Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch i'r Aelod am y sylwadau ychwanegol hynny. Ar gyfer y cofnod, rwy'n meddwl bod gan oddeutu 200,000 o aelwydydd yng Nghymru fesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a thrydan. Mae'r Aelod wedi gwneud ei sylwadau'n rymus iawn, gan ychwanegu at yr holl sylwadau eraill sydd wedi'u gwneud, ac rwy'n siŵr y byddwn i gyd eisiau gweithio ar y cyd ar draws pob plaid wleidyddol i sicrhau yr edrychir ar hyn, ac i weld bod hawliau ac amddiffyniadau pobl yn cael eu cynnal yn briodol.