Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 14 Chwefror 2023.
Gweinidog, flwyddyn yn ôl, cyflwynodd y Ceidwadwyr Cymreig gynnig yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu gwasanaethau deintyddiaeth am ddim i'r rhai sy'n cael radiotherapi neu gemotherapi i leddfu sgil-effeithiau negyddol triniaeth ond hefyd i ganiatáu i gleifion ganolbwyntio mwy ar eu gwellhad yn hytrach na gorfod poeni am y costau ychwanegol. Ar y pryd, gwrthododd Llywodraeth Cymru y cynnig hwn, ond, o ystyried yr heriau costau byw yr ydym ni'n ymwybodol ohonyn nhw a'r ffaith fod yr heriau hyn wedi mynd yn llawer anoddach dros y flwyddyn ddiwethaf, a gaf i ofyn, Gweinidog, a yw hyn yn rhywbeth y byddech chi'n fodlon ei drafod gyda'ch cyd-Aelodau ac ailystyried y safbwynt hwn?