6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Ymateb Dyngarol i Wcráin

– Senedd Cymru am 4:33 pm ar 14 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:33, 14 Chwefror 2023

Eitem 6 yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yr ymateb dyngarol i Wcráin. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:34, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o roi diweddariad i Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru.

Mae Cymru bellach wedi croesawu ychydig dros 6,400 o Wcreiniaid o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Noddwyd bron i 3,400 gan aelwydydd yng Nghymru, a noddwyd ychydig dros 3,000 gan Lywodraeth Cymru erbyn 7 Chwefror. Mae dros 1,300 o'r rheini y mae Llywodraeth Cymru wedi eu noddi bellach wedi symud i lety tymor hwy. Mae rhagor wedi cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin, ond ni roddir y data hynny i ni gan Lywodraeth y DU. Nid yw cyfanswm y fisâu a roddwyd wedi cynyddu rhyw lawer yn 2023 hyd yn hyn. Rhoddwyd tua 8,750 o fisâu i'r rhai sydd â noddwyr yng Nghymru erbyn hyn, a cheir tua 1,500 o unigolion â fisâu nad ydyn nhw wedi teithio eto, ac rydym ni'n parhau i fod yn ymwybodol y gall digwyddiadau yn Wcráin gael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid a allai gyrraedd Cymru.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:35, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Ar 31 Ionawr, fe wnaeth fy swyddog cyfatebol yn yr Alban a minnau gyfarfod â Gweinidog y DU, Felicity Buchan, i drafod materion sy'n effeithio ar ein hymateb o ran Wcráin. Yn ystod fy natganiad diwethaf, amlinellais y materion ariannol y byddwn yn eu codi, a thrafodwyd y rhain gyda'r Gweinidog Buchan. Yn anffodus, gwrandawyd ar ein ceisiadau am newidiadau yr ydym ni'n credu fyddai'n cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau i newydd-ddyfodiaid agored i niwed ond ni fwriwyd ymlaen â nhw. Ers ein cyfarfod gyda'r Gweinidog Buchan, cododd ein Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol faterion tebyg gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, gan gynnwys yr angen i Lywodraeth y DU gynyddu'r lwfans tai lleol, ond ni chafwyd unrhyw arwydd o newid dull. Ond rydym ni'n dal i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarganfod pa gyfran o'r gronfa newydd gwerth £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i Wcreiniaid yn ystod 2023-24 fydd yn dod i Gymru. Rydym ni wedi cyflwyno cynnig ac rydym ni wedi bod yn eglur bod angen eglurder ar frys i alluogi awdurdodau lleol i gynllunio'n ddigonol.

Mae hyn yn ein gadael ni ac awdurdodau lleol mewn sefyllfa gyllidebol anodd, heb yr eglurder sydd ei angen arnom ni i gyflawni ein hymateb dyngarol yn fwyaf effeithiol. Serch hynny, rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i ystyried sut y gallwn ddefnyddio orau y £40 miliwn yr ydym ni wedi ei roi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Bydd hyn yn ein cynorthwyo symud ymlaen i lety tymor hwy, gan gynnwys lletywyr, ac yn cynorthwyo integreiddiad yn ein cymunedau.

Rydym ni wrthi'n datblygu pecyn cyfathrebu ar hyn o bryd i annog recriwtio rhagor o aelwydydd yng Nghymru fel lletywyr i'r rhai sy'n cyrraedd neu'n aros yng Nghymru. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu taliadau 'diolch' i £500 yn unig ar ôl i westai fod yn y DU am 12 mis yn golygu y bydd llawer yn cael trafferth gyda biliau pan fo angen cymorth arnyn nhw fwyaf. Fodd bynnag, un agwedd gadarnhaol ar newidiadau cyllid Llywodraeth y DU oedd ymestyn y taliadau 'diolch' i letywyr i ail flwyddyn ein gwesteion yn y DU. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o'r newid hwn i gadw lletywyr. Byddwn yn ceisio cynyddu gweithgarwch yn y gwanwyn i ddod o hyd i'r rhai a allai ein cynorthwyo yn yr ymdrech hon. Fel erioed, gall lletywyr â diddordeb fynd i www.llyw.cymru/cynnig-cartref-yng-nghymru-i-ffoaduriaid-o-wcrain i ddarganfod mwy a chofrestru eu diddordeb. Rydym ni'n chwilio'n arbennig am letywyr sy'n gallu cynorthwyo teuluoedd mawr, y rhai ag anifeiliaid anwes, neu ddynion sengl.

