5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dysgu Digidol mewn Addysg Bellach

– Senedd Cymru am 4:14 pm ar 14 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:14, 14 Chwefror 2023

Eitem 5 y prynhawn yma yw daganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar ddysgu digidol mewn addysg bellach. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dros y tair blynedd diwethaf, rŷn ni wedi gweld newid mawr yn natblygiad dysgu digidol ar raddfa na allen ni erioed fod wedi ei rhagweld cyn pandemig COVID-19. Dwi am dalu teyrnged i ymroddiad ein staff a'n harweinwyr ar draws y sector addysg a weithiodd i gynnal brwdfrydedd ein dysgwyr yn ystod cyfnod o her na welwyd ei thebyg o'r blaen.

Mae'n amser nawr i edrych ymlaen. Mae gyda ni gyfle cyffrous i ystyried sut y gall addysgu a dysgu esblygu i ddiwallu anghenion dysgwyr, anghenion yr economi a chymdeithas—anghenion sydd, wrth gwrs, yn newid o hyd. Mae hyn yn golygu harneisio potensial technoleg i wella profiadau dysgu ac ehangu mynediad pobl yng Nghymru i gyfleoedd dysgu. Bydd ein cwricwlwm newydd i ysgolion yn help i ddatblygu gallu digidol disgyblion, ac rwyf am wneud yn siŵr bod ein pobl ifanc yn gallu parhau gyda'r daith honno wrth iddyn nhw symud ymlaen i ddysgu ôl-16.

Mae’r sector addysg bellach hefyd yn rhan ganolog o'n cynlluniau ni i roi'r sgiliau sydd eu hangen i ddysgwyr o bob oed, er mwyn gallu symud ymlaen i waith ystyrlon, sy'n dod â boddhad iddyn nhw. Mae dysgu galwedigaethol effeithiol yn golygu gweithio gyda’r adnoddau a’r technegau sy'n cael eu defnyddio o fewn diwydiant modern, ac mae ein colegau ni wedi creu partneriaethau cryf gyda chyflogwyr er mwyn helpu i gyflawni'r amcan o ran sgiliau digidol yn y strategaeth ddigidol i Gymru.

Yng ngwanwyn y llynedd, fe wnes i nodi fy ngweledigaeth gyffredinol ar gyfer y sector addysg bellach yng Nghymru. Fe’i wnes i'n glir fy mod yn disgwyl i adnoddau a thechnolegau digidol ddod yn rhan naturiol o daith dysgwr, a hynny fel rhan o ddull cydlynol, modern o ddysgu. Eisoes, mae gyda ni sylfaen gref i helpu i wireddu’r uchelgais hon. Fe gafodd ein fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol, 'Digidol 2030', a gyhoeddwyd yn 2019, ei gydlunio ochr yn ochr gyda'r sector ôl-16. Rŷn ni'n defnyddio’r weledigaeth, y nodau a’r amcanion sydd yn 'Digidol 2030' fel sail i'n buddsoddiad a'n cymorth ar gyfer y sector.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:17, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i'n sector addysg bellach yng Nghymru fod ar flaen y gad o ran arloesedd, creadigrwydd a chydweithio. Rwy'n falch iawn o weld sawl enghraifft o'r math hwn o weithgarwch yn ein sector addysg bellach. Mae ein colegau yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau o archwilio'r defnydd o realiti rhithwir ac estynedig, gan archwilio partneriaethau creadigol gyda diwydiannau uwch-dechnoleg, a gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymwysterau â phwyslais digidol.

Ym mis Rhagfyr, ysgrifennais at benaethiaid colegau addysg bellach i lansio galwad i weithredu ar gyfer y sector addysg bellach o dan 'Digidol 2030'. Gan symud ymlaen o brofiadau o addysg frys o bell yn ystod anterth y pandemig, rwyf wedi gofyn i bob coleg ddatblygu ei gynllun strategol ei hun ar gyfer dysgu digidol erbyn diwedd y flwyddyn academaidd hon. Hoffwn sicrhau ein bod ni'n ymwreiddio dull cynaliadwy, strategol o ddysgu digidol a chynnig profiadau dysgu o ansawdd uchel sy'n ennyn diddordeb a brwdfrydedd ein dysgwyr. I gefnogi'r alwad hon i weithredu, rwyf i wedi clustnodi cyfanswm o £8 miliwn o gyllid cyfalaf dros dair blwyddyn academaidd ar gyfer offer digidol a gwelliannau i seilwaith mewn sefydliadau addysg bellach. Bydd hyn yn dod â chyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn dysgu digidol addysg bellach i dros £30 miliwn erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2024-25. Gwn fod y sector addysg bellach yn cefnogi amrywiaeth eang iawn o unigolion, gan gynnig amrywiaeth o wahanol bynciau a chymwysterau ar wahanol lefelau, ac nid oes un dull dysgu digidol syml sy'n addas i bawb, felly bydd angen i bob coleg ddatblygu ei gynllun unigryw ei hun.

