Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 14 Chwefror 2023.
Mae'r adroddiad yn mynegi bod angen i ni wneud mwy i ofalu am y ffyrdd sydd gennym ni eisoes, a rhoi mwy o sylw i gefnogi cludo nwyddau. Rwyf i wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw ar adolygiad o'n dull ni o gynnal a chadw ffyrdd, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi cynllun cludo nwyddau yn ddiweddarach yn y flwyddyn hefyd. Mae angen ffyrdd arnom ni, ond mae angen i ni gofio nad ar gyfer ceir yn unig y mae ffyrdd. Dywedodd y panel fod angen i ni roi mwy o flaenoriaeth i fysiau a rhwydweithiau teithio llesol mewn cynlluniau ar gyfer ffyrdd.
Mae'r adroddiad yn mynegi hefyd, lle ceir pryderon ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd, y dylem ni ystyried yn gyntaf leihau cyflymder mewn mannau lle ceir gwrthdrawiadau. A phan fyddwn ni'n bwrw ymlaen â chynllun newydd, fe ddylem ni ddewis yr un sydd â'r effaith amgylcheddol leiaf. Daw tua thraean o'r carbon a gynhyrchir o gynllun ffordd o'r deunyddiau a ddefnyddir wrth adeiladu, goleuo a'i chynnal drwy ei hoes gyfan: dur, concrit, asffalt, dŵr—mae gan bopeth sy'n mynd i gynllun ffordd ôl troed carbon sylweddol ei hun. Ac mae angen i ni leihau'r carbon hwn a gaiff ei ymgorffori, drwy arloesedd, ond drwy wneud y mwyaf o'r hyn sydd gennym ni hefyd.
Y ddadl ganolog a gyflwynwyd gan y panel adolygu ffyrdd yw na allwn ni adeiladu ein ffordd allan o dagfeydd. Wrth edrych ar hyn ar ei ben ei hun, yn aml mae achos dros ffordd osgoi neu lôn ychwanegol, ond, yn gronnus, gwaethygu'r broblem a wna hynny. Yn y byrdymor, mae creu lle newydd ar gyfer ffordd yn aml yn cyflymu taith mewn car ac yn gwneud hynny'n fwy deniadol na dewis arall ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn annog mwy o bobl i yrru. Ond gydag amser, mae hyn yn creu mwy o deithiau, gyda phobl yn teithio pellteroedd hirach. Mae hyn yn ei dro yn creu traffig a thagfeydd ychwanegol. Mae'n arwain hefyd at ddatblygiadau manwerthu a phreswyl yn ymddangos yn agos at y cyffyrdd newydd, fel yr ydym wedi'u gweld ledled Cymru. Ac mae'r rhain yn fannau sydd, fel arfer, yn brin o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus neu ddewisiadau o ran teithio llesol, ac felly nid oes gan bobl fawr o ddewis ond eu cyrraedd mewn car, ac mae hyn yn creu mwy o draffig eto, hyd yn oed.
Wrth i bobl yrru mwy, mae llai o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n golygu bod llai o wasanaethau yn hyfyw, gan adael pobl â llai fyth o ddewisiadau amgen. Mae hyn yn anfanteisiol yn anghymesur i fenywod a phobl ar incwm isel, yr ydym ni'n gwybod o'r data sy'n fwyaf dibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus. I'r rhai sy'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gorfodi i redeg car ar gyfer gallu gweithio, fe all y costau fod yn uchel iawn. Mae astudiaethau wedi dangos bod yr aelwydydd tlotaf yn gallu gwario hyd at chwarter eu hincwm ar gostau trafnidiaeth, gan eu rhoi mewn tlodi trafnidiaeth. Nid yn unig y mae ein dull gweithredu wedi bod yn mynd yn gwbl groes i'n polisi hinsawdd a'n polisi cynllunio, mae hefyd wedi bod yn mynd yn gwbl groes i'n polisïau cyfiawnder cymdeithasol, ac mae'n rhaid i hynny newid.
Llywydd, nid yw ein hymagwedd ni am y 70 mlynedd diwethaf yn gweithio. Fel mae'r adolygiad yn nodi, mae'r ffordd osgoi a fynnwyd i leddfu tagfeydd yn aml yn arwain at draffig ychwanegol, sydd, ymhen amser, yn dod â galwadau pellach am lonydd ychwanegol, cyffyrdd ehangach a mwy o ffyrdd. Rownd a rownd yr awn ni, gan allyrru mwy a mwy o garbon wrth wneud hynny. Mae hon yn duedd a gydnabyddir yn rhyngwladol y mae academyddion yn ei galw yn 'ysgogi galw'. Ac mae adroddiad y panel yn dweud yn eglur iawn na ddylai cynlluniau sy'n creu mwy o le i geir ar ffyrdd gael eu cefnogi. Yn hytrach, maen nhw'n argymell y dylid rhoi mwy o sylw i gynlluniau sy'n canolbwyntio ar reoli galw, gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a theithio llesol. Fe fydd hyn, medden nhw, yn helpu i leihau traffig nad yw'n hanfodol a sicrhau bod lle digonol ar gael i ddefnyddwyr ffyrdd hanfodol, gan gynnwys cludwyr nwyddau.