Rwyf i wedi bod yn darparu'r datganiadau diweddaru hyn ers misoedd lawer, ond prin y gellir credu o hyd ein bod ni eisoes yn agosáu at flwyddyn ers ymosodiad 2022 ar Wcráin. Rydym ni'n gwybod bod rhai Wcreiniaid yma yng Nghymru, gan gynnwys y rhai a wnaeth geisio noddfa flynyddoedd yn ôl, yn ystyried mai 2014 oedd dechrau'r ymosodiad presennol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gofio hynny, hyd yn oed wrth i ni fyfyrio ar ben blwydd dwysáu'r ymosodiad.

Mae'r pen blwydd hwn yn garreg filltir ofnadwy ac yn atgoffâd trasig o pam rydym ni'n gwneud popeth yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru. Rydym ni'n ddiwyro yn ein cefnogaeth i'r rhai yr ydym ni wedi eu croesawu dros y flwyddyn ddiwethaf, yr aelodau o'r gymuned o Wcreiniaid sydd eisoes yn galw Cymru yn gartref, a'r rhai sy'n ymladd yn Wcráin. Rydym ni'n genedl noddfa, a gwn y byddai pob ochr o'r Siambr hon yn cytuno â mi wrth anfon neges o obaith, undod a pharch. Mae pobl Cymru wedi dangos y tu hwnt i amheuaeth ein bod ni'n bobl dosturiol, gan ddarparu cymorth rhyfeddol er gwaethaf trafferthion enfawr drwy'r argyfwng costau byw.

Byddwn yn nodi'r pen blwydd rhwng 24 Chwefror a 27 Chwefror. Ar y pen blwydd ei hun, bydd y Senedd mewn toriad, ond rydym ni'n gweithio ar gynlluniau gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y pen blwydd yn cael ei nodi'n briodol. Ar 25 Chwefror, byddwn yn croesawu Kenneth Nowakowski, Esgob Eparchiaeth Gatholig Wcráin y Teulu Sanctaidd o Lundain i Gymru, a fydd yn ymuno ag Archesgob Caerdydd mewn gwasanaeth gweddi eciwmenaidd golau cannwyll wedi'i ffrydio'n fyw. Bydd hon yn offeren dros heddwch, a bydd yn cael ei chynnal am 8 yr hwyr ddydd Sadwrn 25 Chwefror yn eglwys gadeiriol fetropolitan Caerdydd, a byddaf yn bresennol. Ac yna, ddydd Sul 26 Chwefror am 3 y prynhawn, bydd offeren ddwyfol hefyd yn cael ei chynnal yn Eglwys Sant Pedr yng Nghaerdydd, gyda'r Cwnsler Cyffredinol yn bresennol.

Ac yn olaf, rydym ni'n cynnal digwyddiad yn y Senedd ar 27 Chwefror. Rydym ni wedi gwahodd y rhai o bob sector sydd wedi estyn allan ac wedi helpu pobl o Wcráin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â theuluoedd lletya o bob cwr o Gymru a'u gwesteion. Bydd yn ddiwrnod o fyfyrdod, yn ddiwrnod i gofio'r gorffennol ac i edrych tua'r dyfodol.

Bydd ein cefnogaeth i Wcreiniaid a phawb sy'n ceisio noddfa yng Nghymru yn parhau ymhell y tu hwnt i'r pen blwydd hwn. Mae'r rhai sy'n canfod noddfa yng Nghymru yn cyfrannu at ein cymunedau, ein heconomi a'n synnwyr o bwy ydym ni fel cenedl. Fel y dywedodd yr Arlywydd Zelenskyy yn ei anerchiad diweddar i ddau Dŷ Senedd y DU,

'Mae yn ein gallu i sicrhau gyda geiriau a gweithredoedd y bydd ochr olau'r natur ddynol yn drech. Yr ochr yr ydych chi a ninnau yn ei rhannu. Ac mae hyn yn drech na phopeth arall.'

Diolch.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:40, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Fel y nodwyd gennych chi, mae'n flwyddyn ar 24 Chwefror ers ymosodiad anghyfreithlon a barbaraidd Putin ar Wcráin. Yn eich diweddariad ar Wcráin yma dair wythnos yn ôl, fe wnaethoch chi ddweud:

'Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd cronfa newydd werth £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i Wcreiniaid yn ystod 2023-24, ond mae'r manylion yn brin ar hyn o bryd', lle'r oedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd i Wcreiniaid o dros £650 miliwn, gan gynnwys cynnydd i daliadau i £500 y mis i letywyr Cartrefi i Wcráin.

