Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 14 Chwefror 2023.
A fydd y Ddeddf aer glân, fel rydych chi wedi bod yn ei drafod gyda'ch cyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru, yn hollgwmpasog, oherwydd rydyn ni wedi cael ein harwain i gredu yn amlwg y bydd yn cwmpasu pob agwedd ar fywyd fel y gallwn weld gwelliant gwirioneddol i ansawdd yr aer yma yng Nghymru? Fel y dywedais, mae tua 2,000 o bobl yn marw'n gynamserol oherwydd aer budr yma yng Nghymru, ac ar gost o filiynau lawer os nad biliynau o bunnau i GIG Cymru. A fydd yn ddarn o ddeddfwriaeth a fydd yn cynnwys busnesau, cymdeithas ddinesig a chwmpas llawn bywyd yng Nghymru? Neu a ydych chi'n edrych ar ddarn mwy cynnil o ddeddfwriaeth a fydd yn fwy penodol i feysydd bywyd yma yng Nghymru?