Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 14 Chwefror 2023.
Pe bai hynny ond yn wir. Trefnydd, yng nghytundeb cydweithio Llafur Cymru a Phlaid Cymru, rydych chi'n gwneud addewid eglur i ofyn i Trafnidiaeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol yn y gogledd-orllewin a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau ar gyfer system drafnidiaeth integredig. Nawr, yn hytrach na gweld cynnydd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Gwynedd a Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni ar gyfer fy nghymunedau yn nyffryn Conwy. Rydyn ni wedi cael deiseb a lofnodwyd gan dros 700 o etholwyr hynod bryderus, ac roedd hynny i achub y T19 rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog, a hefyd rwyf i wedi ysgrifennu sawl llythyr i gyngor Conwy a Gwynedd yn amlinellu rhai gwahanol atebion. Rwyf i wedi cyfarfod â'r holl weithredwyr bysiau, sydd eisiau cadw'r gwasanaeth hwn yn weithredol mewn gwirionedd. Mae'r sefyllfa mor ddifrifol bellach bod myfyrwyr a disgyblion yn gorfod dibynnu ar drafnidiaeth breifat i fynd o ardal Blaenau Ffestiniog i ysgol yn Llanrwst a'r coleg yn Llandrillo, ac ni all staff gyrraedd y gwaith. Dylai atebion fod wedi bod ar waith cyn i'r gwasanaeth hwn ddod i ben. Er enghraifft, gellid ymestyn y gwasanaeth Fflecsi i fyny coridor yr A470. Ond, mae Trafnidiaeth Cymru yn llusgo'u traed. Prif Weinidog—neu Drefnydd, yn yr achos hwn, pa gamau brys wnewch chi a'ch Llywodraeth eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau difrifol a achoswyd gan derfynu'r T19? Ac onid ydych chi'n cytuno â mi, yn yr oes sydd ohoni, ei bod yn argyfwng pan nad yw plant yn gallu cyrraedd yr ysgol? Diolch.