Cyllideb y DU

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 14 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 2:06, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Mae pwyslais y Canghellor a Phrif Weinidog y DU ar sefydlogrwydd, yr wyf i'n siŵr fydd yn parhau yng nghyllideb y gwanwyn, yn paratoi'r tir er mwyn i'r DU ganolbwyntio ar dwf. Gyda'r rhagfynegiadau diweddaraf y disgwylir i economi'r DU wella yn gynt na'r disgwyl, ceir cyfle yng Nghymru i ni wneud y cam i fyny i'r economi arloesol twf uchel y mae angen i ni fod, gan adeiladu ar yr asedau sydd gennym ni. Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu ysgogi momentwm economaidd, hybu hyder ac annog buddsoddiad yma, a sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r prinder llafur a sgiliau i helpu'r twf hwnnw?