Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 14 Chwefror 2023.
Mae amcanion 'Cymraeg 2050', ein strategaeth ar gyfer cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, yn greiddiol i hyn hefyd. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn gweithio gydag ystod o ymyraethau i gynyddu defnydd o'r Gymraeg, a hefyd sgiliau a hyder yn y Gymraeg yn y sector addysg bellach, yn helpu colegau ac ymarferwyr i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi dysgwyr a'u gallu i ddod o hyd i'r Gymraeg a datblygu eu sgiliau.