– Senedd Cymru am 2:15 pm ar 7 Chwefror 2023.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd eto sy'n gwneud y datganiad yma. Dwi'n galw arni i gyflwyno'r datganiad. Lesley Griffiths.
Diolch. Does dim newidiadau i'r busnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw eto am ddatganiad llafar ar yr ymchwiliad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymwneud â'r digwyddiadau a achosodd i amodau gael eu gosod ar gyfrifon 2021-22 a'r ymchwiliad gwrth-dwyll dilynol gwerth £122 miliwn, sydd bellach ar y gweill? Mae llawer o gwestiynau gan bobl yn y gogledd ac maen nhw eisiau atebion iddynt, gan gynnwys a yw'r ymchwiliad hwn yn ymestyn y tu hwnt i'r bwrdd iechyd, pryd ddaw i ben, a oes unrhyw erlyniadau yn debygol, a fydd goblygiadau ariannol sylweddol i wasanaethau'r GIG yn y gogledd i'n trigolion lleol, a fydd rhagor o amodau i'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac a oes yna hefyd swyddogion Llywodraeth Cymru a allai fod yn gysylltiedig â hyn. Rwy'n credu bod y rhain yn gwestiynau teg, y mae angen atebion iddyn nhw, a byddai'n ddefnyddiol pe gallem gael datganiad llafar y gallwn ofyn cwestiynau i'r Gweinidog amdano. Rwy'n gweld bod y Gweinidog yn nodio, felly mae'n ymddangos y gallwn ni gael un.
Mae'r cwestiynau rydych chi'n eu gofyn yn deg iawn ac mae angen ateb trylwyr. Does gen i ddim yr atebion ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei bod hi ychydig yn rhy gynnar ar hyn o bryd mae'n debyg, ond rwy'n credu ar yr adeg fwyaf priodol, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad.
Trefnydd, rydyn ni i gyd wedi ein dychryn, yn briodol, gan y dystiolaeth sydd wedi ei chyflwyno yn ymwneud â rhywiaeth, casineb at fenywod a hiliaeth o fewn Undeb Rygbi Cymru. Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, cafodd un o bwyllgorau craffu'r Senedd gyfle i holi URC a Dirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon yr wythnos ddiwethaf ar y mater. Yn ystod y sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru, roedd hi'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod am rai honiadau difrifol ym mis Mai 2022, a bod trafodaethau wedi bod rhwng y Dirprwy Weinidog ac URC ar y materion hyn. Hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon ar y mater hwn, yn egluro'r hyn oedd yn hysbys i Lywodraeth Cymru a phryd, ac yn amlinellu pa gamau a gymerwyd. O ystyried budd y cyhoedd yn y mater ac arwyddocâd yr honiadau a wnaed, byddwn i'n croesawu cyfle i'r Senedd gyfan gael yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ag URC yn ystod y cyfnod hwnnw.
Diolch. Yn dilyn ymddangosiad cadeirydd a phrif weithredwr dros dro URC o flaen y pwyllgor, ac yn amlwg y Dirprwy Weinidog diwylliant a'r celfyddydau a'i swyddogion, rwy'n credu mai'r cam nesaf, a'r cam mwyaf priodol, yw i'r Gweinidog ysgrifennu at y pwyllgor.
Cyhoeddodd Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi adroddiad oedd yn achosi llawer o bryder ddydd Gwener am ei harolygiad dirybudd o garchar Eastwood Park. Cynhaliwyd yr archwiliad hwnnw ym mis Hydref, ac mae'r amodau a ddisgrifiwyd gan yr arolygiaeth yn anodd iawn i'w darllen: staeniau gwaed ar y wal, trallod meddwl eithafol, gan gynnwys achosion o hunan-niweidio a oedd yn gwaethygu, nad oedd y staff, a oedd yn ceisio'u gorau ond a oedd wedi'u hyfforddi'n wael, yn gallu ymdopi â nhw. Gan mai dyma'r prif garchar lle mae menywod de Cymru yn cael eu carcharu, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gael gwybod ar ba bwynt y cafodd wybod am yr amodau hyn a beth sydd wedi'i wneud yn y tri mis diwethaf hyn i wella'r sefyllfa enbyd i fenywod sy'n ddifrifol wael ac eto'n cael eu carcharu ar ddedfrydau byr iawn mewn amodau gwirioneddol ofnadwy.
