Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 14 Chwefror 2023.
Diolch. Rydyn ni wedi darparu dros £71 miliwn i awdurdodau rheoli perygl llifogydd ledled Cymru yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn cynnwys £12.2 miliwn o gyllid cyfalaf i awdurdodau rheoli perygl yng Nghanol De Cymru eleni. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith gwella'r seilwaith rheoli perygl llifogydd, a fydd o fudd i tua 1,280 o eiddo yn uniongyrchol.