3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2023.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ganolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr? OQ59050
Diolch am y cwestiwn.
Rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r ganolfan awyrofod. Rydyn ni'n parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Gwynedd, gweithredwr y safle a phartneriaid eraill i helpu i ddenu buddsoddiad i'r safle. Rydym ni'n cydnabod ei botensial byd-eang i'r sector gofod yng Nghymru, ac o ran denu gweithgarwch economaidd i Wynedd wledig.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi buddsoddi milynau i mewn i ddatblygu canolfan awyrofod Eryri yn Llanbedr, ac mae gan y Llywodraeth uchelgeisiau arallfydol ar gyfer datblygu Cymru fel cenedl sy'n arwain mewn technoleg ofod. Ond, dywed arbenigwyr yn y maes, a'r tenantiaid sydd ar y safle, fod gwireddu'r uchelgeisiau yma am fod yn amhosibl heb wella'r isadeiledd i gyrraedd y safle. Yn absenoldeb unrhyw arian cyhoeddus i adeiladu'r ffordd gyswllt, mae'n anodd iawn gweld sut nad ydy uchelgeisiau'r Llywodraeth yn ddim byd ond breuddwyd gwrach. Pa gynllun credadwy sydd gan y Llywodraeth ar gyfer maes awyr Llanbedr felly, ynteu ydy'r Gweinidog yn hapus i weld arfordir Meirionydd yn ddim byd mwy na maes chwarae ar gyfer ymwelwyr? Diolch.
Na, nid dyna'r weledigaeth sydd gen i'n unigol, nac, yn wir, y Llywodraeth. Rydyn ni wedi gweld dros £3.5 miliwn o fuddsoddiad cyhoeddus yn y safle ers 2012. Rydyn ni hefyd wedi gweld ystod o weithgarwch, gan gynnwys systemau awyrennau wedi'u treialu o bell a rhaglenni profi a gwerthuso awyrennau di-griw o ganlyniad. Rydyn ni'n chwilio am lesddalwyr y safle i weithio gyda ni i ddylunio'r dyfodol mewn gwirionedd, oherwydd mae rhannau eraill o'n sector gofod cynyddol sydd â diddordeb yn y defnydd o Lanbedr yn y dyfodol fel safle iddyn nhw. Nid yw'n ymwneud â Spaceport Cernyw. Fe fyddwch chi wedi gweld yr hediad na wnaeth lwyddo i fynd i'r gofod, ond roedd un o'r cwmnïau oedd yno yn gwmni Cymreig. Maen nhw hefyd yn edrych ar y potensial, nid yn unig yng Nghernyw, ond beth allen nhw wneud yn Llanbedr hefyd. Felly, rwy'n credu mai'r her yw sut rydyn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw, gyda'r partner buddsoddi cywir, i weld y potensial hwnnw'n cael ei wireddu mewn gwirionedd. Felly, dydw i ddim yn cymryd y farn negyddol sydd gan yr Aelod yn ei ymateb. Rwy'n credu bod dyfodol cadarnhaol iawn o hyd ar gyfer gweithgarwch datblygu economaidd sylweddol o amgylch y safle hwnnw i'w etholwyr a thu hwnt.