Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 14 Chwefror 2023.
Ar 31 Ionawr, fe wnaeth fy swyddog cyfatebol yn yr Alban a minnau gyfarfod â Gweinidog y DU, Felicity Buchan, i drafod materion sy'n effeithio ar ein hymateb o ran Wcráin. Yn ystod fy natganiad diwethaf, amlinellais y materion ariannol y byddwn yn eu codi, a thrafodwyd y rhain gyda'r Gweinidog Buchan. Yn anffodus, gwrandawyd ar ein ceisiadau am newidiadau yr ydym ni'n credu fyddai'n cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau i newydd-ddyfodiaid agored i niwed ond ni fwriwyd ymlaen â nhw. Ers ein cyfarfod gyda'r Gweinidog Buchan, cododd ein Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol faterion tebyg gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, gan gynnwys yr angen i Lywodraeth y DU gynyddu'r lwfans tai lleol, ond ni chafwyd unrhyw arwydd o newid dull. Ond rydym ni'n dal i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarganfod pa gyfran o'r gronfa newydd gwerth £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i Wcreiniaid yn ystod 2023-24 fydd yn dod i Gymru. Rydym ni wedi cyflwyno cynnig ac rydym ni wedi bod yn eglur bod angen eglurder ar frys i alluogi awdurdodau lleol i gynllunio'n ddigonol.
Mae hyn yn ein gadael ni ac awdurdodau lleol mewn sefyllfa gyllidebol anodd, heb yr eglurder sydd ei angen arnom ni i gyflawni ein hymateb dyngarol yn fwyaf effeithiol. Serch hynny, rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i ystyried sut y gallwn ddefnyddio orau y £40 miliwn yr ydym ni wedi ei roi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Bydd hyn yn ein cynorthwyo symud ymlaen i lety tymor hwy, gan gynnwys lletywyr, ac yn cynorthwyo integreiddiad yn ein cymunedau.
Rydym ni wrthi'n datblygu pecyn cyfathrebu ar hyn o bryd i annog recriwtio rhagor o aelwydydd yng Nghymru fel lletywyr i'r rhai sy'n cyrraedd neu'n aros yng Nghymru. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu taliadau 'diolch' i £500 yn unig ar ôl i westai fod yn y DU am 12 mis yn golygu y bydd llawer yn cael trafferth gyda biliau pan fo angen cymorth arnyn nhw fwyaf. Fodd bynnag, un agwedd gadarnhaol ar newidiadau cyllid Llywodraeth y DU oedd ymestyn y taliadau 'diolch' i letywyr i ail flwyddyn ein gwesteion yn y DU. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o'r newid hwn i gadw lletywyr. Byddwn yn ceisio cynyddu gweithgarwch yn y gwanwyn i ddod o hyd i'r rhai a allai ein cynorthwyo yn yr ymdrech hon. Fel erioed, gall lletywyr â diddordeb fynd i www.llyw.cymru/cynnig-cartref-yng-nghymru-i-ffoaduriaid-o-wcrain i ddarganfod mwy a chofrestru eu diddordeb. Rydym ni'n chwilio'n arbennig am letywyr sy'n gallu cynorthwyo teuluoedd mawr, y rhai ag anifeiliaid anwes, neu ddynion sengl.
Rwyf i wedi bod yn darparu'r datganiadau diweddaru hyn ers misoedd lawer, ond prin y gellir credu o hyd ein bod ni eisoes yn agosáu at flwyddyn ers ymosodiad 2022 ar Wcráin. Rydym ni'n gwybod bod rhai Wcreiniaid yma yng Nghymru, gan gynnwys y rhai a wnaeth geisio noddfa flynyddoedd yn ôl, yn ystyried mai 2014 oedd dechrau'r ymosodiad presennol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gofio hynny, hyd yn oed wrth i ni fyfyrio ar ben blwydd dwysáu'r ymosodiad.
Mae'r pen blwydd hwn yn garreg filltir ofnadwy ac yn atgoffâd trasig o pam rydym ni'n gwneud popeth yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru. Rydym ni'n ddiwyro yn ein cefnogaeth i'r rhai yr ydym ni wedi eu croesawu dros y flwyddyn ddiwethaf, yr aelodau o'r gymuned o Wcreiniaid sydd eisoes yn galw Cymru yn gartref, a'r rhai sy'n ymladd yn Wcráin. Rydym ni'n genedl noddfa, a gwn y byddai pob ochr o'r Siambr hon yn cytuno â mi wrth anfon neges o obaith, undod a pharch. Mae pobl Cymru wedi dangos y tu hwnt i amheuaeth ein bod ni'n bobl dosturiol, gan ddarparu cymorth rhyfeddol er gwaethaf trafferthion enfawr drwy'r argyfwng costau byw.
Byddwn yn nodi'r pen blwydd rhwng 24 Chwefror a 27 Chwefror. Ar y pen blwydd ei hun, bydd y Senedd mewn toriad, ond rydym ni'n gweithio ar gynlluniau gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y pen blwydd yn cael ei nodi'n briodol. Ar 25 Chwefror, byddwn yn croesawu Kenneth Nowakowski, Esgob Eparchiaeth Gatholig Wcráin y Teulu Sanctaidd o Lundain i Gymru, a fydd yn ymuno ag Archesgob Caerdydd mewn gwasanaeth gweddi eciwmenaidd golau cannwyll wedi'i ffrydio'n fyw. Bydd hon yn offeren dros heddwch, a bydd yn cael ei chynnal am 8 yr hwyr ddydd Sadwrn 25 Chwefror yn eglwys gadeiriol fetropolitan Caerdydd, a byddaf yn bresennol. Ac yna, ddydd Sul 26 Chwefror am 3 y prynhawn, bydd offeren ddwyfol hefyd yn cael ei chynnal yn Eglwys Sant Pedr yng Nghaerdydd, gyda'r Cwnsler Cyffredinol yn bresennol.
Ac yn olaf, rydym ni'n cynnal digwyddiad yn y Senedd ar 27 Chwefror. Rydym ni wedi gwahodd y rhai o bob sector sydd wedi estyn allan ac wedi helpu pobl o Wcráin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â theuluoedd lletya o bob cwr o Gymru a'u gwesteion. Bydd yn ddiwrnod o fyfyrdod, yn ddiwrnod i gofio'r gorffennol ac i edrych tua'r dyfodol.
Bydd ein cefnogaeth i Wcreiniaid a phawb sy'n ceisio noddfa yng Nghymru yn parhau ymhell y tu hwnt i'r pen blwydd hwn. Mae'r rhai sy'n canfod noddfa yng Nghymru yn cyfrannu at ein cymunedau, ein heconomi a'n synnwyr o bwy ydym ni fel cenedl. Fel y dywedodd yr Arlywydd Zelenskyy yn ei anerchiad diweddar i ddau Dŷ Senedd y DU,
'Mae yn ein gallu i sicrhau gyda geiriau a gweithredoedd y bydd ochr olau'r natur ddynol yn drech. Yr ochr yr ydych chi a ninnau yn ei rhannu. Ac mae hyn yn drech na phopeth arall.'
Diolch.