Er mwyn sicrhau, gyda'i gilydd, bod y cynlluniau hyn yn creu dull strategol trawsbynciol ar draws yr holl sector addysg bellach, rwyf i wedi nodi pedair blaenoriaeth allweddol i golegau eu hadlewyrchu yn eu cynlluniau. Yn gyntaf, gweithio ar y cyd i ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu. Yn ail, datblygu galluoedd a hyder digidol dysgwyr a staff ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith. Yn drydydd, manteisio i'r eithaf ar botensial technoleg i rymuso, i gymell ac i ysbrydoli dysgwyr, ac yn bedwerydd, i ymwreiddio dulliau ystwyth, cydnerth a chynaliadwy o ddarparu.

O ganlyniad i gyllid blynyddol Llywodraeth Cymru, mae colegau yn elwa o gynnig cymorth cynhwysfawr gan y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth. Bydd y cydbwyllgor yn parhau i fod yn bartneriaid allweddol i ni ar gyfer 'Digidol 2030', gan ddatblygu ein sylfaen ymchwil a thystiolaeth, a chan sicrhau bod arferion gorau yn cael eu rhannu ac, yn wir, eu hymestyn ar draws y sector ôl-16. Rydym ni wedi comisiynu darn unigryw o ymchwil gan y cydbwyllgor, a fydd yn nodi'r cyfleoedd i ddefnyddio dysgu digidol a chyfunol i greu'r effaith fwyaf posibl i'r dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith ymchwil hwn yn cael eu rhannu yn y gwanwyn.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:20, 14 Chwefror 2023

Mae amcanion 'Cymraeg 2050', ein strategaeth ar gyfer cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, yn greiddiol i hyn hefyd. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn gweithio gydag ystod o ymyraethau i gynyddu defnydd o'r Gymraeg, a hefyd sgiliau a hyder yn y Gymraeg yn y sector addysg bellach, yn helpu colegau ac ymarferwyr i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi dysgwyr a'u gallu i ddod o hyd i'r Gymraeg a datblygu eu sgiliau. 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:21, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n disgwyl y bydd cynlluniau strategol colegau yn nodi uchelgeisiau tymor hwy ar gyfer dysgu digidol, ond yn canolbwyntio'n fwy manwl ar y cyfnod rhwng 2023 a 2025, tra bod y comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yn cael ei sefydlu. Mae technoleg ddigidol yn cynnig potensial enfawr i helpu i gyflawni nodau allweddol y comisiwn o gryfhau cydweithrediad ar draws y sector ôl-16, i ehangu cyfleoedd i ddysgwyr ledled Cymru, ac i gynorthwyo cyfnodau pontio a datblygiad dysgwyr. Bydd yr alwad i weithredu yn helpu i sicrhau bod y sector addysg bellach yn barod i chwarae ei rhan i gyflawni'r nodau hyn dros y blynyddoedd nesaf.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi nodau ac uchelgeisiau'r datganiad, gan ein bod ni i gyd eisiau gweld Cymru fwy medrus yn ddigidol. Ac rydym ni i gyd yn cydnabod bod manteision cymdeithasol ac ariannol mawr i'w cael o gyfoethogi sgiliau digidol Cymru. Fodd bynnag, mae gen i ychydig o bryderon ynghylch sut yr ydym ni'n sicrhau nad oes neb yn colli allan ar hyn, felly os gallech chi dawelu'r ofnau hyn heddiw, byddwn yn ddiolchgar.

Mae pobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru nad ydyn nhw ar-lein fel rheol yn cael eu heithrio oherwydd problemau gyda darpariaeth band eang, ar gyfer llinellau sefydlog a gwasanaethau band eang symudol. Ceir llawer o ardaloedd o Gymru o hyd sy'n cael eu heffeithio gan fannau gwan, er bod y rhai sy'n cymryd rhan mewn astudiaethau achos yn hysbysu bod cyffredinrwydd y rhain yn lleihau. Sut mae eich cynllun yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei eithrio oherwydd darpariaeth band eang wael?