Mewn ymateb i mi, fe wnaethoch hefyd ddweud eich bod wedi cyfarfod â Felicity Buchan, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol y DU dros Dai a Digartrefedd, ynghyd â Gweinidog ffoaduriaid Llywodraeth yr Alban, cyn y Nadolig a bod gennych chi gyfarfod pellach wedi'i drefnu gyda Felicity Buchan yr wythnos ganlynol. Yn eich datganiad heddiw fe wnaethoch chi gyfeirio at y cyfarfod hwnnw, gan gadarnhau bod y materion hyn wedi cael eu trafod, a'ch bod wedi gwneud cynnig. Beth oedd y cynnig hwn? A pha amserlenni dangosol, os o gwbl, a roddwyd i chi ar gyfer ymateb?

Er i gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru gael ei ohirio dros dro ar 10 Mehefin 2022, beth yw'r sefyllfa bresennol gyda hwn, lle, fel yr ydych chi wedi ei nodi, mae 6,437 o Wcreiniaid, wedi eu noddi gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd yng Nghymru yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin, wedi cyrraedd Cymru ac mae bron i hanner y ffoaduriaid yng Nghymru yn cael eu noddi gan gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru?

Adroddir bod nifer o ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru wedi siarad â'r cyfryngau am yr anawsterau y mae nifer ohonyn nhw'n eu cael yn dod o hyd i lety a'i gadw. Er enghraifft, dywedwyd wrth ffoaduriaid o Wcráin y bu'n rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi nawdd nad yw canolfannau croeso yn opsiwn ar gyfer llety diogel, ac mae'n ymddangos bod landlordiaid yn amharod i dderbyn tenantiaid sy'n ffoaduriaid oherwydd pryderon ynghylch sefydlogrwydd enillion yn y dyfodol. Rwy'n dyfynnu yma o erthyglau papur newydd, ac felly wn i ddim pa mor ddilys yw ffynhonnell y straeon hynny. Ond, wrth ymateb i chi dair wythnos yn ôl, cyfeiriais hefyd at achos y fam a'r ferch a wnaeth ffoi o ymladd yn Wcráin ond sydd bellach yn wynebu digartrefedd wrth i'w noddwr o Gymru dynnu'n ôl, nad ydyn nhw'n gallu fforddio rhent preifat ac sy'n ofni y gallen nhw fod ar y strydoedd yn y pen draw.

Nodais ymhellach fod Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi y byddai'n darparu 700 o gartrefi modiwlar ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin eleni, gan gynnwys 200 â lle i 800 o ffoaduriaid o Wcráin, i gael eu hadeiladu erbyn y Pasg, wrth iddi ruthro i ddod o hyd i dai. O gofio bod gan Gymru argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy hirsefydlog, a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr opsiwn hwn ar ei phen ei hun neu gyda Llywodraeth y DU? Ac os felly, beth mae'n ei wneud amdano ar hyn o bryd?

Cyfeiriais eto yn fy ymateb i chi dair wythnos yn ôl at y cymorth sy'n cael ei ddarparu i ffoaduriaid o Wcráin gan ganolfan cymorth integreiddio Pwyliaid Wrecsam, a'ch ymweliad arfaethedig ar y pryd, yr oeddwn i'n bresennol ynddo, ag ymateb gogledd Cymru i Wcráin gan elusen Link International, ac i'r ymateb i'r ymosodiad ar Wcráin gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr. Ddydd Gwener diwethaf, fe wnes i ymweld ag ysgol gynradd yn sir Ddinbych gyda'm cyd-Aelod Laura Anne Jones, Gweinidog addysg yr wrthblaid, pan gyfeiriodd y pennaeth at eu disgyblion o Wcráin, y cafodd eu teuluoedd gymorth a chartrefi yn lleol gan y Groes Goch. Rwyf i hefyd yn aelod anrhydeddus o glwb rotari'r Fflint a Threffynnon, a dros y 12 mis diwethaf mae clybiau rotari wedi rhoi dros £6 miliwn mewn arian parod ac adnoddau ac wedi rhoi mwy na 100,000 o oriau gwirfoddolwyr yn cynorthwyo Wcráin a'i phobl.

