5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dysgu Digidol mewn Addysg Bellach

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 14 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:31, 14 Chwefror 2023

Diolch yn fawr iawn. A diolch am adael i mi siarad am ychydig o eiliadau i ofyn un cwestiwn, mewn difrif. Dwi'n siarad fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddigidol yma yn y Senedd. Mae'n dda gweld buddsoddiad ychwanegol yn mynd i mewn i ddarparu mwy o gyfleon i ddysgu mewn modd digidol, ond tybed ydy'r Gweinidog yn gallu rhoi syniad i fi o sut mae o'n gweld hwn yn ffitio mewn i greu'r math o sgiliau digidol sydd eu hangen ar gyfer yr economi Gymreig. Mae'r gallu i weithio yn ddigidol yn un peth, ond, drwy ddatblygu'r sgiliau hynny, sy'n gwneud dysgu yn fwy difyr, yn fwy engaging, mae eisiau cadw llygad ar pam dŷn ni'n gwneud hyn hefyd, a beth ydy'r budd dŷn ni'n mynd i'w gael fel cymdeithas allan o ddatblygu'r sgiliau yna, a sut ydym ni, fel economi, yn mynd i elwa hefyd.