Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 25 Ionawr 2023.
Hoffwn ddiolch yn fawr i'n cyd-Aelod Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw, ac rwy'n falch iawn o roi fy nghefnogaeth iddo. Wrth gwrs, fel Gweinidog yr wrthblaid dros newid hinsawdd, rydym yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn croesawu technolegau newydd oherwydd y ffordd y gallant wella ein systemau lleihau allyriadau, ac mae hwn yn rhywbeth y gall Cymru arwain arno. Mae ymchwil gan yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol yn dangos bod 60 y cant o'r holl batentau ynni carbon isel dros y pum mlynedd diwethaf yn gysylltiedig â newid tanwydd a thechnolegau effeithlon o ran ynni, a gall y cynnig hwn ar gyfer Bil ar leihau ôl troed carbon digidol fod yn allweddol i wneud hynny.
Nod rhan (a) yw
'ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd sero net, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol'.
Yn amlwg, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gyflymu ein defnydd o seilwaith digidol gwyrdd. Pan fo gennym gymaint o dechnoleg ar flaenau ein bysedd nawr, mae'n rhaid sicrhau bod y ffynonellau sy'n ei bweru mor lân ac adnewyddadwy â phosibl.
Mae rhan (b) yn galw am
'[g]ynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael eu creu, eu cadw a’u prosesu mewn ffordd mwy effeithlon o ran defnydd ynni'.
Ac rwy'n cytuno'n llwyr: mae'n rhaid cael dull mwy cydgysylltiedig o reoli data. Nid yn unig y bydd hyn o fudd i ddatgarboneiddio, ond bydd yn helpu mewn sectorau eraill fel ein gwasanaeth iechyd, addysg ac adrannau eraill.
Nodaf, yn benodol, ran (c), sydd â'r nod o gefnogi datblygiad sector data gwyrdd yng Nghymru. Mae'n ymddangos bod hwn yn gyfle gwych i roi hwb i swyddi gwyrdd yng Nghymru. Byddai'n ategu prosiectau adnewyddadwy newydd ar y môr fel môr-lynnoedd llanw a ffermydd gwynt, a amlygwyd gennym yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos diwethaf. Byddai'r cyfleoedd addysg a hyfforddiant, yn enwedig i'n pobl ifanc, yn darparu ysgogiad sylweddol i adeiladu gyrfa mewn swydd fedrus sy'n talu'n dda yma yng Nghymru.
Ac yn olaf, nod rhan (e) yw
'annog arloesi i helpu i ddatgarboneiddio ac i gyrraedd amcanion sero net cenedlaethol'.
Rwy'n cytuno, ac rwy'n gobeithio y gellir gwneud hyn ar sail y DU gyfan, gan ddod â'r meddyliau gwyddonol gorau a mwyaf disglair at ei gilydd o bob cwr o'r wlad. Mae Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar Llywodraeth y DU, neu ARIA, yn enghraifft dda o hyn. Cafodd yr asiantaeth hon ei sefydlu i archwilio'r cyfleoedd gwyddonol enfawr sy'n deillio o ddarganfyddiadau arloesol. Mae gan y buddsoddiadau rydym yn eu gwneud nawr mewn data a thechnoleg botensial i ddarparu elw economaidd enfawr yn y blynyddoedd a'r degawdau i ddod. Yn y pen draw, os gallwn wella cysylltedd digidol a seilwaith ledled Cymru, nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na ellir defnyddio'r dechnoleg hon i fonitro ein hymrwymiadau newid hinsawdd. Er mwyn cenedlaethau'r dyfodol, mae'n dasg y mae'n rhaid inni ei chyflawni. Rwy'n barod iawn i gefnogi Rhun a'r cynnig deddfwriaethol hwn. Diolch yn fawr.