Yn olaf, felly, a wnewch chi roi diweddariad ar sut rydych chi'n sicrhau bod yr holl gyfraniadau ehangach hyn yn cael eu hintegreiddio i ymateb dyngarol Llywodraeth Cymru i Wcráin?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:44, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, ac a gaf i ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr â'ch sylwadau agoriadol am yr ymosodiad barbaraidd, fel rydych chi'n ei ddweud? Ac rydym ni, wrth gwrs, bellach yn wynebu blwyddyn lle gwnaethom ni i gyd sefyll gyda'n gilydd yn y Siambr hon i gydnabod hyn ac i ymrwymo'n hunain i ymateb yn y ffordd ddyngarol yr ydym ni'n credu sy'n iawn ac yn gyfiawn fel cenedl noddfa. Rydym ni wedi gweithio'n agos iawn, byddwn i'n dweud, dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda Llywodraeth y DU, a gyda chydweithwyr yn yr Alban hefyd—Llywodraeth yr Alban. Cytunodd a phenderfynodd Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r llwybr uwch-noddwr, a oedd yn golygu y gallai'r rhai a oedd yn ffoi'r ymosodiad ddod i Gymru a mynd yn syth i lety cychwynnol ac y byddem ni'n eu cefnogi gyda'n cyllid a oedd yn cael ei wneud ar gael gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac wrth gwrs, fel y dywedais, mae gennym ni yn y gyllideb ddrafft y £40 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae cysylltiadau rhyng-lywodraethol, felly, wedi bod yn bwysig o ran y ffordd yr ydym ni wedi cydweithio i symud ymlaen, ond hefyd i ddarparu tystiolaeth bod y llwybr yr ydym ni wedi ei ddilyn gyda'n cynllun uwch-noddwyr wedi bod yn fuddiol o ran y llety cychwynnol yr ydym ni wedi ei ddarparu drwy ein canolfannau croeso.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:46, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud ein bod ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'n hawdurdodau lleol, nid yn unig i gynorthwyo pobl mewn llety cychwynnol, ond wedyn, yn hollbwysig, i'w helpu i symud ymlaen. Ond dim ond i gydnabod ein bod ni wedi bod yn darparu cymorth cynhwysfawr ar gyfer yr wythnosau cyntaf pan fo Wcreiniaid yn cyrraedd Cymru yn arbennig. Y cam croeso yw ein henw ar hwn. Mae'n amlwg yn golygu y gallwn ni weithio wedyn gydag awdurdodau lleol o ran cael mynediad at ysgolion, gwasanaethau cyfieithu, gwasanaethau iechyd, a Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, ac yna i gynorthwyo'r rhai sy'n cyrraedd i gael llety tymor hwy.

Ie, fel y dywedais, y £150 miliwn, rydym ni'n aros am yr ymateb gan Lywodraeth y DU o ran sut y bydd hwnnw'n cael ei ddyrannu. Fe wnaethom ni weithio gyda Llywodraeth yr Alban o ran dod o hyd i ffordd ymlaen i wneud yn siŵr bod dyraniad teg a chymesur o gyllid, ac rydym ni'n disgwyl clywed yr ymateb gan Lywodraeth y DU i'n cynigion.

Ond mae'n sicr yn gysylltiedig â'n fframwaith llety, sef y pwynt arall yr ydych chi'n ei wneud, ac fe wnaf i ganolbwyntio ar hwnnw o ran cloi fy ymateb i'ch cwestiynau, oherwydd mae'r llety symud ymlaen yn hanfodol, ac mae hynny'n gweithio gydag awdurdodau lleol. Mae gennym ni fframwaith ar gyfer llety er mwyn gweithio gyda nhw. Mae ganddo fformiwla ac mae'n darparu cymorth i awdurdodau lleol, gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i edrych ar ffyrdd y gallwn ni helpu pawb sydd angen tai dros dro yng Nghymru.

O ran sicrhau llety mwy hirdymor, a dyna pam rydym ni eisiau cael mynediad at y £150 miliwn, mae'n gymysgedd o lety; lletya unigolion, fel y dywedais yn y datganiad; y sector rhentu preifat; a hefyd mathau eraill o lety pontio o ansawdd da. Dyma mewn gwirionedd yw lle gallwn ni rannu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Y rhaglen gyfalaf llety trosiannol, a oedd yn £65 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, rydym ni'n cynyddu honno i £89 miliwn gyda chymorth gan Blaid Cymru. Mae gennym ni'r pwysau ehangach hyn o ran tai, ac rydym ni'n edrych i weld y rhaglen gyfalaf llety trosiannol honno yn darparu amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys, wrth gwrs, ffyrdd y gallwn ni gefnogi tai o ansawdd da, defnyddio tai gwag, a hefyd sicrhau y gallwn ni gael y llety modiwlar y gellir ei ddarparu yn gyflym ac yn rhad, ac y gellir ei defnyddio wedyn fel rhaglen gyfalaf drosiannol i mewn i'r flwyddyn ariannol nesaf.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud, dim ond ar gyfer y cofnod eto, bod dros 1,300 bellach wedi symud ymlaen i lety tymor hwy—dros 800 o'r rhai sy'n ymgartrefu yng Nghymru—ac o'r rhai sy'n cyrraedd drwy'n cynllun uwch-noddwyr, mae bron i 1,100 wedi symud ymlaen i lety tymor hwy. A hefyd i gydnabod, wrth gwrs, bod y rhain i gyd yn aelodau o'n cymunedau, y mae llawer ohonyn nhw'n gweithio, yn integreiddio, a byddwch yn eu hadnabod nhw ledled Cymru.

