– Senedd Cymru am 2:16 pm ar 14 Chwefror 2023.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd fydd yn ateb cwestiynau eto. Fe wnaf alw ar y Trefnydd i gyflwyno'r datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae Rheoliadau Gwastraff Pecynnu (Casglu a Chofnodi Data) (Cymru) 2023 wedi cael eu tynnu'n ôl a'r ddadl wedi'i gohirio. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad ar fformiwla gyllido llywodraeth leol? Mae trigolion fy etholaeth i'n bryderus iawn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi awgrymu y gallai'r dreth gyngor orfod codi hyd at 12.45 y cant, sy'n amlwg yn uwch na'r gyfradd chwyddiant sydd eisoes yn uchel iawn. Mae hynny'n destun pryder mawr i nifer o etholwyr sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd oherwydd pwysau costau byw. Ond un peth yr ydyn ni'n ei wybod yw bod y fformiwla gyllido honno wedi caniatáu i rai awdurdodau lleol yng Nghymru gronni cannoedd o filiynau o bunnoedd o gronfeydd wrth gefn, tra bod eraill â chronfeydd prin iawn wrth gefn oherwydd iddyn nhw eu defnyddio'n flynyddol oherwydd bod y fformiwla gyllido yn sylfaenol ddiffygiol ac annheg. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn? Ac a fydd y Trefnydd yn ceisio cael cytundeb ei chyd-Aelod Cabinet y Gweinidog cyllid, ac yn wir y Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb am lywodraeth leol, am adolygiad annibynnol—adolygiad annibynnol—o'r fformiwla gyllido i wneud yn siŵr bod cyfle teg i fanteisio ar gyllid ar gyfer llywodraeth leol ledled y wlad?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol mai mater i bob awdurdod lleol yw pennu'r dreth gyngor, ac wrth gwrs, mae unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor yn aml yn ddigroeso iawn i'r mwyafrif o dalwyr trethi lleol, rwy'n credu ei bod hi'n dda cydnabod ei bod yn ffynhonnell ariannu sylweddol ar gyfer gwasanaethau lleol. Rydych chi'n dweud bod y fformiwla gyllido yn ddiffygiol—wel, byddwch chi'n gwerthfawrogi nad yw'r fformiwla gyllido honno'n cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru; mae'n cael ei wneud ar y cyd ac mewn partneriaeth rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Felly, nid ydw i'n cytuno â chi ei bod yn ddiffygiol. Efallai nad dyma'r gorau, a bydd bob amser pobl sy'n gwneud yn well nag eraill. Hyd y gwn i—ac rwy'n edrych at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol—nid ydw i'n credu bod unrhyw alwad wedi bod gan awdurdodau lleol i gael golwg ar y fformiwla gyllido, heb sôn am adolygiad annibynnol.
Llyr Gruffydd. Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Gwnes i dim ond eich clywed chi ar yr ail gynnig, dwi'n amau. Dwi eisiau gofyn i'r Trefnydd os cawn ni ddatganiad ar lefel y gefnogaeth sydd ar gael drwy'r cynllun Cychwyn Iach, the Healthy Start scheme. Fe godwyd y lefel o gefnogaeth ddiwethaf yn ôl yn Ebrill 2021 i £4.25 yr wythnos, ond, wrth gwrs, mae yna flwy flynedd bron iawn ers hynny, ac yn y cyfamser mae costau byw wedi mynd drwy'r to, mae chwyddiant bwyd wedi bod yn sylweddol, ond mae'r gefnogaeth wedi aros yr un peth. Ac mae yna oblygiadau, wrth gwrs, yn hynny o beth pan fo'n dod wedyn i deuluoedd fedru cael mynediad at fwydydd iach a maethlon, sef holl bwrpas y cynllun. Felly, gofyn dwi'n ei wneud am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar y posibilrwydd o gynyddu'r lefel cefnogaeth, oherwydd mae gwerth a chyfraniad y cynllun yn cael ei danseilio o fis i fis wrth i brisiau bwyd gynyddu tra bod lefel y gefnogaeth, wrth gwrs, i bob pwrpas, wedi ei rewi.
