Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 14 Chwefror 2023.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i godi cyllid gwella rheilffyrdd. Fel y mae pawb yn y Siambr hon yn gwybod, gan gynnwys rhai ar y meinciau Ceidwadol, mae Cymru wedi cael ei gadael yn gwbl brin o arian gan Lywodraethau San Steffan: dim symiau canlyniadol Barnett o HS2, a thanariannu dros flynyddoedd sy'n dod i gyfanswm o sawl biliwn. Mae adroddiad Hendry y Ceidwadwyr eu hunain yn cymeradwyo argymhellion adroddiad Burns, gan gytuno bod ganddo'r ateb trafnidiaeth iawn ar gyfer de-ddwyrain Cymru, felly, mewn unrhyw drafodaethau cyllidebol, a ydych chi wedi cael gwybod pryd fydd y cyllid y mae mawr ei angen ar gyfer uwchraddio'r llinellau rhyddhad rhwng twnnel Hafren a Chaerdydd ar ei ffordd o'r diwedd?