A gaf i ddweud cymaint y gwnes i werthfawrogi ymweld â'r ganolfan cymorth integreiddio Pwyliaid yn Wrecsam gyda chi? Rydych chi wedi codi hyn ar sawl achlysur. Ond hefyd, yn y gogledd, cyfarfod â Link International, a chyfarfod â'r holl sefydliadau trydydd sector sydd wedi bod yn cynorthwyo gwesteion o Wcráin trwy Gymru gyfan. Maen nhw i gyd wedi cael gwahoddiad i ddod i'r Senedd ar 27 Chwefror, fel yr ydych chithau hefyd, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw i gyd yn gallu ymuno â ni, oherwydd maen nhw wedi chwarae rhan hollbwysig. A pheidiwch ag anghofio ein bod ni wedi bod yn ariannu'r sefydliadau trydydd sector—y Groes Goch Brydeinig, Asylum Justice, Housing Justice Cymru—bob un ohonyn nhw, a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, i'w helpu gydag ailgartrefu ein gwesteion o Wcráin.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:50, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wrth i ni nesáu blwyddyn—y garreg filltir ofnadwy, fel y gwnaethoch chi ei galw—ers yr ymosodiad anghyfreithlon a barbaraidd ar Wcráin, hoffwn adleisio eich diolch i bobl ledled Cymru sydd wedi darparu noddfa i bobl o Wcráin. Pan fyddwn ni yng Nghymru yn dweud, 'Mae croeso i ffoaduriaid', pan fyddwn ni'n datgan ein hunain yn genedl noddfa, pan fydd ein Llywodraeth yn datgan ei hun yn uwch-noddwr i gynorthwyo'r rhai sy'n cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi, mae'n cyfrif. Ac mae'r iaith a ddefnyddir gan y rhai mewn Llywodraeth yn cyfrif. Ac rwyf i mor falch ein bod ni yng Nghymru yn defnyddio iaith wahanol i iaith Llywodraeth San Steffan—gwahanol ym mhob ystyr. 

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:51, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, a ydych chi'n cytuno bod y termau sy'n cael eu defnyddio gan y rhai sydd mewn grym wrth drafod ffoaduriaid yn arbennig a phawb sydd ar y cyrion yn ein cymdeithas yn cyfrif, oherwydd bod canlyniadau i iaith? Ac fe welsom ni hyn yn Knowsley y penwythnos hwn—canlyniadau ffiaidd ac o bosibl ofnadwy. Mae cant o sefydliadau wedi llofnodi llythyr agored i alw ar bob arweinydd gwleidyddol i gondemnio ymosodiad dydd Gwener ar ffoaduriaid. A yw Llywodraeth Cymru wedi lleisio ei phryder i Lywodraeth y DU bod geiriau gelyniaethus yn arwain at weithredoedd gelyniaethus?

Mae ein cefnogaeth yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i ffoaduriaid o Wcráin wedi dangos sut y gall ymateb i angen mewn cyfnod o argyfwng eithafol fod yn gyfle i gael y gorau, nid y gwaethaf, allan o gymdeithas. Mae llawer ohonom ni wedi gweld enghreifftiau o lygad y ffynnon sut mae ffoaduriaid yn cyfoethogi ein cymunedau. Fe wnes i gyfarfod ag Iryna yr wythnos diwethaf, sydd â gradd o brifysgol Kyiv, a ddaeth i Gymru drwy'r cynllun uwch-noddwyr ac a arhosodd yn y ganolfan groeso yn Llangrannog. Mae hi bellach yn gweithio yn Power and Water yn Abertawe ac yn flaenllaw yng ngwaith arloesol y cwmni hwnnw ym maes trin dŵr gwastraff heb gemegion. Roedd Iryna'n ffodus bod y cwmni wedi helpu i ddod o hyd i'w llety a'i ariannu i gychwyn, fel y gallai dderbyn y swydd honno. Nid yw llawer o'i chyd-ffoaduriaid mor ffodus, wrth gwrs, ac rydym ni'n gwybod, fel yr ydych chi wedi sôn, bod y pwysau ar dai yn aruthrol.

