8. Dadl Plaid Cymru: Lleihau'r pwysau ar y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:24, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny. Ond a fyddech chi'n cytuno nad oes angen i bob un o'n hetholwyr weld meddyg teulu? Gallant weld y fferyllydd, gallant weld y nyrs, ac os oes ganddynt ddiabetes maent yn llawer gwell eu byd gyda gwasanaeth diabetes. Felly, nid yw'n ymwneud â meddygon teulu sy'n gyflogedig neu fel arall mewn gwirionedd, ond mae honno'n drafodaeth bwysig.