Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 8 Chwefror 2023.
A gaf fi ymuno â Vikki Howells a chyd-Aelodau eraill drwy ganmol y pwyllgor ar eu gwaith trylwyr iawn yn fy marn i ar broblem ddyrys iawn a phroblem a oedd yn bendant yn ein hwynebu cyn COVID-19? Ond yr hyn sy'n glir o adroddiad y pwyllgor yw effaith ychwanegol COVID a'r cyfyngiadau symud ar absenoldeb disgyblion. Testun pryder mawr felly yw gweld tystiolaeth sy'n dangos bod iechyd meddwl plant a phobl ifanc wedi cael ei effeithio'n ddifrifol gan y pandemig, i'r pwynt lle nad ydynt yn mynychu'r ysgol.
Gwelaf fod y Gweinidog yn edrych ar strategaeth gyfathrebu i annog plant a phobl ifanc i ddychwelyd i'r ysgol, ac y gallai'r negeseuon hyn gael eu gwneud ar lefel leol. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld pa ddiweddariadau sydd gan y Gweinidog ar hyn, ac a yw wedi rhoi ystyriaeth i bwynt y pwyllgor fod angen llinell sylfaen i blant ledled Cymru gael eu cefnogi yn ôl i'r ysgol, fel na fydd gwahaniaethau niweidiol mewn ymatebion lleol.
Mae'n amlwg hefyd, o ateb y Gweinidog i'r pwyllgor, ei fod yn rhoi pwyslais ar ysgolion bro a swyddogion ymgysylltu â theuluoedd i ymateb i'r mater. Felly, rwy'n awyddus i wybod sut mae'r Gweinidog yn bwriadu eu defnyddio, a beth fydd eu rôl yn lledaenu'r neges benodol hon.
Yn amlwg, mae llawer iawn o ffactorau ar waith gydag absenoldeb disgyblion, o'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol nad ydynt yn cael y gefnogaeth gywir i effaith tlodi, i fod yn ofalwr ifanc, a dywedodd y Gweinidog ei hun fod hwnnw'n fater cudd. Mae'n broblem gymhleth, ac mae angen i ysgolion, awdurdodau lleol a theuluoedd gael yr holl adnoddau sydd ar gael at eu defnydd i gefnogi plant yn ôl i'r ysgol. Dylai addysg fod yn hawl ac nid yn fudd ychwanegol.
Ni ddylai fod yn syndod i'r un ohonom yn y Siambr heddiw ychwaith fod effaith absenoldeb ar ddysgu disgyblion yn ddinistriol. Eisoes, ni yw'r wlad a gollodd y gyfradd uchaf o ddyddiau ysgol yn ystod y pandemig yn y DU, ac yn anffodus, mae'n edrych yn debygol y bydd disgyblion yn colli mwy eto oherwydd gweithredu diwydiannol, rhywbeth sy'n llwyr o fewn gallu Llywodraeth Cymru i'w atal. Fodd bynnag, fel y dengys adroddiad y pwyllgor, nid cyrhaeddiad a chyflogadwyedd yn unig sy'n cael eu heffeithio, ond pethau fel cymdeithasu, meithrin cyfeillgarwch a mynediad at gymorth iechyd meddwl yn yr ysgol. Heb y rhyngweithio sylfaenol hwn, bydd diffyg addysg yn arwain at ymddygiad gwael, ac yn ddiweddarach, fel y nododd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru i'r pwyllgor, at ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol hyd yn oed o fewn y gymuned, yn ogystal â'r potensial ar gyfer cynnydd mewn trais ieuenctid.
Rwy'n chwilfrydig iawn am y datganiad a wnaeth y Gweinidog fis Mai diwethaf ynghylch camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag absenoldeb disgyblion, a oedd yn cynnwys cyfathrebu â theuluoedd yn genedlaethol am bwysigrwydd mynychu'r ysgol; bron i £4 miliwn o gyllid ar gyfer y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd ac ailgyflwyno hysbysiadau cosb benodedig fel dewis olaf. Fodd bynnag, mae'n edrych yn debyg fod y Gweinidog wedi cymryd cam yn ôl ar ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig drwy ddweud eu bod yn cael eu hystyried fel rhan o adolygiad ehangach o fframwaith presenoldeb Cymru gyfan, ond mae'r canllawiau y mae wedi bod yn eu rhoi i awdurdodau lleol wrth eu hailgyflwyno wedi bod yn amwys, ac rwy'n dyfynnu, 'wedi gwanhau sefyllfa ymyriadau awdurdodau lleol'. Sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael iddynt heb ganllawiau clir ynglŷn â phryd y gallant ymyrryd?
Mae'n ddiddorol iawn gweld hefyd, yn y rhan o'r byd y mae'r ddau ohonom yn ei chynrychioli, Weinidog, mai Castell-nedd Port Talbot sydd â'r gyfradd gyfartalog uchaf o absenoldebau anawdurdodedig yn y flwyddyn academaidd hyd yma, ar dros 5 y cant, bron ddwbl cyfartaledd Cymru a bron dair gwaith y cyfraddau ym Mhowys a sir Fynwy. Castell-nedd Port Talbot hefyd sydd â'r ganran gyfartalog uchaf o sesiynau absenoldeb, ar dros 12 y cant ym mlwyddyn academaidd 2022-23 hyd yma. Felly, hoffwn wybod pa gamau brys y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol, yn enwedig Castell-nedd Port Talbot, yn gallu rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i atal absenoldeb parhaus sydd wedi ymwreiddio ac nad yw ond wedi cael ei waethygu gan y pandemig.
Ac yn olaf, cefais fy nharo gan ystadegyn a amlinellwyd yn ddiweddar gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a ddywedodd y byddai disgybl, hyd yn oed gyda chyfradd presenoldeb o 90 y cant dros flwyddyn academaidd, yn colli 100 o wersi—100 o wersi. Dyna 100 gwers fathemateg, Saesneg, Cymraeg, gwyddoniaeth, addysg gorfforol ac yn y blaen dros un flwyddyn. Dylem fod yn gwthio'n galed iawn ar hyn. Wrth gwrs, mae'r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar addysg ein plant yn ddifrifol, ac ni allwn fforddio iddynt gael eu heffeithio ymhellach gyda chyfyngiadau COVID wedi dod i ben erbyn hyn. Os ydym yn parhau ar y trywydd hwn, gallem wynebu cenhedlaeth goll, ac arnom ni fydd y bai. Diolch.