Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 25 Ionawr 2023.
Fel eraill, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ddiolch i'r bobl a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, a diolch i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor am y gwaith a wnaethant yn cynhyrchu'r adroddiad hwn. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn amserol iawn. Mae'n ymdrin â rhai o'r materion mwy sylfaenol sy'n ein hwynebu fel gwlad, ac fel Tom Giffard, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am dderbyn pob un ond dau o'n hargymhellion. Mewn sawl ffordd, mae adroddiad y pwyllgor yn nodi'r hyn a wyddom eisoes—mae'n nodi'r amlwg, fod costau wedi cynyddu—a gwelsom effaith y cynnydd hwnnw mewn costau, a gallwn ddisgrifio mewn ffyrdd gwahanol sut mae'r cynnydd hwnnw wedi effeithio ar y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon yn ein hetholaethau ein hunain. Ond rwyf eisiau gwneud pwynt ychydig yn wahanol y prynhawn yma.
Er ei bod yn deg dadlau bod costau uwch yn cael effeithiau tebyg ar draws y wlad—yr un yw'r costau trydan cynyddol yma ag y byddent ym Mlaenau Gwent—yr hyn y byddwn i'n ei ddadlau serch hynny yw bod yr effaith ar bobl a lleoedd yn wahanol. Os mai ymateb Llywodraeth yn syml yw trin pob lle a phobl yn gyfartal, nid ydynt yn mynd i'r afael â'r problemau go iawn sy'n effeithio ar bobl mewn gwahanol rannau o'r wlad. Cawsom sgwrs yn y cwestiynau amserol am natur cydraddoldeb yn y byd rygbi, ond y pwynt rwy'n awyddus i'w wneud y prynhawn yma yw bod elfen bwysig a sylfaenol o gydraddoldeb ym mhopeth a wnawn o ran y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, ac ar hyn o bryd, rwy'n credu ein bod yn methu prawf sylfaenol cydraddoldeb.
Fe gawsom sgwrs gyda'r Gweinidog yr wythnos diwethaf ynglŷn â chyllideb Llywodraeth Cymru, ac fe wnaeth y Gweinidog yr achos cywir a chlir mai mater i wahanol gyrff, fel Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, yw dosbarthu arian yn ôl y llythyr cylch gwaith a osodwyd ar eu cyfer, a bod y llythyr cylch gwaith yn ymdrin â'r pum mlynedd nesaf. Rwy'n derbyn ac rwy'n cytuno â hynny, a dyna'r ateb cywir i'r cwestiwn, ond mae'n methu'r pwynt. Oherwydd bod gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i osod y llythyr cylch gwaith hwnnw, fel bod yr etholwyr rwy'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent, a'r etholwyr y mae hi'n eu cynrychioli ym Merthyr Tudful mewn gwirionedd, yn cael eu trin yn gyfartal â'r bobl a gynrychiolir yma gan—Mae Jenny Rathbone bob amser yn dal fy llygad wrth imi edrych ar draws y Siambr, ac nid wyf yn pigo arnoch yn fwriadol, Jenny—ond y bobl y mae Jenny'n eu cynrychioli yng nghanol Caerdydd.
Felly, mae'n bwysig fod pobl nad ydynt yn gallu talu'r costau ychwanegol a godir i gael mynediad at weithgaredd diwylliannol neu chwaraeon yn cael cymorth ychwanegol i wneud hynny. Mae'n bwysig fod y lleoliadau a'r cyfleusterau nad ydynt yn gallu cynnal eu rhaglen weithgareddau na'u horiau agor i'r cyhoedd yn gyffredinol yn gallu gwneud hynny, ble bynnag y bônt. Ac mae mwy o ddibyniaeth ar gymorth Llywodraeth a chefnogaeth y Llywodraeth a rôl a lle Llywodraeth mewn llefydd fel Blaenau Gwent na mewn llefydd fel Caerdydd. Felly, os mai'r prawf a osodwn ar gyfer y Llywodraeth yw cydraddoldeb, rwyf am weld y Llywodraeth yn gwneud mwy lle mae'r angen mwyaf a llai lle mae llai o angen. Ac mae hwnnw'n bwynt anodd i'w wneud i'r Llywodraeth, oherwydd mae'r Llywodraeth yn hoffi dweud wrthym fod pob man yng Nghymru'n cael ychydig bach o jam, ac rydym wedi bod yn gwneud hyn ers y 15 mlynedd y bûm yma. Fodd bynnag, mae hynny'n golygu bod rhai pobl yn dal i fod angen mwy o gymorth tra bod eraill yn cael cymorth nad ydynt ei angen yn llawn efallai. Ac rwyf am osod prawf cydraddoldeb i'r Gweinidog wrth ddadlau a thrafod yr adroddiad hwn, oherwydd mae'n bwysig, ac mae'n ymwneud â'r sgwrs a gawsom yn gynharach am gydraddoldeb.
Oherwydd yr hyn y ceisiwn ei gyflawni yng Nghymru yw newid diwylliannol, newid diwylliannol o ran gweithgaredd chwaraeon, fel bod pobl fel fi, sy'n edrych fel fi—a gadewch inni ei wynebu, rwyf wedi prynu siwt newydd bob blwyddyn am y 15 mlynedd diwethaf—yn gallu colli pwysau ac yn gallu cynyddu eu lefelau ffitrwydd. Ond ni allwch ei wneud os ydych chi'n cloi pobl allan o weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd am na allant fforddio'r gost o'u defnyddio. Rydym eisiau gweld newid diwylliannol lle mae pawb yn cael yr un cyfle i fynegi pwy ydynt, eu hunaniaeth ddiwylliannol, eu cefndir eu hunain. Ond os nad ydynt yn mynd i'r lleoliadau diwylliannol sydd eu hangen arnynt i wneud hynny, rydych chi'n eu cloi allan o ddiwylliant ein gwlad.
Felly, os ydym am weld y newid y credaf ein bod i gyd eisiau ei weld, ar bob ochr i'r Siambr fel mae'n digwydd, mae hynny'n golygu na all y Llywodraeth sefyll yn ôl a dweud, 'Ysgrifennais lythyr y llynedd, ac fe ddof yn ôl atoch mewn pum mlynedd arall.' Mae'n golygu bod yn rhaid i'r Llywodraeth fod yn Llywodraeth weithredol, ac ymyrryd yn y materion hyn, fis ar ôl mis ac wythnos ar ôl wythnos, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r Llywodraeth wneud penderfyniadau anodd os yw o ddifrif ynglŷn â chydraddoldeb ac o ddifrif am gyflawni ei huchelgeisiau cydraddoldeb, a dyna rwyf am ei glywed yn eich ateb i'r ddadl hon, Weinidog. Diolch i'r Aelodau.