Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 31 Ionawr 2023.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Mae'n ddatganiad hirddisgwyliedig, a thra bod yna lawer o bethau yno i'w groesawu, mae'n flin gen i ddweud fy mod i hefyd yn siomedig.
Os caf i gychwyn efo BVD. BVD, fel rydyn ni wedi clywed, ydy un o'r heintiau a'r heriau mwyaf sydd yn wynebu'r sector gwartheg yng Nghymru, ac yn wir, yn y Deyrnas Gyfunol. Mae yna lawer gormod o wartheg yn dioddef o'r haint erchyll yma, ac mae'n arwain at bryderon ynghylch lles anifeiliaid, lles busnesau bach cefn gwlad, a lles ein ffermwyr a'u teuluoedd. Ond y gwir anffodus ydy bod y sector milfeddygol yn dweud wrthyf i ei fod hefyd yn rywbeth cymharol hawdd i fynd i'r afael ag e.
Mae yna £10 miliwn eisoes wedi cael ei wario er mwyn mynd i'r afael â'r haint yma. Fel y soniodd y Gweinidog, mae canran fawr—dros 80 y cant—o'r gyrrod—beth bynnag yw lluosog 'gyr' yn y Gymraeg—wedi cael eu trin. Ond dwi'n meddwl mai'r Athro George Gunn, sy'n arbenigo mewn epidemioleg milfeddygol, ddywedodd mai'r allwedd i lwyddiant unrhyw bolisi i fynd i'r afael â BVD ydy momentwm. Yn anffodus, yn ôl beth welaf i yma heddiw, mae'r momentwm hwnnw a oedd wedi dechrau yma yng Nghymru am ddirwyn i ben. Bydd y £10 miliwn o bres Ewropeaidd a wariwyd yn wastraff heb fod yna barhad efo hyn. Yr unig ffordd go iawn o sicrhau parhad llwyddiant y rhaglen yma ydy trwy ddeddfu, fel rydym ni wedi clywed. Mae'n rhaid deddfu er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn parhau i brofi. Dyna beth roeddwn i, y milfeddygon a'r ffermwyr yn gobeithio ei glywed heddiw. Ac er fy mod yn croesawu'r uchelgais tuag at hyn, mae yna beryg go iawn y byddwn yn colli momentwm os nad ydym yn gweld Bil yn cael ei gyflwyno.
Mi oeddech chi'n sôn am adeiladu ar lwyddiant phase gwirfoddol y cynllun BVD ac am fynd ymlaen i'r phase nesaf. Ond mae'r datganiad yn gorffen yn sydyn yn fanno. Dwi'n gwybod y bydd milfeddygon a ffermwyr sy'n gwrando yn gwbl rhwystredig heddiw, oherwydd ble mae'r manylion am y phase nesaf? Dydyn ni ddim yn gwybod. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni beth ydy manylion y phase nesaf. Sut ydyn ni am adeiladu ar y gwaith yma? Sut mae'r Gweinidog yn disgwyl i ffermwyr barhau i brofi yn wirfoddol? Mae profi yn costio, wrth gwrs. O ble ddaw'r pres ar gyfer y profion yma? Am ba hyd mae'r phase nesaf am fod? Ond, yn bwysicach fyth, pryd fedrwn ni ddisgwyl Bil er mwyn gorfodi hyn? Fan leiaf, a gawn ni amserlen glir ar gyfer deddfwriaeth, os gwelwch yn dda?
Yn olaf, efo'r clafr, mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol, a dwi'n ei groesawu. Ond, unwaith eto, mae yna wendid sylfaenol, sef y diffyg mewn cefnogaeth statudol i gynlluniau i fynd i'r afael â'r clafr. Mewn ateb i gwestiwn gen i rai misoedd yn ôl ynghylch yr addewid i roi £5 miliwn i gynllun er mwyn mynd i'r afael â'r clafr, fe ddywedodd y Gweinidog yn ei hymateb ei bod hi wedi rhoi swm sylweddol, ond bod COVID wedi amharu ar y rhaglen. Rwy'n deall nad oedd hwnnw ar y pryd yn gwbl gywir, ac efallai i'r Gweinidog gamsiarad. Felly, a all y Gweinidog heddiw gadarnhau os mai'r un pres ydy'r £4.5 miliwn yma sy'n cael ei gyhoeddi heddiw a gafodd ei gyhoeddi'n flaenorol, ac felly nad pres newydd ydy o, ond ailddatgan rhywbeth a wnaed yn flaenorol ydy hwn, yntau ai pres newydd ydy hwn?
Yn olaf, mae cyhoeddiad diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod am gynyddu'r ffi o gael gwared ar ddip defaid i 10 gwaith y pris presennol wedi codi braw ar ffermwyr, ac, yn wir, mewn peryg o arwain at lai o ddipio, a fydd yn niweidio ffermwyr, busnesau gwledig a lles anifeiliaid. Mi fuasai hyn yn mynd yn groes i unrhyw uchelgais gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r clafr. Yn yr ymgynghoriad, roedd yna sôn bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn barod i ganiatáu hepgor peth o'r ffioedd, efo ffioedd llai, hwyrach, er mwyn rheoli heintiau. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddwyn perswâd ar Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud ar draws y bwrdd, i bob fferm sy'n delio efo defaid, er mwy galluogi ffermwyr i barhau i ddipio yn ddiogel, a sicrhau lles eu hanifeiliaid? Diolch.