4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:09, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rydw i'n mynd i siarad yn y lle cyntaf yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac yna symud ymlaen at rai pethau sy'n faterion llosg yn fy etholaeth i. Fe wnaethom ni edrych ar y gyllideb cyfiawnder cymdeithasol, yn amlwg o safbwynt ceisio nodi sut rydyn ni'n mynd i gefnogi'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.