1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2023.
8. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllideb y DU ym mis Mawrth? OQ59123
Roedd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yr wythnos diwethaf yng Nghaeredin i drafod cyllideb wanwyn Llywodraeth y DU gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ymhlith materion eraill yn ymwneud â chyllid.
Diolch yn fawr, Trefnydd. Bythefnos yn ôl, mi wnes i godi gyda chi yr angen am £500 miliwn i sicrhau bod Crossrail Caerdydd yn mynd o'r bae i Lantrisant. Gyda The Times yn adrodd dydd Gwener bod costau HS2 nawr wedi cyrraedd £72 biliwn, pa mor benderfynol ydy Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod ni yma yng Nghymru yn derbyn y Barnett consequential o'r prosiect enfawr yma? Diolch yn fawr.
Rwy'n credu fy mod i wedi dweud ychydig wythnosau yn ôl wrthych chi ein bod ni'n amlwg yn cefnogi prosiect Cledrau Croesi Caerdydd y gwnaeth Llywodraeth y DU ei gyhoeddi o dan ei chronfa ffyniant bro, ac rydyn ni'n rhoi arian sy'n cyfateb i'r buddsoddiad hwnnw, ond nid oeddem ni'n rhan o ddatblygiad y gronfa ffyniant bro honno, felly ni fu gennym ni unrhyw swyddogaeth o ran strategaeth na darpariaeth.
Rwy'n credu bod categoreiddio parhaus HS2 gan Lywodraeth y DU fel prosiect Cymru-Lloegr, er gwaethaf argymhellion y Pwyllgor Materion Cymreig i ailddosbarthu fel prosiect Lloegr yn unig, wir yn difetha ein gallu i fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru. A gwn fod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn parhau i wneud y pwynt hwnnw i'r Trysorlys, naill ai i'r Canghellor neu i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac wedi gofyn i Lywodraeth y DU ailedrych yn wirioneddol ar y penderfyniad dosbarthu, ac yna rhoi swm canlyniadol Barnett i Gymru, a fyddai tua £5 biliwn. Ac, fel y dywedais, fe wnaeth hi ei godi eto, rwy'n credu, yr wythnos diwethaf yn ei—mae'n nodio, felly fe wnaeth hi ei godi eto yr wythnos diwethaf yn ei chyfarfod gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys.
Mae pwyslais y Canghellor a Phrif Weinidog y DU ar sefydlogrwydd, yr wyf i'n siŵr fydd yn parhau yng nghyllideb y gwanwyn, yn paratoi'r tir er mwyn i'r DU ganolbwyntio ar dwf. Gyda'r rhagfynegiadau diweddaraf y disgwylir i economi'r DU wella yn gynt na'r disgwyl, ceir cyfle yng Nghymru i ni wneud y cam i fyny i'r economi arloesol twf uchel y mae angen i ni fod, gan adeiladu ar yr asedau sydd gennym ni. Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu ysgogi momentwm economaidd, hybu hyder ac annog buddsoddiad yma, a sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r prinder llafur a sgiliau i helpu'r twf hwnnw?
Wel, byddwn yn hapus pe bai gen i eich hyder chi y bydd Prif Weinidog y DU a'i Ganghellor yn mynd i'r afael â'u blaenoriaethau yng nghyllideb y gwanwyn. Gwn fod y Gweinidog cyllid yn amlwg wedi trafod yr hyn a oedd ar y gweill; nid wyf i'n credu ei bod hi wedi mynd yn bell iawn gyda llawer o wybodaeth am yr hyn a oedd yn mynd i ddod yng nghyllideb y gwanwyn. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod ni'n cael ein cyfran deg o gyllid, ac rydym ni wedi gweld gostyngiad sylweddol i'n cyllideb, yn enwedig ein cyllideb gyfalaf, dros y blynyddoedd diwethaf. Ond yn amlwg, mae buddsoddi mewn sgiliau yn bwysig iawn i'r swyddi, yn y dyfodol, ac rydyn ni'n gwybod pa mor gyflym y mae gwahanol swyddi yn dod i'r amlwg, a gwneud yn siŵr bod gennym ni bobl â'r sgiliau hynny.
Eto, o ran y rhagolwg ar gyfer yr economi, byddwch yn cofio, dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, bod y Gronfa Ariannol Ryngwladol yn rhagweld mai'r DU fydd yr unig economi fawr i grebachu i mewn i 2023, chynnyrch domestig gros yn gostwng 0.6 y cant, felly mae gen i ofn nad ydw i wir yn rhannu eich hyder.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i godi cyllid gwella rheilffyrdd. Fel y mae pawb yn y Siambr hon yn gwybod, gan gynnwys rhai ar y meinciau Ceidwadol, mae Cymru wedi cael ei gadael yn gwbl brin o arian gan Lywodraethau San Steffan: dim symiau canlyniadol Barnett o HS2, a thanariannu dros flynyddoedd sy'n dod i gyfanswm o sawl biliwn. Mae adroddiad Hendry y Ceidwadwyr eu hunain yn cymeradwyo argymhellion adroddiad Burns, gan gytuno bod ganddo'r ateb trafnidiaeth iawn ar gyfer de-ddwyrain Cymru, felly, mewn unrhyw drafodaethau cyllidebol, a ydych chi wedi cael gwybod pryd fydd y cyllid y mae mawr ei angen ar gyfer uwchraddio'r llinellau rhyddhad rhwng twnnel Hafren a Chaerdydd ar ei ffordd o'r diwedd?
Rydyn ni'n aros am gadarnhad o gyllid gwella rheilffyrdd terfynol Cymru gan Lywodraeth y DU. Byddwch wedi fy nghlywed i'n dweud yn fy ateb cynharach fod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi codi hyn eto yr wythnos diwethaf gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn enwedig o ran y ffaith fod HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr. Nid wyf i wir yn siŵr sut y gallan nhw o bosibl gredu hynny; mae'n bwysig iawn. Ac nid wyf i'n meddwl bod y Gweinidog yn mynd i anghofio am hynny; rwy'n credu ei bod hi'n mynd i ddyfalbarhau wrth geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y swm canlyniadol hwnnw o £5 biliwn. Rydyn ni'n gwybod y byddai'r cyllid gwella rheilffyrdd wir yn dod â manteision eglur; y byddem ni'n gallu darparu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig hwnnw ac annog y newid i ddulliau teithio hwnnw yr ydym ni eisiau ei weld, ond yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ein cais yn gyson, yn barhaus—fel y gwnaethoch chi nodi—gan fethu â buddsoddi yn ein seilwaith yma yng Nghymru. Ac yn absenoldeb datganoli priodol y seilwaith rheilffyrdd a setliad cyllid teg—y ddau beth hynny rwy'n credu—rydyn ni wir angen i Lywodraeth y DU gyflawni ei chyfrifoldebau i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.