8. Dadl Plaid Cymru: Lleihau'r pwysau ar y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 6:20, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud yn ei adroddiad diweddar 'Yr argyfwng costau byw yng Nghymru: Drwy lens iechyd cyhoeddus' nad gwasgfa economaidd dros dro yn unig yw'r argyfwng costau byw, mae'n fater iechyd cyhoeddus hirdymor sy'n effeithio ar yr holl boblogaeth. Ni fyddwn byth yn cyflawni'r Gymru decach y mae pob un ohonom yn awyddus i'w gweld os yw ein gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn fodd o fynd i'r afael â chanlyniadau tlodi ac anghydraddoldeb sy'n cyfrannu cymaint ac mewn ffordd mor gywilyddus at yr argyfwng yn ein GIG.