1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2023.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu adnewyddu economaidd yn dilyn y pandemig yn Islwyn? OQ59069
Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru. Rydyn ni'n cryfhau'r sectorau ledled economi Cymru drwy ganolbwyntio ar gymorth i gwmnïau arloesi ac arallgyfeirio, cyflymu datgarboneiddio busnesau, a buddsoddi mewn seilwaith sy'n gydnerth o ran yr hinsawdd.
Diolch, Trefnydd. Roedd gan gaffi annibynnol poblogaidd, o'r enw Marmajo's, safle ar stad ddiwydiannol Pen-y-fan yng Nghrymlyn nes iddo gau yn ddiweddar iawn, ac fe wnaeth y perchennog, Charlie Allcock, benderfyniad anodd iawn yn groes i'r graen, ar ôl gwylio ei biliau ynni yn cynyddu deirgwaith i bron i £1,800 y mis. Hefyd, ym Mhontllanfraith, ailagorodd clwb bowlio Islwyn yn dilyn cyfyngiadau'r pandemig, ond mae'r bar a'r ystafell ddigwyddiadau hefyd yn dal i fod ar gau wrth i'r awdurdod lleol geisio dod o hyd i rywun i gymryd yr awenau, ac mae angen sicrhau ochr fasnachol y clwb yn y dyfodol. Ac yn y Coed Duon, mae HSBC wedi cyhoeddi eu bwriad i gau eu cangen ym mis Gorffennaf eleni. Felly, mewn cymunedau ledled Islwyn, mae canlyniadau 13 mlynedd oer o gyni'r Torïaid a'r pandemig, ac erbyn hyn argyfwng costau'r Torïaid, yn cael gwared ar wead pwysig bywyd cymunedol neu yn ei beryglu. Trefnydd, mae pobl Islwyn yn ddiolchgar am Lywodraeth Lafur Cymru sy'n ceisio, o fewn ei swyddogaethau datganoledig ac o fewn ei hamlen ariannol lem, i annog gweithgarwch economaidd. Un maes o'r fath weithgarwch gan Lywodraeth Cymru yw'r celfyddydau creadigol. Dywedodd swyddogion gweithredol Netflix yr wythnos diwethaf wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig bod eu sioeau, fel Sex Education, a welodd ffilmio yng nghanol tref Newbridge ac ar draws Gwent, wedi cyfrannu £200 miliwn at economi Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Pa lwybrau llawn dychymyg eraill, Trefnydd, sy'n agored i Lywodraeth Cymru i geisio dod â bywyd ac egni i fywyd economaidd Islwyn?
Diolch yn fawr, ac mae'n ddrwg iawn gen i glywed am y busnesau a'r sefydliadau yn eich etholaeth sydd wedi gorfod cau yn anffodus. Fel y gwyddoch chi, yma yng Nghymru, mae gennym Busnes Cymru, ac mae hwnnw ar fin dathlu ei ddegfed pen-blwydd, ac maen nhw wedi darparu un gwasanaeth integredig i gefnogi busnesau drwy'r cyfnod economaidd anodd ac ansicr iawn hwn. Mae hynny'n cynnwys yn ystod y pandemig, wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg yr argyfwng costau busnes presennol. Cefnogwyd bron i 32,000 o fusnesau drwy'r gronfa cadernid economaidd yn ystod y pandemig, ac mae cymorth uniongyrchol ar gael i fusnesau sy'n parhau i wynebu ansicrwydd oherwydd yr argyfwng costau byw, yr argyfwng busnesau ac, wrth gwrs, y dirwasgiad. Mae llawer o fusnesau yn eich etholaeth wedi cael cymorth ac, fel y gwyddoch chi, rydym wedi cyflwyno'r rhaglen gwella cynhyrchiant busnes yn ddiweddar. Bwriad honno yw cefnogi busnesau gweithgynhyrchu bach a chanolig hefyd.
Gweinidog Busnes, mae pobl yn Islwyn, ers 2019, wedi gweld cynnydd mewn termau real o ddim ond £2.59 yn eu henillion wythnosol. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddigon i gynyddu ar yr un raddfa â chwyddiant, a'r unig ffordd i frwydro yn erbyn hyn yng Nghymru yw drwy wirioneddol gefnogi ein sector preifat a gwneud Cymru'n lle mwy deniadol i fuddsoddi ynddo fel y gallant gyflogi mwy o bobl ar gyflogau gwell. Yn amlwg, nid yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd, gyda Chymru wedi gweld y cwymp mwyaf mewn cyflogaeth yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf. Gweinidog Busnes, sut ydych chi'n bwriadu rheoli'r duedd bryderus hon?
Rwy'n anghytuno â'r Aelod yn ddirfawr nad yw Cymru'n lle deniadol i wneud busnes ac i ddod â busnesau newydd yma. Rwy'n credu bod angen i chi edrych ar ein hanes blaenorol a hefyd y gwaith mae Banc Datblygu Cymru wedi ei wneud. Soniais am y rhaglen gwella cynhyrchiant busnes sydd wedi'i chyflwyno'n ddiweddar sy'n denu busnesau newydd. Unwaith eto, cyfanswm nifer y swyddi sydd wedi'u creu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn etholaeth Rhianon Passmore oedd 621 o swyddi, gyda 220 o fusnesau newydd yn cychwyn, ac wedi darparu cefnogaeth bwrpasol i 1,102 o fusnesau yng Nghaerffili.