8. Dadl: Setliad yr Heddlu 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 14 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:12, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Mae cyni wedi cael effaith ddinistriol ar blismona yn y DU. Mae'n bosibl mai syniad y blaid Dorïaid oedd y toriadau creulon i wariant cyhoeddus, y mae'r term 'cyni' yn ei guddio, ond maent hefyd yn staen ar bleidiau eraill San Steffan, gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol mewn Llywodraeth glymblaid yn cefnogi'r syniad hwnnw, a'r Blaid Lafur wedi cytuno iddo fel yr wrthblaid. Arweiniodd y don gychwynnol o gyni wedi'i sbarduno gan y Torïaid at golli 400 o swyddogion yr heddlu a 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu o'r rhengoedd—