Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 14 Chwefror 2023.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fel rŷch chi'n gwybod, mae hwn yn gyfnod prysur iawn i ffermwyr, wrth gwrs, achos mae'r tymor wyna newydd dechrau, ac mae'r tywydd yn gwella, mae pobl yn cael eu temtio i fynd mas am dro gyda'u cŵn yng nghefn gwlad Cymru, ac mae hyn, wrth gwrs, yn achosi pryder mawr i ffermwyr oherwydd yr ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid fferm. Mae ymchwil diweddar gan NFU Mutual yn nodi bod gwerth niwed i anifeiliaid a'r rhai sydd wedi cael eu lladd gan gŵn o gwmpas rhyw £400,000 y llynedd, sydd yn gynnydd o ryw 15 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Ac mae'r un ymchwil yn dangos hefyd fod dau o bob tri pherson sy'n mynd â'u cŵn am dro yn barod i adael i'r cŵn yma redeg yn wyllt pan fyddan nhw mas yn y wlad. Felly, gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i'r ffigurau yma sydd ar gynnydd, ac ydych chi'n fodlon gwneud datganiad arno fe? A sut ydych chi'n bwriadu annog pobl i fod yn fwy cyfrifol pan fyddan nhw'n mynd â'u cŵn am dro, mas yng nghefn gwlad?