Diolch. Rwy'n gwybod bod yr adroddiad wedi bod yn ddirdynnol iawn i'w ddarllen. Nododd fylchau sylweddol mewn gofal a diffyg cefnogaeth go iawn i rai menywod gofidus ac agored iawn i niwed. Mae'n bwysig iawn bod menywod sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol yn cael eu cadw mewn cyfleusterau diogel a sicr sy'n gwbl addas i'r diben. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod ar ymweliad yno yn ddiweddar gyda'r Cwnsler Cyffredinol a bydd yn gwneud datganiad ysgrifenedig.
Galwaf am ddau ddatganiad llafar neu ddadl yn amser Llywodraeth Cymru ar ddau fater pwysig.
Y cyntaf o'r rhain yw cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch i bobl sydd â nam ar y synhwyrau. Mae gan wasanaethau cyhoeddus ddyletswyddau cyfreithiol o dan adran 20 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau bod pobl anabl yn gallu defnyddio gwasanaethau yn gyfartal â phobl nad ydynt yn anabl, a elwir yn ddyletswydd addasiadau rhesymol. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod pobl sydd â nam ar y synhwyrau yn cael gwybodaeth ar ffurf y gallant ei ddarllen a'i ddeall. Fodd bynnag, yn dilyn ymateb y Gweinidog Iechyd i'r llythyr ar y cyd gan RNIB Cymru a'r RNID yng Nghymru yn gofyn am eglurder ynghylch safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch i bobl â nam ar y synhwyrau, fe wnaethon nhw ateb gan amlinellu nifer o bryderon parhaus sydd ganddyn nhw o hyd, ac fe wnaethon nhw eu rhannu gyda mi hefyd gan mai fi yw cadeirydd y grwpiau trawsbleidiol ar anabledd ac ar faterion byddar.
Fe wnaethon nhw dynnu sylw at y diffyg craffu, atebolrwydd ac adrodd ynghylch gweithredu'r safonau ar draws GIG Cymru, a bod hon yn broblem o ran diogelwch cleifion. Fe wnaethon nhw alw ar Lywodraeth Cymru am eglurder ynghylch pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi clustnodi'r adnoddau angenrheidiol i benodi arweinydd hygyrchedd, er gwaethaf derbyn hyn fel argymhelliad ar ddau achlysur gwahanol, a wnaed yn wreiddiol gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Senedd ac yna eto gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fe wnaethon nhw alw am ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y safonau'n cael eu gwreiddio o fewn byrddau iechyd a bod cynllun gweithredu, targedau ac amserlenni clir yn cyd-fynd â nhw. Fe wnaethon nhw alw am adrodd tryloyw a chyhoeddus ar y safonau, yn nodi pa dargedau nad ydynt yn cael eu cyrraedd gan ba fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau. Felly, rwy'n galw am ddatganiad llafar neu ddadl yn unol â hynny.
Galwaf hefyd am ddatganiad llafar neu ddadl yn amser Llywodraeth Cymru ar gefnogaeth i blant byddar yng Nghymru. Mae Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru wedi rhybuddio am argyfwng addysgol ar y gorwel i blant byddar yng Nghymru. Mae arolwg y Consortiwm ar gyfer Ymchwil i Addysg Fyddar o awdurdodau lleol yn dangos bod nifer yr athrawon sy'n fyddar yng Nghymru wedi gostwng 20 y cant dros y degawd diwethaf. Yn ogystal â hynny, mae mwy na thraean o athrawon sy'n fyddar ledled Cymru dros 50 oed, sy'n golygu eu bod nhw'n debygol o ymddeol yn y 10 i 15 mlynedd nesaf.
