Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:45, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud y bu trafodaethau gyda Dyn Gwyrdd am safleoedd posibl ers cryn amser. Nid rhywbeth a ddigwyddodd yn gyflym iawn oedd hyn. Roedd y trafodaethau hynny wedi bod yn digwydd ers tro, ac roedd yr achos busnes amlinellol lefel uchel a ddarparwyd yn ddigon i fwrw ymlaen â'r pryniant. Felly, fel y dywedais, rwy'n meddwl bod llawer o bethau cadarnhaol yn y llythyr hwnnw gan yr archwilydd cyffredinol ac rydym ni'n croesawu hynny'n fawr, ac yn amlwg byddwn yn ceisio dysgu gwersi fel bob amser. Mae gwersi i'w dysgu bob amser.