Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 7 Chwefror 2023.
Gweinidog, ceir busnesau ar hyd a lled y wlad sy'n gwneud ceisiadau i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am gymorth, weithiau am sawl can punt, weithiau am filoedd, weithiau am ddegau o filoedd, os nad miliynau. Yma mae gennym ni ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru o £4.5 miliwn pryd na allwch chi gyfeirio at yr un nodyn na chofnod o'r rhyngweithio rhwng darpar fuddiolwr yr ymyrraeth honno a swyddogion y Llywodraeth a oedd yn gwneud penderfyniadau i gynghori'r Gweinidog ar y pryd. A dweud y gwir, fe wnaeth yr un swyddogion Llywodraeth gomisiynu'r gwerthwyr a'r cwmni cyfreithiol i wneud y gwaith heb gyngor gweinidogol. Daeth eu cyngor i ben cyn i'r Gweinidog ddweud mewn gwirionedd y gallen nhw wario'r £60,000 ar gaffael y gwasanaeth hwnnw.
Fy mhwynt i yw bod llawer o fusnesau ar hyd a lled Cymru—a byddwch yn gyfarwydd â hyn o'ch bag post fel Aelod etholaeth—yn achwyn am lefel yr wybodaeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei darparu i gefnogi cais am grant. Rydym ni'n deall bod yn rhaid cadw cydbwysedd, gan ei fod yn arian cyhoeddus. Ond pam, yn yr achos hwn, nad oedd yr un—dim un—nodyn y gellid cyfeirio ato i ddangos lefel y rhyngweithio a'r hyn a drafodwyd, o gofio'r ymyrraeth gyflym iawn a'r amser cyflawni a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth yn yr agwedd benodol hon ar brynu'r fferm, y mae'r archwilydd cyffredinol yn tynnu sylw ato. Nid oedd unrhyw bwysau amser, oherwydd nid oedd prynwr arall ar ôl yr eiddo. Mae hyn yn ei adroddiad. Gallaf weld y Gweinidog yn troi rownd ac yn dweud, 'Nid yw hynna'n wir.' Mae yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol. Ni allai ddod o hyd i unrhyw gyfyngiad amser arall ac eithrio cyfyngiad amser hunanosodedig Llywodraeth Cymru. Felly, gofynnaf i chi eto: pa enghreifftiau yn eich gyrfa weinidogol allwch chi feddwl amdanyn nhw pryd na fyddai rhyngweithio o'r fath wedi arwain at gofnod, nodyn, cofnod ysgrifenedig fel y gellid cadw'r rheini yn y broses atebolrwydd a thryloywder ac y gall pobl deimlo y bydd ganddyn nhw siawns teg pan fyddan nhw'n gwneud cais am gyllid Llywodraeth?