Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 14 Chwefror 2023.
Diolch yn fawr, Trefnydd. Bythefnos yn ôl, mi wnes i godi gyda chi yr angen am £500 miliwn i sicrhau bod Crossrail Caerdydd yn mynd o'r bae i Lantrisant. Gyda The Times yn adrodd dydd Gwener bod costau HS2 nawr wedi cyrraedd £72 biliwn, pa mor benderfynol ydy Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod ni yma yng Nghymru yn derbyn y Barnett consequential o'r prosiect enfawr yma? Diolch yn fawr.