Mark, mae angen i chi ddod i ben nawr.
Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu strategaeth gweithlu ledled Cymru i recriwtio staff arbenigol i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol plant byddar, darparu cyllid er mwyn sicrhau bod digon o ddarpariaeth hyfforddiant i greu cenhedlaeth newydd o athrawon sy'n fyddar, ac i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod pob rhiant yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael trwy'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol. Dyma'r ffaith y tu ôl i'r rhethreg.
Galwaf eto am ddatganiad llafar brys neu ddadl yn amser Llywodraeth Cymru ar y ddau fater hyn, efallai wedi'u cyfuno neu efallai ar wahân. Diolch.
Diolch. O ran eich ail gwestiwn, rydych chi'n hollol iawn; mae'n hanfodol bod anghenion dysgu plentyn byddar yn cael eu diwallu'n llwyr. Fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg ysgrifennu atoch ar y mater.
O ran eich cais cyntaf—ni fydden nhw'n gallu cael eu gwneud gyda'i gilydd, oherwydd byddai'n ddau Weinidog gwahanol—rwy'n gwybod bod swyddogion y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda'r tasglu cydraddoldeb anabledd, ac ar yr adeg fwyaf priodol, rwy'n siŵr y bydd hi'n gallu ysgrifennu atoch gydag ychydig o wybodaeth bellach.
Mi fuaswn i'n licio gofyn am ddadl a datganiad ar frys yn amser y Llywodraeth ar ddyfodol deintyddiaeth yng Nghymru, achos mae'n rhaid i fi ddweud ei bod hi'n anodd gweld dyfodol i ddeintyddiaeth NHS yng Nghymru ar hyn o bryd. Flwyddyn yn ôl, mi oedd yna naw deintyddfa yn darparu gwasanaethau NHS yn Ynys Môn. Erbyn hyn, dim ond chwech sydd yna. Deintyddfa yng Nghaergybi ydy'r diweddaraf i roi gwybod i gleifion na fyddan nhw'n trin cleifion NHS o hyn ymlaen. Mae pobl yn clywed y dylen nhw fynd i chwilio am ddeintyddfa arall, ond does yna ddim deintyddfeydd eraill ar gael, a prin ydy hyder y bwrdd iechyd y gallan nhw ddod o hyd i rai i ddarparu gwasanaethau. A bod yn onest, er ein bod ni wedi colli'r tri yna, gyda'r lefel o forâl fel ag y mae o, a diffyg hyder yn y Llywodraeth, mi allen ni golli mwy. Mae iechyd deintyddol pawb yn mynd i ddioddef—pawb ar draws cymdeithas—ond wrth gwrs, y rhai lleiaf breintiedig sy'n mynd i ddioddef fwyaf. Maen nhw'n mynd i ddioddef yn unigol ac rydyn ni fel cymdeithas yn mynd i dalu'r pris am hynny. Mae angen sortio hyn allan, neu mi fydd y twll rydyn ni ynddo fo yn mynd yn ddyfnach. Rydyn ni angen i'r Llywodraeth gyflwyno cynllun am sut rydyn ni'n mynd i symud ymlaen o hyn, a hynny ar frys.
Diolch. Byddwch yn ymwybodol bod y mwyafrif o ddeintyddion yn ymarferwyr hunangyflogedig annibynnol. Maen nhw'n gallu dewis sut maen nhw'n treulio'u hamser. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw brinder deintyddion, ond rwy'n credu bod yna brinder deintyddion sy'n barod i drin mwy o gleifion y GIG. Fel y gwyddoch chi, mae gennym gontract deintyddol newydd, ac mae'r Gweinidog eisoes wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar hynny, felly dydw i ddim yn credu bod angen datganiad pellach ar hyn o bryd.