Mater allweddol arall, fel y gwyddoch, yw'r rhai o deuluoedd incwm is sy'n fwy economaidd anweithgar ac sy'n llai tebygol o ymweld â gwefan na'r rhai mewn gwaith. Gallai teuluoedd ac unigolion ar incwm is gael eu heffeithio gan fynediad at ddyfeisiau a chysylltedd a'u fforddiadwyedd, yn ogystal â bod heb fynediad at ddyfeisiau neu, o bosibl, rhwydweithiau, sy'n golygu efallai na fyddan nhw chwaith yn datblygu'r wybodaeth, y cymhelliant neu'r sgiliau digidol sydd eu hangen. Felly, cwestiwn arall: sut ydych chi'n mynd i sicrhau nad yw incwm a chyllid yn amharu ar ddysgu'r sgiliau hollbwysig hyn?

Ac yn olaf, mae fy mhryder am y rhai sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor. Mae wyth deg naw y cant o'r rhai sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor yn defnyddio'r rhyngrwyd o'i gymharu â 93 y cant o'r rhai hebddynt. Efallai y bydd angen cymorth ar bobl ag anableddau i ddod o hyd i dechnolegau cynorthwyol priodol, neu gallen nhw gael eu rhwystro ar eu taith dysgu ddigidol. Mae'n amlwg y gallai fod angen rhyw fath o grant neu gymorth yma i helpu i gynorthwyo'r nodau clodwiw hyn sydd gennych chi, Gweinidog. Felly, fy nghwestiwn olaf yw: a allwch chi ddweud wrthyf i pa gymorth fydd ar gael i'r rhai sydd ag anableddau neu broblemau iechyd hirdymor? Diolch, Gweinidog.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:23, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Gallaf, yn sicr. Yn rhan o'r buddsoddiad o dros £30 miliwn yr ydym ni wedi ei wneud i ehangu darpariaeth ddigidol gan y sector addysg bellach yn y blynyddoedd diwethaf—dyna fydd y ffigur erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2024-25—un o'r meini prawf allweddol ar gyfer buddsoddi hwnnw yw gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael mynediad at y ddarpariaeth sy'n deillio o hynny. Bydd yr Aelod hefyd yn cofio'r buddsoddiad cyfalaf sylweddol yr ydym ni wedi ei wneud i ariannu'r ddarpariaeth o liniaduron a chyfrifiaduron llechen yn y sector ysgolion a cholegau, fel bod yr unigolion hynny a allai ei chael hi'n anodd eu hunain prynu'r hyn a all fod yn offer drud iawn yn aml hefyd yn gallu cael mynediad at y cyfarpar hwnnw, yr offer hwnnw, eu hunain. Felly, mae hynny wedi bod yn rhan bwysig iawn o'r arlwy, rwy'n credu.

Ac mae hi'n iawn i nodi'r mynediad amrywiol at fand eang mewn rhai rhannau o Gymru, yn sicr, fel her benodol. Yr hyn y bydd hi'n ei wybod, fel Llywodraeth, yw bod y swyddogaeth hon, fel y mae'n gwybod, yn swyddogaeth neilltuedig i San Steffan, ond er hynny, rydym ni wedi ceisio buddsoddi trwy ein band eang cyflym iawn a chynlluniau eraill er mwyn lleihau nifer y mannau gwan sy'n bodoli oherwydd daearyddiaeth Cymru, Ac, yn wir, yn rhan o'r ymateb i COVID, byddwch yn cofio, yn ogystal â darparu cyfarpar, ein bod ni hefyd wedi darparu offer cysylltedd hefyd, felly donglau ac yn y blaen, i sicrhau nad oedd dysgwyr yn cael eu heithrio yn y ffordd y mae'n ofni yn ei chwestiwn. Felly, mae rhan o'r gwaith a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf wedi canolbwyntio'n benodol ar wneud yn siŵr bod yr offer sy'n cael ei ddatblygu, y technegau addysgu a ddefnyddir, mor hygyrch â phosibl, gan gynnwys i'r rhai sydd â heriau penodol oherwydd anabledd yn ogystal â fforddiadwyedd. Mae'n rhan bwysig iawn o'r genhadaeth y tu ôl i hyn i ymestyn y cyfleoedd hynny, ac felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hi bod honno'n flaenoriaeth bwysig.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:26, 14 Chwefror 2023

Diolch am y datganiad, Weinidog, a dŷn ni'n croesawu'r buddsoddiad hwn mewn sgiliau digidol, yn enwedig yn sgil y ffaith bod yna alw cynyddol ar gyfer sgiliau digidol o fewn y farchnad swyddi—galw nad yw'n cael ei gwrdd ar hyn o bryd—a diffyg sgiliau digidol uwch hefyd yn bryder gan gyflogwyr.

