Diogelwch Adeiladau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddiogelwch adeiladau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn berchen arnynt? OQ59098

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:36, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am gyflwr ei ystad ei hun. Gellir cyflwyno achosion busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid cyfalaf ar gyfer blaenoriaethau a aseswyd y bwrdd iechyd, y mae'n rhaid eu hystyried yn erbyn cefndir pwysau cyfalaf sylweddol ar draws GIG Cymru.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Trefnydd. Nawr, yn syfrdanol, mae tua 74 y cant o'r adeiladau sy'n eiddo i'r bwrdd hwn yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch statudol, dim ond 64 y cant sy'n cydymffurfio â gofynion diogelwch tân statudol perthnasol, a dim ond 62 y cant sy'n weithredol ddiogel. Ac mae hynny'n bryder mawr iawn i fy etholwyr a hefyd i gleifion ar draws y gogledd. Yn Ysbyty Gwynedd, mae'r dyluniad a'r cynllun yn peri risgiau atal a rheoli heintiau mewn gwirionedd. Mae gan yr ysbyty rydych chi'n ei gefnogi'n uniongyrchol, Ysbyty Glan Clwyd, ôl-groniad cynnal a chadw o £37 miliwn erbyn hyn. Ac mae gan Bryn y Neuadd, yn Llanfairfechan, ôl-groniad o £27.7 miliwn, a 70 y cant o'i arwynebedd llawr sydd wedi'i feddiannu wedi'i nodi'n 'weithredol anaddas'. Ac mae gan yr ysbyty penodol hwnnw rai cleifion agored iawn i niwed yno. Maen nhw'n haeddu gwell.

Nawr, mae strategaeth ystad y bwrdd iechyd yn dweud bod,

'cyflwr ffisegol a chydymffurfiad statudol yr ystad wedi gwaethygu ers Strategaeth Ystad 2019'.

Nawr, er y byddwn i'n hoffi eglurder ynghylch pa gymorth ariannol y byddwch chi'n ei ddarparu, yn syml, nid yw hon yn sefyllfa dda i fwrdd iechyd sy'n symud o un argyfwng, neu un sgandal neu stori, o wythnos i wythnos. Nawr, ar ryw adeg, pryd ydych chi'n mynd i edrych mewn gwirionedd ar reolaeth y bwrdd iechyd hwn? Ac, mewn gwirionedd, o ran rhywbeth fel hyn, pe bawn i'n gyfrifol am gynnal a chadw a chynhaliaeth adeiladau mewn swydd reoli, byddwn yn disgwyl i ryw fath o ôl-effeithiau ddeillio o adroddiad mor wael. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd, Trefnydd, i wneud yn siŵr y gall fy etholwyr, a chleifion eraill ar draws y gogledd—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:38, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwyf i wedi bod yn eithriadol o hael, Janet Finch-Saunders, felly gofynnwch y cwestiwn nawr.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Iawn. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau y gall fy etholwyr, a chleifion ar draws y gogledd, dderbyn eu triniaeth feddygol mewn cyfleusterau diogel? Diolch.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n gwybod pa gamau y gallech chi eu cymryd, a gallech chi roi rhywfaint o bwysau ar eich Llywodraeth yn San Steffan i gynyddu ein cyllidebau cyfalaf. Nid yw ein cyllidebau cyfalaf wedi cael eu cynyddu gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, rydym ni wedi ymrwymo mwy na £335 miliwn tuag at brosiectau cyfalaf y GIG a gofal cymdeithasol pwysig yn y flwyddyn ariannol hon, a £375 miliwn arall y flwyddyn nesaf i gynorthwyo'r sefydliadau hynny, oherwydd mae ar draws Cymru gyfan. Rydyn ni'n gwybod bod gennym ni lawer o'n hadeiladau, ym mhob ysbyty a bwrdd iechyd yng Nghymru—. Mae rhai ohonyn nhw dros 30 oed. Felly, rydyn ni'n gwybod y bu cynnydd mewn ffigurau ôl-groniad, er enghraifft, a gwn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyfarfod â chadeirydd y bwrdd iechyd a phrif weithredwr dros dro Betsi i drafod pa flaenoriaethu sydd gan y bwrdd iechyd, oherwydd, fel y dywedais yn fy ateb agoriadol i chi, mater iddyn nhw yw nodi'r blaenoriaethau sydd ganddyn nhw, ac yna gwneud y ceisiadau i Lywodraeth Cymru. Ond mae'n rhaid i chi werthfawrogi'r pwysau ar ein cyllideb gyfalaf.