Dau ddatganiad ysgrifenedig, os gwelwch yn dda, Trefnydd, yn gyntaf o ran Madrid, sy'n ceisio amgylchynu ei hun gyda choedwig drefol 75 km i liniaru'r argyfwng hinsawdd ac i wella bioamrywiaeth. Mae yna syniad tebyg yn cael ei gyflwyno gan ymgyrchwyr yma yng Nghaerdydd, i'r ddinas ddod yn ddinas barc newydd, gyda pharciau gwledig mawr ar gyrion y ddinas, mewn ardaloedd fel Sain Ffagan, mynydd Caerffili, afon Rhymni a Llaneirwg. Cafodd y rhan fwyaf o barciau Caerdydd hyd yma eu hagor yn ystod Oes Fictoria, felly does dim parciau newydd wedi bod yng Nghaerdydd ers degawdau lawer. Byddai hyn yn datblygu amddiffynfeydd llifogydd naturiol, yn gwella ansawdd yr aer ac yn amsugno allyriadau tŷ gwydr a gynhyrchir gan y ddinas. A allem ni gael datganiad ysgrifenedig gan y Llywodraeth ar y fenter hon sydd i'w chroesawu?
Yn ail, a gawn ni ddatganiad ysgrifenedig ar gynllun datblygu lleol newydd Caerdydd? Cefais gyfarfod diddorol iawn yn ddiweddar gyda grŵp cynllun datblygu lleol Radur a Threforgan ar y mater hwn. Mae awgrymiadau y gellir adeiladu mannau gwyrdd mawr y tu mewn i'r cynllun datblygu lleol newydd o ystyried y twf poblogaeth is na'r disgwyl yn y cyfrifiad diwethaf ac effaith amgylcheddol gormod o ddŵr glaw ffo a llifogydd. Felly, a allem ni gael datganiad ysgrifenedig ar hynny hefyd os gwelwch yn dda? Diolch.
O ran eich cwestiwn olaf, mae CDLl yn fater i'r awdurdod lleol, felly dydw i ddim yn gweld unrhyw angen am ddatganiad gan y Llywodraeth. Roedd yn dda iawn clywed am y fenter gyntaf yr oeddech chi'n ei thrafod. Fel y gwyddoch chi, un o'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu yw creu coedwig genedlaethol ledled Cymru, ac yn sicr rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn plannu coed. Byddwch yn ymwybodol o fentrau Llywodraeth Cymru, a byddwn i'n annog pawb i gasglu coeden am ddim o'u canolfan agosaf a naill ai ei phlannu yn eu gardd neu sicrhau y gallwn ni ei phlannu ar eich rhan os nad oes unman i chi wneud hynny. Ond mae bob amser yn dda clywed am fentrau newydd. Fel y gwyddoch chi, un o'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu yw creu parc cenedlaethol newydd. Rwy'n gwybod ei fod i fyny yn y gogledd-ddwyrain, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn nodi ardaloedd lle gallwn, yn wir, gael parciau y gall pawb, yn amlwg, eu mwynhau.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch gwaredu gwastraff gwenwynig hanesyddol yn chwarel Tŷ Llwyd yn Ynys-ddu? Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach yn berchennog ar y safle, ar ôl prynu'r chwarel yn orfodol, ond mae wedi gwrthod cofrestru Tŷ Llwyd fel tir halogedig er gwaethaf pryder lleol ynghylch trwytholch yn gollwng ac yn llygru eiddo yn y gymdogaeth yn ogystal â'r ffyrdd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadarnhau mai cyfrifoldeb y cyngor yn unig yw cofrestru tir halogedig, ond mae CBS Caerffili yn mynnu nad yw'r trwytholch yn llifo o'i eiddo. A wnewch chi ymuno â mi i gefnogi'r trigolion, Gweinidog, a'r cynghorwyr lleol Jan Jones a Janine Reed, wrth alw am gynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r bygythiad posibl i dir cyfagos ac Afon Sirhywi yn sgil sylweddau niweidiol yn gollwng o chwarel Tŷ Llwyd? Diolch.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymgysylltu'n llawn â chyngor Caerffili ac maen nhw'n fodlon â'r mesurau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i leihau unrhyw risgiau i iechyd pobl. Rwy'n gwybod bod CNC hefyd yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a'u contractwyr i ddarparu rhywfaint o gymorth technegol a chyngor ynghylch gwaith pellach y gallai fod ei angen i leihau cymaint â phosibl effeithiau oddi ar y safle a achosir gan ddraenio o'r safle yn ystod achosion o law trwm.
