Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 8 Chwefror 2023.
Yn sicr. Mae ysgolion bro wrth wraidd ein hagenda i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Yn 2022-23—y flwyddyn ariannol hon—darparwyd £3.84 miliwn ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, £660,000 ar gyfer swyddi rheolwyr ysgolion bro, a £20 miliwn ar gyfer gwelliannau cyfalaf i ysgolion. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym hefyd wedi cyhoeddi dwy set o ganllawiau ar gyfer ysgolion hefyd.