9. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 6:04, 31 Ionawr 2023

Fe wnaethon ni ofyn hefyd am ffocws ar weithredu'r 21 o lwybrau sydd wedi eu cytuno'n genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae hynny'n sylfaenol i'r ffordd y byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod cleifion yn cael y gofal iawn lle bynnag y maen nhw yng Nghymru. Mae'r llwybrau sydd wedi'u safoni yn ein helpu ni i ganolbwyntio ar wella cysondeb ac ansawdd y gofal, ac maen nhw'n cynnwys y llwybr symptomau amhenodol newydd sy'n gysylltiedig â'r canolfannau diagnosis cyflym—y rapid diagnosis centres. Bydd y canolfannau hyn yn dod ar gael i wasanaethu holl boblogaeth Cymru yn ystod y misoedd nesaf, sy'n gam ardderchog ymlaen. Mae llawer ohonyn nhw eisoes yn bodoli, a bydd y rhain mewn lle flwyddyn gyfan cyn Lloegr.

Mae'r datganiad ansawdd yn rhoi pwyslais ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac, yn gynharach y mis yma, mi wnes i siarad am ganlyniadau'r arolwg profiad cleifion canser. Roedd hwn yn dangos, hyd yn oed yn ystod y pandemig, fod 92 y cant o gleifion wedi dweud bod eu gofal yn 'dda' neu'n 'dda iawn'. Roedd yr arolwg hefyd yn rhoi gwybodaeth bwysig am fynediad at weithwyr allweddol a chyngor ar fudd-daliadau, a bydd hyn nawr yn rhan o waith lleol ar wella profiad cleifion.

Dwi hefyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ar y system gwybodaeth canser. Dyma'n buddsoddiad o £11 miliwn mewn system i gymryd lle'r cofnod digidol o gleifion canser. Fe gyrhaeddon ni garreg filltir bwysig cyntaf y rhaglen gyffredinol ym mis Tachwedd, wrth i Ganolfan Ganser Felindre ddechrau defnyddio system gweinyddu cleifion Cymru i reoli clinigau, a dechrau defnyddio'r cofnod digidol newydd ar gyfer cleifion sy'n cael gofal canser. Mae hyn wedi datrys risg fawr o ran parhad gwasanaethau, sy'n rhywbeth roedd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus wedi tynnu sylw ato.

Rŷn ni gyd yn gwybod pa mor hanfodol yw datblygu'r gweithlu, a dyna pam rŷn ni wedi ymrwymo i gynllunio'r gweithlu i gwrdd â'r angen am ofal canser yn y dyfodol. Felly, rôn i'n falch, ar 18 Ionawr, i gyhoeddi'r cynllun addysg a hyfforddiant gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Roedd hwn yn cynnwys cynnydd, am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn y swyddi hyfforddi uwch mewn oncoleg glinigol a meddygol, yn ogystal â chynnydd pellach mewn hyfforddi radioleg glinigol a gofal lliniarol, sy'n rolau hanfodol mewn llwybrau canser.

Mae yna nifer fawr o feysydd eraill i'w nodi neu eu dathlu, gan gynnwys rhaglen llawfeddygaeth robotig Cymru gyfan, y canolfannau rhagoriaeth newydd ar gyfer canser y fron, gostwng oed sgrinio'r coluddyn, a mwy o bobl yn cymryd rhan yn y rhaglen. Ond, dwi am gloi trwy gyfeirio at ein cyhoeddiad yr wythnos diwethaf o fwy na £86 miliwn ar gyfer offer a chyfleusterau radiotherapi newydd, gan gynnwys canolfan radiotherapi ategol newydd yn y Fenni. Gyda'i gilydd, mae'r datblygiadau yma, sy'n cael eu disgrifio yn y cynllun gwella gwasanaethau canser, yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi gwell gwasanaethau a chanlyniadau canser. Dwi'n gobeithio y byddwn nhw'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r bobl sy'n darparu ac, wrth gwrs, i'r rheini sy'n derbyn gofal canser yma yng Nghymru. Diolch.