4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2023.
1. Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a yw prosesu cannoedd o warantau llys ar y tro, gan ganiatáu i gwmnïau ynni osod mesuryddion rhagdalu heb wiriadau unigol, yn torri hawliau sifil trigolion Cymru? TQ713
Mae Llywodraeth Cymru'n credu mai dim ond fel opsiwn olaf y dylid ystyried symud cwsmeriaid i fesuryddion rhagdalu. Yn ystod argyfwng costau byw, mae'n bryderus iawn fod rhai o'r aelwydydd mwyaf bregus yn cael eu gorfodi i drefniadau ad-dalu, gan eu gadael yn agored i'r risg o fod heb wres.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, ac am arweinyddiaeth ei gyd-Aelod yn Llywodraeth Cymru Jane Hutt ar y mater hwn. Nid yw hyn yn ddim llai na sgandal genedlaethol. Rydym wedi gweld cannoedd o orchmynion llys yn cael eu cyhoeddi ar y tro, ac erbyn hyn mae data'n dangos, o'r 500,000 o orchmynion y ceisiwyd amdanynt ar gyfer newid gorfodol i fesuryddion rhagdalu, dim ond 72 a gafodd eu gwrthod. O 500,000 o geisiadau, dim ond 72 a gafodd eu gwrthod. Ni allai neb awgrymu nad yw hyn yn dangos nad oes gwiriadau'n digwydd i ganfod a yw'r defnyddwyr yn fregus.
Nawr, oherwydd y methiant hwn i gynnal gwiriadau sylfaenol hyd yn oed, mae pobl fregus yn cael eu bygwth yn gyson y byddant yn cael eu datgysylltu yng nghanol argyfwng costau byw yng nghanol y gaeaf. Gwnsler Cyffredinol, mae hyn yn fater o fywyd a marwolaeth. Mae Llywodraeth y DU, a gydnabu dros y penwythnos fod rhywbeth ymhell o'i le yn dilyn galwadau cyson gan bobl fel fi ac ymgyrchwyr eraill, yn dal i fodloni ar ofyn i'r union gwmnïau sydd wedi gwneud y fath gam â'n trigolion i wneud y peth iawn. Mae arweinyddiaeth yn ymwneud â gwneud penderfyniadau, yn enwedig pan fo'r dystiolaeth o gamwedd mor llethol. Dengys ystadegau y bydd bron i 200,000 yn fwy o bobl yn cael eu gorfodi i newid erbyn diwedd y gaeaf os na wneir unrhyw beth. Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cefnogi fy ngalwadau am waharddiad ar unwaith ar newid gorfodol i fesuryddion rhagdalu, a galluogi'r trigolion sydd eisoes wedi cael eu newid yn amhriodol gan gyflenwyr ynni i newid yn ôl, a hynny am ddim ac yn gyflym?
Diolch am y cwestiwn, ac eto, mae'r Aelod yn rhagori ar godi materion o gryn bwys i ryddid a hawliau sifil yn ein cymdeithas. Gadewch imi roi'r ffigurau hyn i chi. Nid oedd hyn yn rhywbeth a roddais fy sylw iddo mewn gwirionedd tan i chi godi'r mater, ac rwy'n gwybod bod hynny'n wir am y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd wedi bod yn ymgysylltu'n uniongyrchol ar y mater penodol hwn.
Ond o ran ychydig o'r data sydd gennym eisoes, rydym yn gwybod o'r cyfryngau fod rhywbeth tebyg i 500,000—hanner miliwn—o warantau wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar, a gadewch inni edrych ar sefyllfa Cymru o'r hyn a wyddom hyd yma. Yn llys ynadon Caernarfon yn 2022, cyhoeddwyd dwy warant o'r fath. Yn llys ynadon Caerdydd yn 2021, cyhoeddwyd chwe gwarant ac yn 2022, cyhoeddwyd 10 warant—cyfanswm o 16—a gwrthodwyd dwy. Yn llys ynadon Abertawe yn 2020, cyhoeddwyd 7,308, yn 2021, cyhoeddwyd 8,652, ac yn 2022, cyhoeddwyd 6,817, gan wneud cyfanswm, dros y tair blynedd honno, o 22,777, gyda chwech ohonynt wedi eu gwrthod.
Bûm yn edrych ar rywfaint o'r wybodaeth gyhoeddus am hyn, ac eto, mae hyn yn rhywbeth rwyf eisiau mynd i'r afael ag ef. Roeddwn yn edrych ar rai o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud ynghylch y ffigurau sydd bellach yn dechrau ymddangos, ac mae'r sylwebaeth fel hyn: 'mae cyflenwyr yn gallu cael gwarantau i osod mesuryddion rhagdalu pan fydd eu cwsmeriaid yn mynd i ddyled fel ffordd iddynt adennill arian sy'n ddyledus iddynt. Yn gyffredinol, maent yn ddrytach na thariffau ynni sefydlog ac maent wedi cael eu beirniadu gan nifer o elusennau am gadw aelwydydd incwm isel mewn tlodi' ac 'maent yn ei gwneud yn ofynnol i aelwydydd dalu am ynni cyn ei ddefnyddio, ac fel arfer ar gyfradd uwch'.
