Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch am yr ateb yna. Mae'n anodd rhoi mewn geiriau faint o ergyd fyddai hyn pe bai'r ffatri'n cau. Mae dros 700 yn gweithio yno, yng nghalon Môn. Mae cyfran uchel iawn yn byw yn lleol iawn, yn ddigon agos i gerdded i'r gwaith. Mi fyddai colli'r swyddi'n treiddio drwy holl gymuned Llangefni a thu hwnt, a dwi'n meddwl am bawb sy'n cael eu taro gan hyn, yn weithwyr a'u teuluoedd, ac, wrth gwrs, dwi'n nabod sawl un yn dda.