9. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 6:00, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw hoffwn gyhoeddi cynllun gwella gwasanaethau canser gan GIG Cymru. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd y GIG, ar y cyd, yn ymateb i'r datganiad ansawdd ar gyfer canser a'n hymrwymiadau ehangach i wella gofal diagnostig a diwedd oes i bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw. Mae'n dilyn ymlaen o sawl dadl bwysig rydym wedi eu cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf ar y mater o wella canlyniadau canser a fy ymrwymiad i i gyflwyno cynllun o'r fath.

Rydym yn nodi yn y fframwaith clinigol cenedlaethol y byddem yn disgrifio sut olwg ddylai fod ar wasanaethau clinigol da mewn datganiadau o ansawdd, ac y byddem yn disgwyl i'r GIG gynllunio ar sail y disgwyliadau hynny. Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn gwneud hyn drwy fframwaith cynllunio'r GIG, sy'n canolbwyntio ar wasanaethau canser, ymhlith blaenoriaethau gweinidogol eraill, ac ar hyn o bryd maen nhw'n datblygu'r rhain yn eu cynlluniau tymor canolig integredig, gan nodi eu hymateb. Felly, rwyf wedi nodi chwe maes blaenoriaeth—canser yw un o'r meysydd blaenoriaeth hynny. Mae'r cynllun gwella gwasanaethau canser a gyhoeddwyd heddiw yn cefnogi'r broses honno. Mae'n disgrifio sut mae'r GIG yn bwriadu cyflawni ein bwriadau polisi.

Un o'r meysydd allweddol yn y datganiad ansawdd yw sicrhau gofal yn unol â'r amser aros am ganser. Mae hyn yn golygu y dylai 75 y cant o gleifion sydd angen triniaeth canser ddechrau triniaeth benodol o fewn 62 diwrnod i'r adeg pan gafodd canser ei amau gyntaf. Mae'r disgwyliad hwn wedi bod yn heriol iawn i'w gyflawni ac mae tri phrif reswm am hyn. Y cyntaf yw cyflwyno'r llwybr amheuaeth o ganser newydd, a ailwampiodd sut roeddem ni'n cyfrif pobl ar y llwybr canser—sy'n unigryw yn y DU—gan ddal mwy o bobl yn gynharach ar eu llwybr heb oedi'r cloc amser aros. Yr ail yw'r twf hanesyddol yn y galw am ymchwiliad i ganser a thriniaeth, a achosir gan ffactorau ein poblogaeth a gostwng y trothwy risg ar gyfer atgyfeirio, i sicrhau nad ydym yn colli unrhyw ganserau posib. Ac, yn drydydd, mae cyflawni wedi'i gyfyngu gan gapasiti ein gwasanaeth i atgyfeirio, ymchwilio, trin a gofalu am bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw. Yn fyr, mae'r galw'n tyfu, mae ein capasiti'n ei chael hi'n anodd cadw'i fyny, ac rydym bellach yn llawer gwell wrth gyfrif pawb ar lwybr canser yn gywir. Mae hynny'n trosi i'r perfformiad canser a welwn yn cael ei adrodd, sydd wedi bod yn llawer is na'n holl ddisgwyliadau ers cyflwyno'r llwybr amheuaeth o ganser newydd. Ac mae'n deg dweud bod y pandemig wedi cael ei effaith hefyd. Mae COVID wedi ystumio mynediad a chreu pwysau enfawr yn y system ehangach sydd wedi bod â goblygiadau i ymchwiliadau canser a mynediad i theatrau a gofal critigol.

Cynhaliais uwchgynhadledd o arweinwyr gwasanaethau canser ym mis Hydref i atgyfnerthu ein disgwyliadau cynllunio ein bod yn adfer y nifer ar y rhestr aros canser, ein bod yn lleihau nifer y bobl sy'n aros dros 62 diwrnod, ac yn bwrw ymlaen tuag at y targed hwnnw o 62 diwrnod. Mae pethau'n anodd iawn, iawn, a gwasanaethau'n gweithio'n galed iawn i ddiwallu anghenion cleifion. Ond, rwy'n falch o ddweud bod data rheoli'r GIG yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl sy'n aros dros 62 diwrnod i'w triniaeth ddechrau rhwng mis Hydref a dechrau Rhagfyr, ac mae'n dangos gostyngiad yn y nifer cyffredinol o bobl sy'n aros ar y llwybr canser a gwelliant bach ym mherfformiad canser yn y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer mis Tachwedd. Mae hyn yn dangos bod y GIG yn rhoi'r pwyslais y maen nhw'n ei haeddu i lwybrau canser, er bod y Nadolig, gweithredu diwydiannol ac afiechydon anadlol wedi tarfu ar hynny ac wedi achosi rhagor o heriau i ni yn ystod yr wythnosau diwethaf.