Wrth fonitro hyn ymhellach, gellir datgelu bellach fod y costau i'r cwmnïau ynni gael caniatâd i orfodi mynediad wedi eu gosod ar £22 y warant, gyda llysoedd yn rhoi hyd at 1,000 ar y tro mewn gwrandawiadau sy'n para 20 munud yn unig. Yna, gellir codi tâl o hyd at £150 ar gwsmeriaid am gael mesurydd rhagdalu wedi'i osod drwy orfodaeth, gan gynnwys £56 ar gyfer cais y warant. Datgelodd un ymchwiliad sut roedd un llys—roedd hyn yng ngogledd Lloegr—wedi rhoi 496 o warantau a oedd yn caniatáu i gwmnïau orfodi mynediad i gartrefi mewn tri munud a 51 eiliad yn unig.
Rwy'n credu ei fod yna fater cyfiawnder sifil go iawn pan fo modd mynd i mewn i gartrefi pobl mor barod ac mor hawdd drwy orfodaeth, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sydd angen ei ystyried. Yn anffodus, nid yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli, ond gallaf roi pob sicrwydd i'r Aelod, ar y cyd â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sydd wedi bod yn mynd ar drywydd y mater hwn yn ddiwyd iawn, y byddaf nid yn unig yn mynd i'r afael â hyn gyda'r cwmnïau ynni penodol hynny o ran yr hyn sy'n digwydd a pham y caiff y llysoedd eu defnyddio, a hynny'n aml ddegau os nad cannoedd o filltiroedd o ble mae pobl yn byw, ond mae hyn yn rhywbeth y credaf y gallwn fynd i'r afael ag ef yn ddilys, ac sydd o bryder sylweddol, gyda Gweinidog cyfiawnder Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a chyda'r Twrnai Cyffredinol hefyd rwy'n credu, i archwilio ac ystyried y dull y mae'r llysoedd yn ei fabwysiadu o dderbyn taenlenni o enwau a phasio gwarantau fesul llwyth. Rwy'n credu bod yna rai materion sylweddol iawn sydd angen eu harchwilio ymhellach, ac rwy'n siŵr y byddwn yn ceisio mynd i'r afael â hynny ym mhob ffordd. Diolch am ddod â'r mater hwn i'n sylw.
Mae'r Senedd eisoes wedi clywed gan Jack am ba mor annheg yw gosod mesuryddion rhagdalu; rwy'n cymeradwyo ei bwyntiau'n llwyr. Mae mesuryddion rhagdalu yn anghymesur o gyffredin yn y sector tai cymdeithasol, sy'n golygu bod tenantiaid ar rai o'r bandiau incwm isaf yn y wlad yn gorfod talu'r tariffau ynni uchaf. Mae'n hynod o wrthnysig fod y rhai sydd â llai nag eraill yn cael eu gorfodi i dalu mwy nag eraill am ynni. Mae hyn yn golygu bod teuluoedd mewn tlodi wedi cael eu gorfodi i grynu drwy'r cyfnod oer diweddar am na allant fforddio cael y gwres ymlaen. Mae'n warthus. Os na allwn amddiffyn ein dinasyddion yng Nghymru rhag arferion rheibus cwmnïau ynni, dylem ei gwneud yn flaenoriaeth i ennill yr hawl honno.
Rydym eisoes wedi gweld na fydd San Steffan yn gweithredu yn erbyn y cwmnïau ynni. Tra bo pobl yn ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi, mae cyflenwyr yn parhau i wneud yr elw mwyaf erioed o filiau ynni cynyddol. Mae'r cyflymder syfrdanol y mae llysoedd yn rhoi gwarantau, fel y sonioch chi, yn aml mewn mater o funudau ar gost fach iawn i'r cwmnïau ynni, yn rhoi'r nesaf peth i ddim cyfle i gwsmeriaid herio eu penderfyniadau ar lefel gyfreithiol. Ecsbloetio ar raddfa ddiwydiannol yw hyn. Dylai fod gwaharddiad ar unwaith ar arferion o'r fath. Rwy'n eich annog i edrych ar y mater hwn i weld a oes unrhyw ffordd y gallwn reoli'r ffordd y mae cwmnïau ynni'n ecsbloetio ein dinasyddion. Diolch.
Diolch i'r Aelod am y sylwadau ychwanegol hynny. Ar gyfer y cofnod, rwy'n meddwl bod gan oddeutu 200,000 o aelwydydd yng Nghymru fesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a thrydan. Mae'r Aelod wedi gwneud ei sylwadau'n rymus iawn, gan ychwanegu at yr holl sylwadau eraill sydd wedi'u gwneud, ac rwy'n siŵr y byddwn i gyd eisiau gweithio ar y cyd ar draws pob plaid wleidyddol i sicrhau yr edrychir ar hyn, ac i weld bod hawliau ac amddiffyniadau pobl yn cael eu cynnal yn briodol.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Bydd y cwestiwn amserol nesaf gan James Evans.