Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 14 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:40, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i chi, bydd yn digwydd eleni, rwy'n gwybod, oherwydd bod gen i gyfrifoldeb am lygredd sŵn bellach. Mae seinwedd yn amlwg yn rhan o'r Bil aer glân, a gwn fod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau gyfarfod yfory gyda'n swyddogion, felly mae'n symud ymlaen yn y ffordd yr ydych chi'n dymuno, ac yr ydym ni'n dymuno hefyd. O ran deddfwriaeth arall, yn amlwg, ceir rhaglen ddeddfwriaethol y mae'r Prif Weinidog yn ei chyflwyno bob blwyddyn. Hyd y gwn i, ar hyn o bryd, nid yw'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn y rhaglen ddeddfwriaeth.