Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:50, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau'r broses rownd gyflogau'r GIG yn ffurfiol ar gyfer 2023-24 drwy anfon llythyr cylch gwaith at gorff adolygu cyflogau'r GIG. Cafodd tystiolaeth Llywodraeth Cymru i'r corff adolygu cyflogau, ynghyd â'r llythyr, ei anfon ar 11 Ionawr, yr un diwrnod pan ddywedodd yr undebau iechyd nad oedden nhw bellach yn barod i ymgysylltu â phroses corff adolygu nad oedden nhw'n ymddiried ynddi bellach, gan alw yn hytrach am drafodaethau uniongyrchol gyda'r Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Pam dechrau anghydfod newydd gyda'r undebau dros gyflog y flwyddyn nesaf hyd yn oed cyn i'r anghydfod cyflog eleni gael ei ddatrys? Sut mae hynny'n mynd i ailadeiladu ymddiriedaeth y gweithlu?