Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 25 Ionawr 2023.
A gaf fi hefyd ategu fy niolch innau i'r clercod, fy nghyd-Aelodau a phawb a ddarparodd dystiolaeth? Fel dywedodd y Cadeirydd wrth agor y drafodaeth hon, mae'r sefyllfa yn waeth nag yr oedd hi pan oeddem ni'n cymryd tystiolaeth, ac mi oedd hi yn sefyllfa ddigon tywyll o ran dyfodol diwylliant a chwaraeon ledled Cymru ar y pryd. Ac mae pwynt Alun Davies yn un allweddol bwysig, dwi'n credu, o ran cydraddoldeb, oherwydd dwi'n casáu gweld arolygon gan gynghorau lleol ar y funud sydd yn gofyn, 'Ydych chi eisiau cadw eich llyfrgell neu'ch amgueddfa ar agor, neu ydych chi eisiau cael eich bins wedi'u gwagio yn rheolaidd? Ydych chi eisiau i bobl hŷn yn ein cymdeithas gael gofal neu ydych chi eisiau amgueddfa?' Dydy'r rhain ddim yn ddewisiadau teg, ac mae'n ffaith ein bod ni'n dal i weld diwylliant a chwaraeon fel pethau 'neis i'w cael'—rhai o'r pethau yma sydd jest yn ategu bywyd, yn hytrach na bod yn rhan hollol, hollol hanfodol o ran pawb ohonom ni.
Y gwir amdani ydy, er gwaethaf y ffaith bod gennym ni amgueddfeydd lleol, bod gennym ni lyfrgelloedd, bod gennym ni sefydliadau cenedlaethol, mae yna'n dal gormod o bobl yma yng Nghymru lle dydyn nhw ddim yn gallu cael mynediad ar y funud, fel y mae hi efo'r hyn sydd ar gael. Mae yna bob math o rwystrau am hynny. Rydym ni'n gwybod bod cost trafnidiaeth yn un o'r rhwystrau hynny. Os dydych chi ddim yn digon agos i allu mwynhau rhai o'r pethau anhygoel sydd ar gael am ddim, os ydych chi'n methu â'u cyrraedd nhw—. Dwi'n gwybod am amryw o bobl sydd yn byw yn agos iawn i Sain Ffagan ond yn methu â'i cyrraedd gan does ganddyn nhw ddim car neu eu bod nhw'n methu â fforddio bws. Mae honna'n rhwystr. Hyd yn oed pan ydych chi'n byw yng Nghaerdydd, mae yna rwystrau o allu cyrraedd.
Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni edrych hefyd, pan fo gennych chi'r costau trafnidiaeth, o ran hefyd bod lot o bobl yn dal i deimlo dyw diwylliant ddim iddyn nhw oherwydd dydyn nhw ddim wedi cael y cyfle, ac mae polisïau fel mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol yn rhan allweddol. Ond beth sy'n rhwystro pobl rŵan fydd costau bws i allu dod. Mae nifer o ysgolion yn dibynnu ar fws i allu dod i'n hamgueddfeydd cenedlaethol ni. Mae honna'n broblem ddirfawr oherwydd byddan nhw'n methu â fforddio'r tripiau yma. Felly, mae'r hyn fydd ar gael yn lleol yn dod hyd yn oed yn fwy pwysig wedyn.
Rydyn ni'n sôn am wersi nofio; wel, mae cost hynny'n mynd i gynyddu. Mae pobl yn methu â'u fforddio nhw fel y mae hi. Yn lle ein bod ni'n cael ei weld o fel sgìl hollol allweddol, mi fydd yna benderfyniadau anodd yn cael eu gwneud, gan olygu bod yna lai o gyfleoedd, lle, ar yr un pryd, rydyn ni eisiau bod yn hyrwyddo'r agenda ataliadol, a hefyd, o ran cenedlaethau'r dyfodol, y ffaith ein bod ni eisiau i bawb gael yr un cyfle yng Nghymru, lle bynnag maen nhw'n byw. Felly, mae yna heriau gwirioneddol. Dwi'n meddwl mai un o'r pryderon mawr oedd yn dod allan o'r adroddiad hwn oedd y ffaith bod y cynnydd mewn costau yn mynd i gael yr effaith ar y rhai rydyn ni angen bod yn rhoi mwy o gyfleoedd iddyn nhw.
Un o'r pethau y byddwn i'n gofyn i'r Gweinidog, efallai, i ehangu, ydy pam y gwrthodwyd y degfed argymhelliad o ran cynyddu'r ddeialog o ran y sector diwylliannol. Dwi'n derbyn bod gennych chi berthynas dda, ond gaf i ofyn faint o ddealltwriaeth sydd yna, neu faint o fapio sy'n cael ei wneud, o ran y sefyllfa sy'n wynebu'r sector ar y funud, a hynny ledled Cymru, a beth fydd effaith hynny wedyn o ran cynulleidfaoedd? Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd cydweithio efo'r sector addysg ac ati i ddeall beth ydy effeithiau diffyg tripiau ysgol ac ati o ran y mynediad hwnnw.
Un o'r pethau sydd ddim yn glir i fi o ran yr ymateb ydy sut ydyn ni hefyd yn mynd i fod yn adeiladu ar waith pethau fel yr adolygiad amgueddfeydd lleol a fuodd yn 2015, a oedd yn dangos yn glir effaith toriadau blaenorol o ran y gwasanaethau hyn. Mae'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy difrifol rŵan. Felly, efallai fod yna ddeialog, ond lle mae'r gweithredu wedi bod? Heb os, mae'n sefyllfa ariannol hollol, hollol anodd i'n cynghorau lleol ni am mai gwasanaethau anstatudol ydy nifer o'r rhain, gan gynnwys o ran chwaraeon, felly. Felly, os ydyn ni'n cymryd hyn yng nghyd-destun hefyd y gwasanaeth iechyd, mi wnes i sôn yn gynharach ynglŷn â phwysigrwydd chwaraeon a diwylliant o ran yr elfen ataliadol hefyd, ein bod ni'n sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb yng Nghymru. Sut ydyn ni felly yn mynd i fod yn edrych yn wahanol ar gyllidebau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn parhau?
Fe fyddwn i'n hoffi'n gweld neges glir gan y Llywodraeth dydyn ni ddim yn ystyried diwylliant a chwaraeon fel pethau neis i'w cael pan fo amseroedd yn dda, fod hyn yn eithriadol o bwysig o ran gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran pob elfen o'r agenda, o daclo tlodi plant i iechyd y genedl. Felly, a gaf i ofyn, Dirprwy Weinidog, am eich ymateb chi o ran yr hyn sy'n digwydd ledled Cymru, o ran gweld lleihad mewn gwasanaethau yma ar hyn o bryd, a sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau'r mynediad cydradd hwnnw i bawb, lle bynnag y bôn nhw yng Nghymru?