oedd employment law yn cael ei ddatganoli, a fyddech chi'n gallu rhoi unrhyw syniad i ni o'r egwyddorion y byddai'r Comisiwn yn eu dilyn wrth fynd ati i negodi unrhyw pay neu conditions gyda'r gweithwyr yn y Senedd?
Rŷch chi'n ceisio fy nhemtio i i roi pob math o atebion gwleidyddol i'r cwestiwn yna. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n gyfrinach i neb i glywed fi'n ateb fel unigolyn i ddweud fy mod i o blaid datganoli mwy o rymoedd i'r Senedd yma. Ond, yng nghyd-destun y cwestiwn penodol ynglŷn â'r streic yr wythnos nesaf, i gadarnhau unwaith eto nad oes yna anghydfod penodol rhyngom ni a'r staff yn lleol yng nghyd-destun y trefniadau cyflog sydd mewn lle tan 2025. A dwi'n gobeithio bod hynny'n adlewyrchu, ar ran y Comisiwn yn gyfan, ar draws y pleidiau yn y lle yma, ein parch ni tuag at drafodaeth agored a synhwyrol gyda'r undebau llafur, sy'n cynrychioli'n gweithwyr ni fan hyn, a'n parch ni tuag at eu hawl nhw i streicio hefyd, os oes gyda nhw egwyddorion a phethau ymarferol, ac maen nhw'n dewis gwneud hynny.