Rydym ni wedi derbyn achos yr adroddiad dros newid. Ni fyddwn ni'n cyrraedd sero net oni bai ein bod ni'n rhoi'r gorau i wneud yr un peth dro ar ôl tro. Lle gallwn ni greu dewis arall sy'n rhwyddach na gyrru, gadewch i ni wneud hynny. Mae hwn yn ddull a fydd yn dod â llawer o fanteision, ac fe fydd yn helpu'r rhai sydd heb ddewis heblaw am gar i barhau â'u gweithgarwch. Dyna'r ffordd orau i fynd i'r afael â thagfeydd a chostau i fusnesau yn y byrdymor. Ac yn y tymor hirach, mae economegwyr wedi ein rhybuddio y bydd canlyniadau tymereddau cynyddol yn achosi gostyngiad mewn cyfraddau blynyddol o gynnyrch domestig gros o rhwng 5 y cant a 7 y cant, gan beri niwed mawr i swyddi a buddsoddiad. Felly, nid oes unrhyw wrthdaro rhwng yr amgylchedd a'r economi yn yr hirdymor. Bydd ein polisïau ni o gymorth gyda'r ddau. Mae angen y ddau arnom ni.
Mae'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth yr ydym ni'n ei gyhoeddi heddiw yn rhestru'r cynlluniau ffyrdd y byddwn ni'n parhau â'u datblygiad dros y pum mlynedd nesaf. Lle mae'r panel adolygu ffyrdd wedi argymell na ddylai cynllun fynd yn ei flaen, ni fyddwn ni'n bwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw fel y cynlluniwyd. Ond lle mae cytundeb ynglŷn â phroblem drafnidiaeth, fe fyddwn ni'n gweithio gyda noddwyr y cynllun i nodi ateb sy'n bodloni'r profion newydd ar gyfer buddsoddiad.
Mae ein polisi ffyrdd newydd yn ei gwneud yn eglur y byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn ffyrdd newydd a ffyrdd sy'n bodoli eisoes, ond, i fod yn gymwys i dderbyn cyllid yn y dyfodol, fe ddylid canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, nid creu mwy o gapasiti, peidio â chynyddu allyriadau drwy gynyddu cyflymder cerbydau, a pheidio â dinistrio safleoedd sy'n werthfawr yn ecolegol.
Ar gyfer y ffyrdd hynny sydd wedi eu cynllunio i gysylltu â safleoedd o ddatblygiad economaidd, mae'r adroddiad wedi gwneud cyfres o awgrymiadau, ac rwyf i wedi gofyn i'r Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd cyngor Torfaen, a'r Cynghorydd Llinos Medi, arweinydd cyngor Ynys Môn, weithio gyda ni er mwyn dod o hyd i ddull ymarferol o ganiatáu i safleoedd twf gael eu hyrwyddo sy'n unol â'n polisïau cynllunio a thrafnidiaeth.
Llywydd, gadewch i ni gofio'r hyn a ddywedodd Julie James ac y dywedais i wrth ddechrau yn ein swyddi: yn y degawd hwn, mae'n rhaid i Gymru wneud mwy o doriadau mewn allyriadau nag a wnaethom ni yn y tri degawd diwethaf i gyd gyda'i gilydd. Mwy o doriadau yn y 10 mlynedd nesaf nag a lwyddom yn ystod y 30 diwethaf i gyd. Dyna mae'r wyddoniaeth yn dweud bod angen i ni ei wneud. Fe wyddom ni beth sy'n dod. Ein gorchwyl ni yw paratoi Cymru ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen adroddiad y panel adolygu ffyrdd yn llawn. Nid oes dim yn hawdd yn hyn, ond nid yw'r dewis arall yn hawdd chwaith. Mae ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio, oni bai ein bod ni'n gweithredu yn bendant nawr, byddwn ni'n wynebu trychineb hinsawdd. Rwy'n dweud hyn gyda phob diffuantrwydd wrth yr holl Aelodau: os ydym ni am ddatgan argyfwng hinsawdd a natur, a deddfu i ddiogelu llesiant cenedlaethau'r dyfodol, fel gwnaethom ni, a'i gwneud hi'n ofyniad cyfreithiol i gyrraedd sero net erbyn 2050, mae'n rhaid i ni fod yn barod i weithredu ar hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r panel adolygu ffyrdd am ein helpu ni i nodi ffordd o wneud hynny. Diolch.