Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 7 Chwefror 2023.
Diolch i'r Gweinidog a'i chydweithwyr am lunio'r gyllideb hon.
Byddwn i hefyd yn diolch iddi am gymryd yr amser yr wythnos diwethaf i sgwrsio am y sefyllfa gyllidebol. Ac fe hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid hefyd am ei waith craffu, a dydw i ddim yn dweud hynny oherwydd bod Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn eistedd wrth fy ymyl yn unig. Gan droi at y gwaith hwnnw, roedd diffyg manylder amlwg iawn yn y dystiolaeth a gyflenwyd gan Lywodraeth Cymru i'r pwyllgor yn ymwneud ag ail-flaenoriaethu cyllidebau lle gallai hynny fod wedi arwain at leihau cynlluniau gwariant neu hyd yn oed roi cynlluniau gwreiddiol o’r neilltu. Gall hyn, wrth gwrs, arwain at ganlyniadau ymhellach i lawr y lein, felly byddwn i’n ddiolchgar pe bai'r Llywodraeth yn gallu cyhoeddi'r manylion hynny. Fe wnaf i roi enghraifft: yr arian ar gyfer y cynllun argyfwng bysiau. Fe'i cyflwynwyd i gefnogi parhad gwasanaethau bysiau yn ystod y pandemig, ac mae'n rhywbeth mae gwasanaethau gwledig, yn arbennig, yn dibynnu arno. Nawr, nododd y dystiolaeth a gyflenwyd gan y Llywodraeth i'r Pwyllgor Cyllid i ddechrau y byddai'r £28 miliwn a ddyrannwyd i'r BES yn 2022-23 yn cael ei gario drosodd i 2023-24 heb unrhyw addasiad mewn cyllid, ond mae wedi dod i'r amlwg o ohebiaeth rwyf i wedi’i derbyn gan randdeiliaid bod yr ymrwymiad hwn bellach dan amheuaeth ar y cam hwyr iawn hwn. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi rhywfaint o eglurder ar hyn. Mae bysus yn hanfodol bwysig fel gwasanaeth i'n cymunedau.
Wrth symud ymlaen i swyddi gwyrdd, mae TUC Cymru wedi awgrymu y gallai 60,000 o swyddi gwyrdd newydd gael eu creu yng Nghymru os ydyn ni'n buddsoddi'n iawn. Yn anffodus, mae mynediad cyfyngedig i gyllid, gweithwyr medrus a gallu ar linellau pŵer yn arafu symudiad tuag at ynni adnewyddadwy. Dywedodd 70% o gyflogwyr y DU mewn arolwg o Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu fod ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o sut y bydd angen iddyn nhw newid eu busnes i ddatgarboneiddio, roedd 88 y cant yn fodlon arallgyfeirio i ddatgarboneiddio, a byddai 90 y cant yn fodlon ailhyfforddi pe bai angen. Fodd bynnag, mae mwy na 78 y cant o gyflogwyr a ymatebodd i arolwg CITB yn credu bod prinder sgiliau yn yr alwedigaeth benodol i ddatgarboneiddio ar hyn o bryd.
Nawr, mae'r Llywodraeth wastad wedi bod yn awyddus i siarad am greu prentisiaethau newydd, ac yn croesawu eu creu, ond, fel y dywedais i o'r blaen, mae cadw myfyrwyr yn allweddol i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau. Gadewch i ni gymryd y sector adeiladu fel enghraifft—mae'r CITB yn amcangyfrif bod 1,400 o fyfyrwyr, o flwyddyn i flwyddyn, yn astudio cwrs adeiladu. Nawr, mae sgyrsiau rydw i wedi'u cael gyda'r sector i gyd yn dilyn yr un patrwm—pe bai'r nifer hwnnw o fyfyrwyr o flwyddyn i flwyddyn yn cwblhau eu cwrs, ni fyddai gennym ni brinder sgiliau yn y maes adeiladu. Felly, yn amlwg iawn, mae yna ostyngiad o fyfyrwyr. Fodd bynnag, nid yw data'n cael ei gasglu gan y Llywodraeth ar faint o fyfyrwyr sy'n gadael addysg yng nghanol cwrs. Mae angen i hynny, wrth gwrs, newid, ond beth fydd yn help yw'r gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i fyfyrwyr. Roedd croeso mawr i'r cynnydd i gymorth cynhaliaeth myfyrwyr. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys myfyrwyr mewn colegau, yn y chweched dosbarth, nac ar brentisiaethau. Nawr, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy ymgyrch i gynyddu taliadau lwfans cynhaliaeth addysg a'r trothwy. Byddai hynny'n sicr yn helpu, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, lle mae myfyrwyr yn ei chael hi'n anodd iawn i wneud i'r £30 yr wythnos honno fynd yn bell. Mae cludiant ar ei ben ei hun yn defnyddio’r £30 hwnnw. Cyplyswch hyn â bwyd, adnoddau ar gyfer cyrsiau, ac mewn rhai achosion—achosion rydw i wedi'u codi yn ystod fy ymgyrch—talu am filiau cartref, ac mae addysg yn dod yn anghynaladwy iawn yn gyflym iawn i gynifer.
Nawr, rydyn ni'n dweud wrth fyfyrwyr—ac fe gyffyrddodd Mike ar hyn—yn enwedig myfyrwyr o aelwydydd incwm isel, bod addysg yn fuddsoddiad ac y dylen nhw edrych ar ba fantais fydd yn ei rhoi iddyn nhw yn y dyfodol. Wel, i fyfyrwyr incwm isel, y dyfodol, yn amlach na pheidio, yw yfory. P'un a fyddan nhw'n gallu fforddio bwyta ai peidio, a fyddan nhw'n gallu fforddio teithio, a fyddan nhw'n gallu fforddio byw—nid ymhen pum mlynedd. Nid dim ond ar gyfer myfyrwyr llawn amser sy'n astudio ar y campws mae hyn, gyda llaw. Mae hyn yr un mor berthnasol i'r rhai ar brentisiaethau, a byddwn i’n annog y Llywodraeth i ystyried isafswm cyflog prentisiaeth.
Nawr, mae achos clir dros roi hwb i fuddsoddiad yn y maes hwn. Argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai'r Llywodraeth ystyried cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg. Cawsom dystiolaeth yn y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch cefnogaeth i fyfyrwyr—felly hefyd mewn pwyllgorau eraill. Felly, mae'n anffodus nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu'n ddigonol yn y gyllideb ddrafft. Ond byddwn i'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ceisio mynd i'r afael â hyn pan fyddan nhw'n dod â'r gyllideb yn ôl, ac rwy'n fwy na pharod i chwarae fy rhan i'w wireddu.