Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 14 Chwefror 2023.
Dirprwy Weinidog, roedd gennych chi gyfle gwirioneddol yma i gael Cymru yn symud unwaith eto drwy roi seilwaith i gymunedau ledled Cymru yr oedden nhw nid yn unig ei angen, ond yn ei haeddu. Mae trigolion ym mhob cwr o Gymru wedi bod ar bigau'r drain ers bron i ddwy flynedd tra bod y gwaharddiad er gwaeth hwn ar adeiladu ffyrdd wedi bod ar waith. Ond nawr mae'r disgwyl ar ben o'r diwedd, fe aeth ychydig o dan 60 cynllun o dan y microsgop yn rhan o'ch adolygiad chi, ac yn awr rydyn ni'n darganfod mai dim ond llond llaw sydd wedi eu harbed o'r tân ac yn bwrw ymlaen fel y cynlluniwyd. Dirprwy Weinidog, o ystyried bod pobl yn yr ardaloedd hynny wedi bod yn aros cyhyd am weithredu, pryd yn union ydych chi'n disgwyl i'r peiriannau cloddio ddechrau gweithio?
Er y bydd newyddion am rai o'r prosiectau sy'n cael eu chwifio drwodd yn cael eu croesawu yn fawr gan gymudwyr, ymwelwyr a thrigolion yn yr ardaloedd hynny, mae'r diflastod, yr anhrefn a'r ansicrwydd i bawb arall mewn anwybodaeth a fydd yn parhau, yn anffodus. Dirprwy Weinidog, beth ydych chi am ei ddweud wrth y bobl hyn a fydd yn dal i ddioddef o ganlyniad uniongyrchol i'ch penderfyniad? Beth ydych chi am ei ddweud, Dirprwy Weinidog, wrth y busnesau hyn i gyd sy'n ei chael hi'n anodd dal ati ac a fydd nawr yn dal i straffaglu oherwydd y penderfyniad hwn?
Fe wn eich bod yn cael pleser mawr o weld bai ar Lywodraeth y DU am eich holl ddiffygion chi. Serch hynny, rwy'n teimlo y dylwn i eich atgoffa chi fod eich Llywodraeth chi wedi rhoi £155 miliwn yn ôl i San Steffan am na wnaethoch chi ei wario yng Nghymru ar bobl Cymru. Ac nid oes unrhyw angen i mi eich atgoffa chi bod llawer o feysydd trafnidiaeth yr ydym yn siarad amdanyn nhw, mewn gwirionedd, wedi eu datganoli. I chi, Dirprwy Weinidog, gallai ffyrdd fod yn ddarnau dychrynllyd o goncrit fel hyn, ond i ni, busnesau, cymudwyr a thrigolion, maen nhw'n angenrheidiol. Mae angen ffyrdd digonol arnom ni i redeg rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus o'r safon uchaf, i helpu busnesau i ffynnu, a rhedeg injan yr economi yn briodol—dim ond rhai o'r ychydig resymau pam rwy'n siarad mor angerddol am hyn.
Rwy'n deall y gallai rhai prosiectau gael y golau gwyrdd yn y pen draw os gwneir peth mireinio a gwelliannau a'u bod yn pasio eich profion gorchestol sydd ar waith erbyn hyn. Felly, o ystyried bod £24 miliwn eisoes wedi cael ei wario ar brosiectau ffyrdd ar ffurf ymchwil a datblygu cyn i'r gwaharddiad hwn ddigwydd, pwy fydd yn talu'r bil nawr am y gwaith o ailgynllunio? Mae cyfarwyddwr Cymdeithas y Contractwyr Peirianneg Sifil wedi cysylltu â ni gan ddweud bod angen peth eglurder ar unwaith o ran yr hyn a fydd yn digwydd wrth symud ymlaen.
Mae gen i bryderon hefyd am ddau gynghorydd, Anthony Hunt o'r Blaid Lafur a Llinos Medi o Blaid Cymru, sydd â'r dasg o adolygu prosiectau safleoedd datblygu economaidd wrth symud ymlaen. Oni allai panel o bobl annibynnol gael eu hymgynnull i archwilio hyn, yn lle dau gynghorydd sydd ag aliniad gwleidyddol?