Fel y nododd Mark Isherwood, mae WalesOnline wedi cyhoeddi adroddiadau am ffoaduriaid o Wcráin a noddwyr sydd wedi cael trafferthion gyda'r system sy'n bodoli i'w lletya, gyda disgwyl i ffoaduriaid fyw mewn llety byrdymor am gyfnodau hirdymor a bron yn denantiaid di-hawliau o dan noddwyr sy'n landlordiaid, a noddwyr yn teimlo bod diffyg cymorth iddyn nhw yn ystod yr argyfwng costau byw. Allech chi gynnig sylwadau, os gwelwch yn dda, ar ba broblemau posibl gyda'r cynllun uwch-noddwyr a'r cynlluniau noddi eraill a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddechrau eu gweithrediad, ac felly pa fesurau ataliol a roddwyd ar waith? Ac a yw'n bosibl i'r Gweinidog gadarnhau nifer yr aelwydydd o Wcráin sydd wedi ymgartrefu yma, yn enwedig o'r canolfannau croesawu a'r gwestai presennol y bydd disgwyl i bob awdurdod lleol eu croesawu, fel y gall paratoadau'r awdurdodau gael eu cadarnhau ymhellach trwy gymorth ac integreiddiad i gymunedau lleol?

Cynhaliodd Cymorth Cymru arolwg gyda 650 o weithwyr rheng flaen a chynhaliodd gyfarfodydd gyda 68 o weithwyr cymorth digartrefedd a thai ledled Cymru i ddarganfod sut mae costau byw yn effeithio ar eu bywydau a'u swyddi. Roedd effaith yr argyfwng costau byw ac ofnau pobl am y dyfodol yn eang, gan effeithio nid yn unig ar eu cyllid ond ar eu hiechyd meddwl a'u gallu i wneud eu gwaith. Soniwyd yn helaeth ganddyn nhw am yr effaith ar eu hiechyd meddwl, gan gyfeirio at orbryder, gorfod cymryd amser o'r gwaith, pryderon am lwyth gwaith mwy gan fod pobl yn gadael y sector ac, wrth gwrs, mwy o alw. Ac wrth gwrs, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r argyfwng costau byw wedi dwysau'n sylweddol. Cododd Cymorth Cymru bryderon yn ddiweddar ynghylch effaith yr argyfwng costau byw ar weithwyr digartrefedd a chymorth tai rheng flaen a'u teuluoedd. Mae'r gweithwyr hyn yn wynebu straen sylweddol yn eu swyddi oherwydd yr argyfwng, ac byddan nhw bellach yn wynebu mwy fyth o bwysau ychwanegol wrth iddyn nhw geisio diogelu ffoaduriaid o Wcráin yma yng Nghymru rhag digartrefedd a'u cynorthwyo gyda llety. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw asesiad o sut y bydd newidiadau i gymorth ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yma yng Nghymru yn effeithio ar ein gwasanaethau sydd eisoes dan bwysau? Sut maen nhw'n gweithio ochr yn ochr â'r gwasanaethau hyn i sicrhau eu bod nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i allu cynorthwyo ffoaduriaid agored i niwed orau yma yng Nghymru? Diolch.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:54, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Sioned Williams, a diolch yn fawr iawn, unwaith eto, am fynegi pwysigrwydd ein croeso, bod ffoaduriaid yn cael eu croesawu i Gymru. Fel y dywedwch chi, mae'n garreg filltir ofnadwy yr ydym ni wedi ei chyrraedd, ond byddwn hefyd yn cael ein mesur ar sail y croeso hwnnw a chryfder a dyfnder y croeso hwnnw. Gallwn weld ei fod mor gryf o ran y ffordd y mae pobl ledled Cymru, ym mhob cymuned, wedi ymateb, a'r ffordd y mae awdurdodau lleol wedi cydweithio gyda ni yn Llywodraeth Cymru a chyda'r trydydd sector i gyd, fel yr wyf i wedi ymateb i Mark Isherwood.

A hefyd i ddweud bod yn rhaid i hyn bob amser, o ran ein cyfrifoldebau ni fel Lywodraeth Cymru, fynd ymhell y tu hwnt i'n pwerau—ymhell y tu hwnt. Hynny yw, mae mewnfudo yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU, ond byddwn yn defnyddio ein holl bwerau i gynorthwyo ceiswyr noddfa sy'n cyrraedd Cymru, ac rydym ni'n credu bod y camau yr ydym ni'n eu cymryd ac yr ydym ni wedi eu cymryd gyda'n cynllun uwch-noddwyr yn hanfodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a wynebir gan geiswyr noddfa, gan eu cynorthwyo wrth iddyn nhw ymgartrefu yng Nghymru, ac adeiladu cymunedau cydlynus. Gwelsom lif helaeth o gymorth, gan gynnwys miloedd o aelwydydd yng Nghymru yn lletya ac yn cynorthwyo Wcreiniaid yn uniongyrchol.

Mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar faterion o ran—. Dyna lle y saif Llywodraeth Cymru, ond rwy'n sicr yn ategu safbwyntiau'r 100 sefydliad sydd wedi condemnio geiriau gelyniaethus. Nid yw hwn yn le o gwbl ar gyfer amgylchedd gelyniaethus, a phryd bynnag y cawn y cyfle, rydym ni fel Gweinidogion yn ei gwneud hi'n eglur iawn beth yw ein safbwynt a sut rydym ni'n gwrthwynebu'r amgylchedd gelyniaethus a'r geiriau gelyniaethus, a all gael effaith ar y math o gydlyniad cymunedol yn ein cenedl noddfa yr ydym ni'n ei gymeradwyo a'i arddel.

Felly, mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, ein bod ni'n edrych ar ba wersi yr ydym ni wedi eu dysgu o ran iechyd a chymorth, ac wrth ymdrin ag anghenion mwy efallai y rhai sydd wedi dod ymlaen a phroblemau enfawr o ran iechyd meddwl, yr effaith, trawma pobl, a menywod yn bennaf, wrth gwrs, yn dod o Wcráin. Rydym ni hefyd wedi gwneud yn siŵr y gallwn ni wneud yn siŵr felly bod y gwasanaeth iechyd yn chwarae rhan lawn. Mae gennym ni wasanaeth cynhwysiant Caerdydd a'r Fro, er enghraifft, sy'n edrych nawr ar anghenion asesu iechyd cymhleth, ond o ran iechyd meddwl hefyd. Mae hyn yn rhywbeth lle mae angen i'r rhai sy'n ffoi'r rhyfel gysylltu â'n canolfannau cyswllt a'r canolfannau croeso. Efallai eu bod nhw wedi dioddef trawma eithafol. Dyma lle'r oedd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llwybrau Newydd, yn datblygu pecynnau cymorth i staff, hefyd i sicrhau eu bod nhw'n gallu rhoi cymorth iechyd meddwl.

Mae effaith costau byw wedi bod yn ddifrifol ar ein cymunedau a'n pobl yma yng Nghymru, yn enwedig llawer sydd â nodweddion gwarchodedig sydd eisoes yn wynebu anghydraddoldebau. Mae'n wych, mewn gwirionedd, bod nifer y cymunedau sy'n dioddef effeithiau economaidd-gymdeithasol llymach costau byw yn dal i gynorthwyo'r gwesteion sy'n dod i'w cymunedau. Rwy'n bryderus iawn bod y tariff ar gyfer awdurdodau lleol wedi cael ei leihau ar gyfer y rhai sy'n mynd i gyrraedd yn 2023. Roedd yn dariff o £10,500 ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n cael ei leihau gan Lywodraeth y DU i £5,900. Hefyd, rydym ni'n credu, fel y dywedais yn fy natganiad, ac fe wnaf i ei ddweud eto: y taliad diolch yna o £350 y mis i letywyr a roddodd lety, wel, rydym ni'n credu y dylai pawb sydd wedi bod yn lletywr ac sy'n parhau i fod yn lletywr dderbyn y £500, oherwydd mae hyn yn ymwneud â'u galluogi nhw i barhau i gynorthwyo yn yr argyfwng costau byw.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:59, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y ffordd y mae hi wedi ymateb i'r datganiad yma y prynhawn yma. Mae iaith a chywair mewn gwleidyddiaeth yn hanfodol i'n dadl ac mae'n sôn am y gwerthoedd yr ydym ni i gyd yn eu rhannu, ac rwy'n credu bod y ffordd y mae pobl yng Nghymru wedi estyn allan i Wcráin, gan gydnabod effaith drychinebus yr ymosodiad ar fywydau pobl, yn dangos rwy'n credu bod pobl mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad hon eisiau i'r Llywodraeth hon barhau i estyn allan i gynorthwyo pobl yn Wcráin.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol am ei arweinyddiaeth. Wrth gwrs, mae'n dod o gefndir Wcreinaidd, sydd â'i wreiddiau mewn cymunedau yn Wcráin, ac mae wedi meithrin cysylltiadau rhwng Cymru ac Wcráin dros ddegawdau lawer, ond mae hefyd wedi defnyddio grym ei rethreg a'i brofiad yn y flwyddyn ddiwethaf i ysgogi ac i helpu pobl gyda'r cymorth hwn. Ac rwy'n credu, fel Senedd, y dylem ni gydnabod y gwaith y mae Mick Antoniw wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf.

