Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch am y gyfres o bwyntiau a wnaed. Cefais innau ddeall hefyd o sgyrsiau heddiw fod Brexit a’r newid i amodau masnachu yn ffactor o bwys, ynghyd â chwyddiant yn gyffredinol, ac ynni yn benodol. Ac wrth gwrs, mae newid wedi bod i’r cymorth ynni i fusnesau, ac mae'r cynnydd mewn gorbenion ynni, unwaith eto, yn ffactor sylweddol.
Mater i’r busnes yw’r pwynt ynglŷn â buddsoddi yn y safle, ac yn yr un modd, y cyfleuster o’i gymharu â safleoedd eraill yn y grŵp. Maent wedi gwneud dewisiadau ynghylch buddsoddi yn y safle. Ond mae’r holl bwyntiau hynny, Brexit, chwyddiant ac ynni, oll yn faterion y mae Llywodraeth y DU wedi gwneud dewisiadau yn eu cylch, ac rwy'n credu eu bod wedi dweud yn glir iawn mai dyna sy'n achosi'r her benodol yn eu barn hwy.
Rydych yn iawn, fodd bynnag, fod y ffordd y cafodd y penderfyniad ei gyfathrebu yn golygu nad oes fawr o amser i fynd i'r afael â hyn. Maent wedi nodi eu bod yn disgwyl gwneud penderfyniad, ac os byddant yn bwrw ymlaen â'r penderfyniad i gau, byddai hynny'n digwydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Golyga hynny, ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, y byddai’n digwydd ymhen wythnosau yn unig. Felly, mae hon yn amserlen dynn iawn, ac rwy'n pryderu am ystod o ganlyniadau yn sgil hynny. Rydych yn llygad eich lle; ceir dros 700 o weithwyr, llawer ohonynt yn lleol iawn. Yr hyn y mae'n ei olygu yw nad oes gwaith gan bobl o oedran gweithio, ac mae'r potensial i bobl aros ar yr ynys yn galw am ddyfodol economaidd.
Felly, oes, mae gennyf ddiddordeb mawr o hyd yn y gwaith y byddwn yn parhau i'w wneud i greu dyfodol economaidd cynaliadwy i Ynys Môn, ac mae angen gwneud hynny ar unwaith. Oherwydd mae rhai o’r pethau y byddwn yn siarad amdanynt yn bethau a fydd yn digwydd ymhen blynyddoedd, nid wythnosau. Felly, mae yna her hefyd ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yn y cyfamser. Felly, byddwn yn gweithio gydag unrhyw un a phawb i geisio sicrhau'r canlyniad gorau posibl. Rydym am weld a oes modd achub y swyddi. Os nad oes modd gwneud hynny, beth yw'r dewisiadau amgen gorau? Beth fydd dyfodol y safle? Beth am y gadwyn gyflenwi? Mae’r rhain oll yn faterion nad oes atebion iddynt ar hyn o bryd, ond rwy’n fwy na pharod i weithio gyda’r Aelod a chynrychiolwyr etholedig eraill a’r awdurdod lleol i chwilio am atebion, a bydd hynny’n golygu gweithio gyda Llywodraeth y DU. Mae angen inni ystyried yn onest pam ein bod yn y sefyllfa hon a'r hyn y bydd ei angen er mwyn ceisio achub y swyddi hyn neu sicrhau dewisiadau amgen o ran cyflogaeth yn y dyfodol agos iawn.