Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:49, 31 Ionawr 2023

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf innau, ar ran grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, ond hefyd ar ran y blaid yn fwy eang, estyn ein cydymdeimladau dwysaf ni hefyd i'r Prif Weinidog ar ei golled? Mae'n ergyd y mae'n anodd amgyffred â hi, a dweud y gwir, ac rŷn ni eisiau gwneud yn sicr ei fod e'n ymwybodol faint o gefnogaeth rŷn ni eisiau dangos iddo fe yn y cyfnod anodd yma, ac mae hynny, fel sydd wedi cael ei ddweud eisoes, yn cael ei rannu mor eang. Mi oeddwn i yng nghynhadledd Melin Drafod ar y penwythnos, ac mi oedd pobl yno hefyd wedi teimlo yr ergyd o'r golled yma a'r ing y mae'r Prif Weinidog yn ei wynebu.