Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 8 Chwefror 2023.
Roedd fy nghwestiwn yn benodol am y £20 miliwn hwnnw o gyllid cyfalaf ar gyfer ysgolion bro. Cyfeiriwyd ato yn y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol—gobeithio bod y teitl hwnnw'n gywir—a oedd yn edrych ar sut y dylid gwario'r arian hwnnw. Adroddiad 'Sicrhau Chwarae Teg' yw'r un rwy'n meddwl amdano. Hefyd, cyfarfûm â Dr Nicola Williams-Burnett o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd â llawer iawn o arbenigedd ymchwil yn y maes hwn ac sy'n awyddus i weld y dyheadau hynny sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn cael eu gwireddu. Felly, gyda hynny mewn golwg, hoffwn i'r Gweinidog ddarparu mwy o fanylion ar gyflwyno'r rhaglen gyfalaf a lle mae'r cyllid hwnnw'n cael ei gyfeirio, ac yn arbennig pa fanteision ymarferol sydd wedi dod i'r amlwg a sut y bydd y canlyniadau hynny'n cael eu gwerthuso.