Lansiwyd 'Digidol 2030' yn 2019, felly rŷn ni bellach ryw bedair blynedd i mewn i'r strategaeth, a'r buddsoddiad, fel rŷch chi wedi nodi, yn £30 miliwn ers hynny. Mae pob ymchwil yn dangos bod angen cynnau diddordeb yn gynnar mewn pynciau fel cyfrifiadureg a TGCh, ac rŷch chi wedi cyfeirio yn eich datganiad at rôl y cwricwlwm newydd yn hynny. Ond, mae yna bryder bod yna gyfran fawr o athrawon arbenigol nad sy'n arbenigwyr pwnc yn dysgu y pwnc yma yn ein hysgolion. Mae'n hysbys, wrth gwrs, nad yw targedau y Llywodraeth o ran recriwtio yn y gweithlu addysg yn cael eu cyrraedd, ac mae hynny'n arbennig o wir o ran addysgwyr cyfrwng Cymraeg. Felly, hoffwn wybod beth yw'r darlun ar hyn o bryd o ran y maes yma yn ein hysgolion ac yn ein colegau, o ran y rhai sy'n medru dysgu'r sgiliau hyn ac sy'n arbenigwyr pwnc. O ystyried yr angen am arbenigedd a'r gwahaniaethau mewn cyflogau rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat ar gyfer sgiliau o'r fath, sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod gan sefydliadau addysg bellach yng Nghymru yr arbenigedd digidol angenrheidiol i ddarparu profiadau dysgu digidol effeithiol? Ac wedyn, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu parhau â'r ymrwymiad hwn yn y tymor hir o gofio, wrth inni barhau i gyflwyno addysg mewn ffyrdd arloesol, a gyda thechnolegau newydd yn ymddangos yn barhaus i ddiwallu anghenion diwydiant, ein bod hefyd yn wynebu risgiau cynyddol seiberddiogelwch y mae angen inni eu lliniaru?

O ystyried, wedyn, cyfeiriad galwad i weithredu 'Digidol 2030' at ymateb i flaenoriaethau gweinidogol, yn enwedig gweithio ar y cyd i ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu, pa rôl y bydd y sector preifat yn ei chwarae wrth gefnogi dysgu digidol mewn addysg bellach? Sut bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i gyflawni ei nodau yn y maes hwn?

Ac yn olaf, mae yna fwlch amlwg, yn anffodus, o hyd, yn nifer y rhai sy'n ferched sy'n astudio'r cyfrifiadureg a TGCh i TGAU a safon uwch gyfrannol ac uwch. Pa gynlluniau sydd ar waith gan y Llywodraeth i newid hyn, a sut mae'r cynnydd yn hynny o beth yn cael ei fonitro? Diolch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:29, 14 Chwefror 2023

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Rwy'n gwybod y bydd hi'n croesawu'r gwaith sydd eisoes ar waith i gynyddu'r niferoedd sydd yn medru dysgu gwyddorau a mathemateg a chyfrifiadureg, yn cynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys cymhellion ariannol sydd yn gallu bod yn rhai sylweddol, a hefyd initiatives eraill i ddenu pobl i mewn i'r proffesiwn. Gwnaeth hi orffen drwy ofyn am yr hyn roeddem ni'n ei wneud i sicrhau bod mwy a mwy o ddisgyblion yn penderfynu dewis y cyrsiau yma hefyd. Mae'r cwestiwn o perception, canfyddiad, a stereotyping yn bwysig iawn yn hyn o beth, a bydd hi'n gwybod am y gwaith rŷn ni'n ei wneud i fuddsoddi mewn codio ac mewn cyrff fel Techniquest, ynghyd ag amryw o ymyraethau STEM, a'r rheini yn cael ffocws pwrpasol ar ddenu merched i mewn i'r sector am y rhesymau mae hi'n eu dweud. Gwnaeth hi sôn am sgiliau a pha mor bwysig oedd e i gydweithio â'r sector breifat i ddiwallu'r angen yn hyn o beth, a hefyd darparu digon o hyfforddiant proffesiynol i'r gweithlu, fel eu bod nhw'n gallu darparu'r sgiliau yma, sydd mor bwysig.