A gaf i ofyn i'r Gweinidog, wrth ymateb i'r datganiad heddiw, y byddwn ni'n parhau i gynorthwyo teuluoedd a phobl o Wcráin a fydd yn dod yma oherwydd y peryglon sy'n eu hwynebu nhw gartref, ac y byddwn yn parhau i wneud hynny yn y ffordd ddwys, gynhwysfawr a chyfannol y mae hi wedi ei ddisgrifio? Ond mae angen i ni helpu pobl yn Wcráin hefyd, ac mae hynny'n golygu sicrhau ein bod ni'n cyfrannu'n rhyngwladol at yr hyn yr ydym ni'n gallu ei wneud o ran cynnal seilwaith. Pan oeddem ni yno ym mis Rhagfyr, un o'r pethau a oedd yn drawiadol iawn oedd effaith peiriant rhyfel Putin ar y seilwaith ynni, er enghraifft, yn Wcráin, a byddai unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyfrannu at yr ymdrech ryngwladol ehangach honno, rwy'n credu, yn bwysig. A phwynt olaf—

Photo of David Rees David Rees Labour 5:01, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Alun, rydw i wedi rhoi llawer o amser i chi.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Do, ac rydych chi'n hael iawn. Y pwynt olaf—

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Ond dim llawer yn fwy hael.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Y pwynt olaf y bydda i'n ei wneud yw bod angen i ni hefyd ddarparu'r hyn y gall Wcráin ei ddefnyddio i frwydro yn erbyn Putin a pheiriant rhyfel Putin, ac mae hynny'n golygu cefnogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru hefyd, sy'n gallu cynhyrchu arfau a ffrwydron rhyfel, er mwyn galluogi byddin Wcráin i wrthsefyll peiriant rhyfel Rwsia. Mae gennym weithgynhyrchwyr yn y diwydiant arfau yng Nghymru, a byddai'n dda pe gallai Llywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y cynnyrch o'r busnesau hyn yn gallu cefnogi a chynnal yr Wcrainiaid sy'n brwydro dros ddyfodol eu gwlad a'n democratiaethau ni i gyd.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Alun Davies. Byddaf yn ymateb yn gryno, Dirprwy Lywydd, i ddweud pa mor bwysig yw hi y gallwn fod yn atebol am ein hiaith, am ein tôn, am y modd yr ydym yn darparu'r ymateb dyngarol hwnnw. Roedd yn dda iawn ein bod ni allan ar y grisiau gyda'n gilydd, yn drawsbleidiol, i ddymuno'n dda i chi a'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, sydd wedi ein harwain yn y Siambr hon, on'd yw e. Mae wedi ein harwain ni yn ein dealltwriaeth, mae wedi ein harwain ni yn y Llywodraeth ac, yn fy marn i, yn y Senedd, i ddeall y ffordd orau o ymateb a'r ffordd fwyaf priodol o estyn llaw a chefnogi Wcráin—pobl yn Wcráin yn ogystal â'r Wcrainiaid hynny sy'n dod i fyw yn ein plith. Mae ef wedi dod i lawer o'n cyfarfodydd yr ydym ni wedi'u cael mewn etholaethau, mae ef wedi cyfathrebu, a hoffem ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol, sydd yma heddiw, a fydd yn arwain eich cenhadaeth, byddwn i yn ei galw, nesaf, y daith allan, yn gadael ddydd Iau, gyda'n cefnogaeth, rwy'n credu, ar draws y Siambr hon.

Mae'n rhaid i mi ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ymateb i'r pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud heddiw, Alun Davies, a hefyd i gydnabod y gallwn helpu pobl yn Wcráin. Gallwn ymgymryd â'r rôl ryngwladol honno fel Llywodraeth Cymru a phobl Cymru. Rydyn ni wir wedi helpu pobl i ddeall beth fyddai hynny'n ei olygu gydag ymweliad yr Arlywydd Zelenskyy yr wythnos diwethaf. Fe wnaeth dreiddio drwodd atom ni yma yng Nghymru. Wrth gwrs, dros y penwythnos nesaf, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ymuno â ni wrth i ni gydnabod drwy weddi a chydnabyddiaeth ddifrifol, a hefyd drwy'r digwyddiad sydd gennym ni yma yn y Senedd. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Yn dilyn cais y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y prynhawn yma yn ystod ei gyfraniad yn eitem 3 ynglŷn â'r defnydd o'r term 'gwallgof' yn ystod cwestiwn a gyflwynwyd iddo, rwyf wedi adolygu'r trawsgrifiad, a dod i'r casgliad er mai i benderfyniad gan Lywodraeth Cymru oedd y cyfeiriad, ac nid unrhyw unigolyn, nid yw hyn yn ei gwneud yn briodol. Fel Aelodau o'r Senedd, mae gan bob un ohonom, gan gynnwys fi fy hun, gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei ddweud yn y lle hwn ac mewn mannau eraill yn ein rôl fel Aelodau yn briodol ac na ellir ei ystyried fel arall. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn yr achos hwn yn myfyrio ar y cyfraniad heddiw ac yn sicrhau y bydd cyfraniadau yn y dyfodol, boed yma neu y tu allan i'r lle hwn, yn cael eu hystyried yn barchus i bawb.