Ac yn olaf, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddiweddariad gan y Llywodraeth ynglŷn â'r cynnydd mewn cyllid i weithwyr gofal, os gwelwch yn dda? Ym mis Rhagfyr 2021, rwy'n credu, cyhoeddodd y Llywodraeth gyllid i sicrhau bod gweithwyr gofal yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol, oedd fod i gael ei dalu i'r gweithwyr gofal o fis Ebrill 2022. Fy nealltwriaeth i yw bod y Llywodraeth wedi darparu'r arian i'r awdurdodau lleol, ac yn fy etholaeth i, o leiaf, gwn fod Cyngor Sir Gwynedd yn ei dro yn trosglwyddo'r arian hynny i'r darparwyr. Fodd bynnag, mae un darparwr, Achieve Together, sydd wedi methu â thalu ei weithwyr y cynnydd am y cyfnod rhwng Ebrill a Hydref 2022. Cyflogau teilwng ei weithlu yw'r arian hwn. Mae'r cwmni'n dweud nad ydyn nhw'n gallu ei dalu oherwydd nad yw pob awdurdod wedi pasbortio'r arian ymlaen, ond nid eu harian nhw ydyw i'w gadw, felly mae'n peri i rywun ofyn beth maen nhw wedi'i wneud gyda'r arian hwnnw a phryd y gall eu gweithwyr ddisgwyl gweld y cyflog hwn sy'n eiddo iddyn nhw yn briodol. Hoffwn i'r Dirprwy Weinidog edrych ar hyn a chyflwyno datganiad os yn bosib.
Ac yn olaf ac yn gryno, rwyf eisoes wedi codi mater gwasanaeth bws T19 o Flaenau Ffestiniog i Landudno, sydd ar fin dod i ben ddiwedd yr wythnos hon. Nid wyf i na thrigolion Blaenau Ffestiniog wedi cael diweddariad, na chlywed dim, ers i mi godi hwn. A all y Dirprwy Weinidog roi diweddariad brys ar ba gynlluniau sydd ar waith ar gyfer y llwybr hwnnw er mwyn i fy etholwyr allu parhau i fynychu'r ysgol, mynd i'r gwaith neu gyrraedd eu hapwyntiadau mewn pryd? Diolch.
Diolch. Dydw i ddim yn credu bod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwybodol o'r mater penodol yr ydych chi'n ei godi, ac rwy'n credu y byddai'n dda iawn pe gallech chi ysgrifennu ati, ac fe wnaiff hi yn sicr edrych i mewn i'r hyn a oedd, yn amlwg, yn sefyllfa bryderus iawn yr oeddech chi'n ei hamlinellu.
O ran gwasanaethau bysiau, byddwch yn ymwybodol ein bod ni, ledled Cymru, wedi bod â rhai problemau o ran gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd i'n bysiau. Rwy'n credu y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ynghylch gwasanaethau bysiau ychydig yn fwy cyffredinol mae'n debyg, ond ni fydd yn y dyfodol agos iawn, ond bydd, mae'n debyg, yn ystod y tymor nesaf.
Diolch i'r Trefnydd.