Un o argymhellion yr adolygiad oedd darparu gwell cyfleusterau parcio a mannau gorffwys ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, rhywbeth rwy'n ei groesawu ac wedi bod yn galw amdano ers tro, ochr yn ochr â'r Gymdeithas Cludo ar Ffyrdd, i gyflawni hyn. A gaf i gadarnhad pendant gennych chi, Dirprwy Weinidog, y bydd hyn yn wir yn digwydd, a phryd yn union yr ydych chi'n disgwyl i'r gwelliannau hyn gael eu gwneud? Pan wnaethoch chi gyhoeddi'r gwaharddiad ar adeilad ffyrdd, Dirprwy Weinidog, ac rwy'n eich dyfynnu chi nawr, fe ddywedoch chi,
'mae angen inni symud oddi wrth wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru, a buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn sy'n rhoi dewis ystyrlon i bobl.'
Nawr, os yw hynny'n wir, Dirprwy Weinidog, pam mae eich Llywodraeth chi wedi torri gwariant o fewn teithio llesol ar gyfer 2023-24 o'r £223 miliwn a grybwyllwyd i £184 miliwn? Beth yn union yw'r 'dewisiadau amgen go iawn' honedig hyn yr ydych chi'n buddsoddi ynddyn nhw yn ôl y sôn, Dirprwy Weinidog? Rydych chi'n honni eich bod chi am roi'r gorau i wario arian ar bethau sy'n annog pobl i yrru. Digon teg. Felly, rwy'n awyddus i wybod, Dirprwy Weinidog, pam nad yw eich Llywodraeth chi wedi gwario'r un geiniog ar hysbysebu teithio llesol ers 2018. Yn rhyfedd iawn, ni wnaeth eich Llywodraeth wario unrhyw beth chwaith ar hysbysebu trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod 2021-22.
Ac yn awr, gadewch i ni droi at y cynllun trafnidiaeth. Roeddech chi'n dweud y byddai hwnnw'n blaenoriaethu newid hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Cywir? Eto i gyd, ar ôl darllen y fersiwn lawn o 162 tudalen a'r fersiwn fer o 16 tudalen, nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth o dlodi trafnidiaeth nac unrhyw arwydd o sut mae eich gwaith gyda gweithredwyr trafnidiaeth am leihau prisiau teithio wrth symud ymlaen. Felly, beth ydych chi a'ch cydweithwyr yn ei wneud i leddfu'r baich ariannol sydd ar y rhai sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn gwirionedd, Dirprwy Weinidog? Dros y ffin yn Lloegr, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cyflwyno cap o £2 ar brisiau bws. Dirprwy Weinidog, pam nad oes gennym ni gynllun tebyg yma yng Nghymru i'n cymudwyr ni? Ac a fyddwch chi'n ystyried hyn o ddifrif, oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i y byddai'n annog mwy o bobl i ddefnyddio bysiau?
Un arall o amcanion y cynllun yw erbyn 2025 y bydd ddefnyddwyr ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallan nhw fod o fewn cyrraedd seilwaith gwefru cerbydau trydan pan fo angen. Sut fydd hyn yn gweithio, Dirprwy Weinidog, oherwydd rwy'n amau eich bod chi'n fethiant llwyr gyda dim ond 39 dyfais gwefru cyhoeddus fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru? Nid yw hynny'n ddigonol. Gyda Chymru â'r gyfradd leiaf o ddyfeisiau gwefru cyflym neu gyflymach, a ydych chi'n hyderus eich bod chi am gyrraedd y nod hwn?
Un o flaenoriaethau'r cynllun yw cael mwy o bobl i weithio o gartref. Mae'n rhaid i mi gyfaddef y gwnaeth hynny i mi chwerthin, oherwydd i mi roedd hi'n debyg eich bod chi, yn ei hanfod, yn dweud fod y rhwydwaith drafnidiaeth yng Nghymru mor wael y byddai'n well gennych chi gadw pobl yn eu cartrefi, yn lle cynnig datrysiadau gwirioneddol. Dirprwy Weinidog, mae hi'n amlwg i mi nad yw hyn i gyd heddiw, yn gymysg oll â'r terfyn cyflymder 20 mya cyffredinol sy'n cael ei gyflwyno a'r tâl tagfeydd y sibrydir amdano wrth symud ymlaen, yn gwneud dim ond tynnu sylw pellach at agenda gwrth-gar, gwrth-dwf, gwrth-swydd Llafur. I mi, mae'n ymddangos bod strategaeth drafnidiaeth Llafur mewn anhrefn llwyr.
Dirprwy Weinidog, rydych chi wedi cyfaddef yn y gorffennol nad yw eich Llywodraeth chi'n gwybod beth mae hi'n ei wneud o ran yr economi. Mae hi'n hen bryd nawr i chi godi eich dwylo a chyfaddef, gerbron pawb ohonom ni, ei bod hi'n amlwg nad ydych chi'n gwybod beth yr ydych chi'n ei wneud o ran trafnidiaeth chwaith.