Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 14 Chwefror 2023.
Gan fod y gwasanaeth T19 yn cael ei weithredu'n fasnachol gan y cwmni bysiau, maen nhw wedi dweud wrthym ni, yn anffodus, nad yw twf yn nifer y teithwyr wedi cyd-fynd â disgwyliadau'r gweithredwr ac mae prinder gyrwyr wedi effeithio ar eu gallu i barhau i weithredu'r gwasanaeth diwrnod gwaith a dydd Sadwrn ar sail fasnachol yn unig. Felly, rwy'n dychwelyd i ateb cynharach: dyma pam rydyn ni'n ceisio cyflwyno'r Bil bysiau, a dyma sy'n digwydd pan fydd gennych chi breifateiddio. [Torri ar draws.] Wel, yn anffodus, dyna sydd gennym ni. Efallai ei bod hi'n rhy hwyr, ond yn anffodus, roedd y preifateiddio yno.
Rwy'n credu ei bod hi braidd yn annheg dweud bod Trafnidiaeth Cymru wedi methu. Maen nhw'n gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau—[Torri ar draws.] Roedd eich cwestiwn ynghylch Trafnidiaeth Cymru, ac fe wnaethoch chi ddweud eu bod nhw wedi methu. Y cwbl rwy'n ei wneud yw dweud wrthych chi nad ydyn nhw wedi methu, maen nhw wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod cymunedau yn nyffryn Conwy a oedd yn cael eu gwasanaethu gan wasanaeth bysiau T19 yn cael trefniadau teithio amgen addas. Mae eich pwynt olaf yn bwysig iawn: mae angen trefniadau teithio amgen i sicrhau—yr enghraifft y gwnaethoch chi ei rhoi oedd plant yn cyrraedd yr ysgol. Mae'r dewisiadau amgen hynny wedi cael cyhoeddusrwydd ac, fel Llywodraeth, rydyn ni'n gweithio gyda Defnyddwyr Bysiau Cymru i gynnal digwyddiadau ymgynghori pellach â theithwyr yn yr ardal dros yr wythnosau nesaf. Felly, rwy'n gobeithio y gwnewch chi hysbysu eich etholwyr ynghylch hynny. Ac, wrth gwrs, rydyn ni'n gweithio ar fodel newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru, a fydd yn caniatáu i ni weithio gydag awdurdodau lleol fel y gallwn ni ddylunio gyda'n gilydd y rhwydweithiau bysiau y mae eu cymunedau eu hangen, oherwydd nhw yw'r rhai sydd yn y sefyllfa orau i'n caniatáu i weithio gyda nhw a gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi contractau ar waith i'w darparu. Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud fel Llywodraeth yw rhoi pobl cyn elw.