Diolch. Nid ydw i'n anghytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y gefnogaeth, ond byddwch chi'n gwerthfawrogi'r galw sylweddol ar y gyllideb iechyd. Yn amlwg, mae disgwyl i'r gyllideb atodol gael ei chyhoeddi, ac nid ydw i'n ymwybodol a yw'r cynllun hwn yn cael unrhyw gynnydd, ond gallai fod yn werth aros i weld a yw hynny'n wir cyn gofyn am ddatganiad arall.
Wrth fynd yn ôl i adroddiad Silk ynghylch datganoli trethiant, a wnaeth argymell y dylai'r ardoll agregau gael ei datganoli i Gymru. Nid oedd modd ei datganoli oherwydd ymyrraeth yr Undeb Ewropeaidd. Ym mis Tachwedd 2022, gofynnodd Liz Saville Roberts i Ganghellor y Trysorlys a oedd wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch datganoli'r ardoll agregau i Gymru. Ymateb y Trysorlys oedd eu bod
'bob amser yn hapus i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, pe bydden nhw eisiau trafod hyn neu unrhyw fater arall ymhellach.'
Rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gynnydd tuag at ddatganoli'r ardoll agregau.
Rydw i hefyd yn gofyn am ddatganiad ar gyflyrau prin. Er eu bod yn brin yn unigol, ac felly eu henw, maen nhw'n effeithio ar lawer o bobl, gydag un o bob 17 o bobl yn cael eu yn ystod eu hoes. Mae llawer o gyflyrau prin yn rhai gydol oes ac yn gymhleth. Yn aml, mae clefydau prin yn gronig ac yn peryglu bywyd. O ganlyniad, mae pobl y mae cyflyrau prin yn effeithio arnyn nhw yn aml angen cefnogaeth ac arbenigedd gan amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Gall hyn olygu cael nifer o apwyntiadau mewn gwahanol leoliadau, ac ar ddyddiadau gwahanol. Rwy'n credu y byddai datganiad ar hynny o gymorth mawr.
Rwy'n cytuno â chi ac fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Mae gennym ni Ddiwrnod Clefydau Prin yn dod ar ddiwedd y mis hwn, felly fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i dynnu sylw at ein cefnogaeth i glefydau prin, a hefyd y cynnydd yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru.
Mewn ymateb i'ch cais cyntaf, mae agregau yn adnodd naturiol gwerthfawr yng Nghymru ac rydyn ni'n cydnabod y gallai datganoli'r ardoll agregau fod o fudd i'n nodau cyllidol ac amgylcheddol. Rydyn ni'n parhau i fod yn agored i sgyrsiau eraill gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli posibl yr ardoll, gan gydnabod bod nifer o faterion allweddol i'w hystyried, yn benodol, materion traws-ffiniol posibl a rhwystro effeithiau grant a allai godi. Mae gennym ni hefyd ddiddordeb mawr i ddysgu o brofiad Llywodraeth yr Alban wrth iddyn nhw symud ymlaen i ddatblygu eu hagwedd at ardoll agregau yr Alban. Byddai'n dda efallai cymhwyso'r dysgu y maen nhw wedi'i gael at ystyriaethau eraill, ond mae gwir angen pennu unrhyw ymgysylltu arall â Llywodraeth y DU ar ardoll yng nghyd-destun datganoli ehangach ar ddatganoli trethi. Mae hynny'n cynnwys ymdrin â'n cais i gael y pŵer i gyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru.