Bydd hi'n gwybod ein bod ni wedi, yn ddiweddar, ehangu'r cyfrifon dysgu unigol, sydd â ffocws penodol ar sgiliau digidol. Mae hynny wedi digwydd yn ystod y misoedd diwethaf. Mae gennym ni hefyd amrywiaeth o gyrsiau IT a phrentisiaethau digidol yng Nghymru ar lefelau 2 i 5 a 3, a lefelau gradd hefyd. Felly, mae amryw o ddarpariaeth, yn cynnwys seiberddiogelwch, fel roedd hi'n dweud yn ei chwestiwn, sydd mor bwysig fel sector sy'n tyfu yma yng Nghymru hefyd, a chyfleoedd yn dod yn sgil hynny. Fel rhan o'r gwaith yn cydweithio â'r sector breifat, rydym ni wedi hefyd ariannu cynlluniau knowledge transfer, fel bod staff dysgu addysg bellach yn gallu cadw eu sgiliau yn gyfredol wrth gydweithio â'r sector breifat, a hefyd cyfnewid swyddi dros dro, fel bod adnewyddu cyson yn digwydd o fewn sgiliau'r gweithlu, sydd yn bwysig am y rhesymau mae hi'n eu dweud, ac yn benodol o bwysig mewn sector fel hon, sydd yn newid mor gyflym ac yn datblygu mor gyflym hefyd. 

Ac yn olaf, o ran dysgu proffesiynol, yn y sector ôl-16, rydym wedi comisiynu deunydd hyfforddi pwrpasol a chyrsiau ar addysgu digidol wrth Jisc, mewn ymateb i argymhellion Estyn i wella safon ac argaeledd dysgu ar-lein a dysgu remote hefyd. Felly, mae corff o hyfforddiant yn bodoli eisoes; rydym ni'n ychwanegu at hynny yn gyson. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn. A diolch am adael i mi siarad am ychydig o eiliadau i ofyn un cwestiwn, mewn difrif. Dwi'n siarad fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddigidol yma yn y Senedd. Mae'n dda gweld buddsoddiad ychwanegol yn mynd i mewn i ddarparu mwy o gyfleon i ddysgu mewn modd digidol, ond tybed ydy'r Gweinidog yn gallu rhoi syniad i fi o sut mae o'n gweld hwn yn ffitio mewn i greu'r math o sgiliau digidol sydd eu hangen ar gyfer yr economi Gymreig. Mae'r gallu i weithio yn ddigidol yn un peth, ond, drwy ddatblygu'r sgiliau hynny, sy'n gwneud dysgu yn fwy difyr, yn fwy engaging, mae eisiau cadw llygad ar pam dŷn ni'n gwneud hyn hefyd, a beth ydy'r budd dŷn ni'n mynd i'w gael fel cymdeithas allan o ddatblygu'r sgiliau yna, a sut ydym ni, fel economi, yn mynd i elwa hefyd.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:32, 14 Chwefror 2023

Mae'n gwestiwn pwysig. Wrth gwrs, prif bwrpas hyn yw sicrhau bod y ffordd rŷn ni'n dysgu myfyrwyr yn gallu cyrraedd y rhan fwyaf sydd yn bosib, felly, fod cyfle ehangach gyda phobl i allu cael mynediad at gyrsiau amrywiol, ac mae galw gwahanol mewn ardaloedd gwahanol am gyrsiau ymhlith ein colegau ni. Ond mae e hefyd yn gyfle—fel roeddwn i'n sôn yn fras yn gynharach gyda Sioned Williams—mae hefyd yn gyfle i sicrhau ein bod ni'n cadw'n gyfredol o ran y sgiliau mae'r gweithlu addysg bellach, er enghraifft, yn eu cynnal, fel eu bod nhw'n gallu sicrhau bod y myfyrwyr yn cadw'u sgiliau yn gyfredol. Mae amrywiaeth o gymwysterau eisoes yn bodoli. Mae'r rheini, wrth gwrs—er enghraifft, o ran prentisiaethau—yn cael eu dylunio gyda'r sector ei hunan, ac mae'r ddeddfwriaeth rydym ni newydd ei phasio fel Senedd yn mynd i wneud hynny'n haws fyth, yn ei wneud e'n fwy hyblyg fyth, fel ein bod ni'n gallu sicrhau bod y sectorau sy'n tyfu ac yn newid yn gyflym yn gallu cael llais uniongyrchol ar sut rydym ni'n siapio'r cyrsiau hynny. Mae hynny'n bwysig iawn.