1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2023.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi lles trigolion Canol De Cymru sy'n parhau i wynebu perygl o lifogydd? OQ59119
Diolch. Rydyn ni wedi darparu dros £71 miliwn i awdurdodau rheoli perygl llifogydd ledled Cymru yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn cynnwys £12.2 miliwn o gyllid cyfalaf i awdurdodau rheoli perygl yng Nghanol De Cymru eleni. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith gwella'r seilwaith rheoli perygl llifogydd, a fydd o fudd i tua 1,280 o eiddo yn uniongyrchol.
Diolch, Gweinidog, ond roedd fy nghwestiwn am lesiant trigolion yn benodol. Mae'n dair blynedd yr wythnos hon ers y llifogydd dinistriol ar draws y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli a thu hwnt o ganlyniad i storm Dennis. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau erbyn hyn, ond mae'r effaith ar blant ac oedolion yr effeithiwyd arnyn nhw yr un mor fawr heddiw ag yr oedd bryd hynny. Mae llawer yn parhau i ddioddef trawma, gan fyw mewn ofn bob tro y mae'n bwrw glaw yn drwm ac yn methu cysgu. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud wrth rai bod perygl parhaus i'w bywydau os bydd eu cartrefi yn dioddef llifogydd yn y dyfodol, sy'n golygu nad ydyn nhw'n ofni am eu cartrefi yn unig, ond mae eu bywydau mewn perygl.
Er bod rhai ardaloedd wedi elwa, fel y gwnaethoch chi ei amlinellu yn eich ymateb, ar fuddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a mesurau atal llifogydd, mae llawer mwy i'w wneud. Ceir anghysondeb o ran pa gartrefi sydd wedi cael cynnig llifddorau neu ddrysau am ddim. Hefyd, ni chynigiwyd unrhyw gymorth seicolegol, ac ni chafwyd buddsoddiad chwaith yn y gwaith o sefydlu grwpiau gweithredu ar lifogydd i helpu i gynorthwyo cymunedau pe bai'r gwaethaf byth yn digwydd eto. Sut gwnaiff Llywodraeth Cymru gynorthwyo pobl sy'n byw mewn ofn? A oes unrhyw gynlluniau i fuddsoddi mewn sefydlu grwpiau gweithredu ar lifogydd ym mhob ardal sydd mewn perygl parhaus o lifogydd?
Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau i sefydlu grwpiau gweithredu ar lifogydd, ond rwy'n siŵr y gellid eu hystyried nhw'n lleol. Soniais am y cyllid sylweddol yr ydyn ni wedi ei roi i geisio amddiffyn cymaint o dai ag y gallwn ni, ond rwy'n credu bod pawb yn derbyn, gyda'r newid hinsawdd, nad yw'n mynd i fod yn bosibl gwneud hynny 100 y cant. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi; fi oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am liniaru llifogydd pan darodd storm Dennis, ac ymwelais â llawer o'r bobl rydych chi'n cyfeirio atyn nhw, ac mae'n hollol dorcalonnus. Fe wnes i groesawu'r adroddiad diweddar 'Every time it rains' gan y Groes Goch Brydeinig yn fawr iawn. Rwy'n credu ei fod yn wir wedi cynnig gwybodaeth am yr effeithiau hirdymor ar gymunedau yn y ffordd yr ydych chi'n cyfeirio. Fy unig gyngor, mewn gwirionedd, fyddai, yn y lle cyntaf, gwneud yn siŵr bod pobl yn cael gafael ar y gwasanaethau iechyd cywir os ydyn nhw wir yn teimlo bod angen rhywfaint o help ychwanegol arnyn nhw yn hynny o beth.
Gweinidog, fel yr ydych yn gwybod, gall llifogydd gael effaith ddifrifol ar ein cymunedau, gan arwain at ddifrod amgylcheddol hirdymor, dinistrio eiddo, tarfu ar ein rhwydwaith drafnidiaeth ac, yn anffodus, arwain hyd yn oed, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Heledd, at golli bywydau. Canlyniad arall o lifogydd yw'r perygl o lygredd o garthffosiaeth a chemegau diwydiannol, er enghraifft, yn halogi ein nentydd, ein hafonydd a'n morlinau, a all arwain at broblemau iechyd y cyhoedd posibl yn ogystal â lladd pysgod ac anifeiliaid y môr eraill, dinistrio ecosystemau morol gwerthfawr ac, mewn rhai achosion, hyd yn oed mynd i mewn i'n cadwyn fwyd. Gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, mae gen i ddiddordeb mewn gwybod pa gamau y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd i leihau'r tebygolrwydd y bydd achosion o lygredd o garthion a gwastraff diwydiannol yn digwydd yn ystod llifogydd, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny yr ydych chi wedi eu nodi fel rhai sydd mewn perygl. Pa gamau y dylid eu cymryd i atal datblygiadau masnachol rhag sefydlu sy'n cynnig posibilrwydd o berygl uchel o lygredd ar safleoedd ar orlifdiroedd neu'n agos atyn nhw? Diolch.
Diolch. Soniais ein bod ni wedi darparu dros £71 miliwn ar gyfer gweithgareddau rheoli perygl llifogydd yn y flwyddyn ariannol bresennol ac, wrth gwrs, mae llawer o'r amddiffynfeydd rhag llifogydd hynny yn mynd i'r afael â'r materion yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw. Mae hyn ar ben cyllid tebyg o un flwyddyn i'r llall dros y degawd diwethaf. Mae'n rhaid i ni wynebu ffeithiau: gyda'n hafau yn mynd yn gynhesach a'n gaeafau yn mynd yn wlypach, rydyn ni'n mynd i weld mwy o achosion o lifogydd, yn anffodus, yma yng Nghymru. Y nod yw gwneud yn siŵr bod yr amddiffynfeydd rhag llifogydd cywir yn y lle iawn. Ceir llawer o wahanol amddiffynfeydd rhag llifogydd nawr. Mae'r Gweinidog wedi bod yn awyddus iawn i wneud yn siŵr bod gan amddiffynfeydd rhag llifogydd sy'n cael eu hadeiladu fuddion eraill hefyd i gymunedau, ac un ohonyn nhw yw mynd i'r afael â'r problemau llygredd.