Gweinidog Busnes, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg am amnewid cymwysterau BTEC a sut olwg, mewn gwirionedd, fydd ar yr hyn sy'n cyfateb i gymwysterau Safon T yng Nghymru. Y mis hwn, cyhoeddodd yr Adran Addysg yn Lloegr gynllun lleoliad cyflogwyr Safon T newydd gwerth £12 miliwn i roi hwb i nifer y busnesau sy'n manteisio ar hyn i ymgymryd â lleoliadau myfyrwyr a mynediad i ddarparwyr ar gyfer grantiau lluosog, ond eto nid oes gennym ni syniad o hyd sut olwg fydd ar gymwysterau Safon T yng Nghymru. Unwaith eto, rydyn ni'n gweld colegau a chweched dosbarthiadau mewn cyflwr o banig oherwydd agwedd ddilewyrch y Gweinidog tuag at hyn, ac mae llawer nawr yn credu ei bod hi'n rhy hwyr i wneud y newidiadau a weithredwyd yn dda neu'n gywir, gan roi Cymru dan anfantais fawr. Mae angen datganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd, dysgwyr a'n haddysgwyr ar frys. Diolch, Gweinidog Busnes.
Nid wyf i'n credu bod y ffordd y gwnaethoch chi nodi hynny'n gywir—rydyn ni eisoes wedi ymestyn cymhwysedd ar gyfer BTEC, er enghraifft—ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn parhau i gael trafodaethau gyda Cymwysterau Cymru ac fe wnaiff ddarparu datganiad maes o law.
Ac yn olaf, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fel rŷch chi'n gwybod, mae hwn yn gyfnod prysur iawn i ffermwyr, wrth gwrs, achos mae'r tymor wyna newydd dechrau, ac mae'r tywydd yn gwella, mae pobl yn cael eu temtio i fynd mas am dro gyda'u cŵn yng nghefn gwlad Cymru, ac mae hyn, wrth gwrs, yn achosi pryder mawr i ffermwyr oherwydd yr ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid fferm. Mae ymchwil diweddar gan NFU Mutual yn nodi bod gwerth niwed i anifeiliaid a'r rhai sydd wedi cael eu lladd gan gŵn o gwmpas rhyw £400,000 y llynedd, sydd yn gynnydd o ryw 15 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Ac mae'r un ymchwil yn dangos hefyd fod dau o bob tri pherson sy'n mynd â'u cŵn am dro yn barod i adael i'r cŵn yma redeg yn wyllt pan fyddan nhw mas yn y wlad. Felly, gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i'r ffigurau yma sydd ar gynnydd, ac ydych chi'n fodlon gwneud datganiad arno fe? A sut ydych chi'n bwriadu annog pobl i fod yn fwy cyfrifol pan fyddan nhw'n mynd â'u cŵn am dro, mas yng nghefn gwlad?
Diolch i chi. Rydych chi'n hollol gywir; rydyn ni'n gweld llawer gormod o achosion o gŵn yn ymosod, yn enwedig ar ddefaid ac ŵyn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. Fel rydych chi'n dweud, rydyn ni'n ond yn—. Wel, mae'r wyna wedi cychwyn mewn rhai ardaloedd eisoes; bydd eraill yn eu dilyn. Ond roeddwn i'n falch iawn o weld ymgyrch y comisiynydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, 'ewes a lead'—'use' wedi'i sillafu 'ewes'—a oedd, yn fy marn i, yn ffraeth iawn. Ond rwy'n credu bod yr ymgyrchoedd hyn yn bethau da iawn, ac yn y Llywodraeth rydyn ni'n sicr yn gwneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo'r ymgyrch honno, oherwydd mae perchnogaeth gyfrifol o gŵn yn bwysig iawn, ac rydych chi'n ymwybodol o'r cynlluniau amrywiol i gyd. Ond roedd hi'n dda iawn cael gweld yr ymgyrch honno, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, cyn, fel rydych chi'n dweud, i bobl ddechrau mynd allan yn fwy, efallai, i gefn gwlad wrth i'r gwanwyn agosáu.
Diolch i'r Trefnydd.