– Senedd Cymru am 5:04 pm ar 14 Chwefror 2023.
Eitem 8, dadl ar setliad yr heddlu 2023-24. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Diolch. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, i'w gymeradwyo, manylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid refeniw craidd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar gyfer 2023-24. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r heddlu am eu gwaith yn ein cymunedau. Er bod dadl hanfodol, barhaus am y lleiafrif o swyddogion heddlu nad ydynt wedi cyrraedd y safonau uchel y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl yn gwbl briodol, ac mae'n hanfodol i heddluoedd gymryd camau cyflym a phendant yn yr achosion hynny o hyd, gwn fod y rhan fwyaf o staff yr heddlu yn dangos llawer iawn o ymroddiad a phenderfyniad wrth iddynt gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Mae'r arian craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth cyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi'u datganoli, mae'r darlun ariannu cyffredinol yn cael ei benderfynu a'i sbarduno gan benderfyniadau'r Swyddfa Gartref. Rydyn ni wedi cynnal y dull sefydledig o osod a dosbarthu cydran Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Does dim newidiadau pellach i'r trefniadau cyllido ar gyfer 2023-24 yn dilyn y newidiadau technegol a gweinyddol a wnaed y llynedd. Deilliodd y newidiadau hynny o benderfyniadau'r Swyddfa Gartref heb fawr ddim goblygiadau ymarferol i gomisiynwyr yr heddlu a throseddu yng Nghymru.
Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru at blismona ar gyfer 2023-24 yn aros yr un fath â'r llynedd, sef £113.5 miliwn. Mae hyn yn adlewyrchu'r newid a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a ddisodlodd drosglwyddiad cyllid blynyddol o'r Swyddfa Gartref i Lywodraeth Cymru gydag arian uniongyrchol gan y Swyddfa Gartref i'r heddlu. Fel yn achos eleni, does dim effaith ar lefel gyffredinol y cyllid ar gyfer heddluoedd o ganlyniad.
Rwyf hefyd wedi cadw'r gyfran o gyfraddau annomestig y mae heddluoedd yn ei derbyn yn 0.1 y cant, gydag addasiad canlyniadol i'r grant cymorth refeniw i gydbwyso hyn. Mae hyn yn hwyluso'r cyfnod pontio tuag at gadw cyfraddau annomestig rhannol ar gyfer rhanbarthau bargen ddinesig a thwf, ac ni fydd yn arwain at golli cyllid ar gyfer unrhyw heddlu. Fel yr amlinellir yn fy nghyhoeddiad ar 31 Ionawr, mae cyfanswm y cymorth refeniw heb ei glustnodi ar gyfer gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ar gyfer 2023-24 yn £434 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at hyn yw £113.5 miliwn, a'r cyllid hwn y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion â mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2023-24, y bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr yn cael cynnydd mewn cyllid o 0.3 y cant o'i gymharu â 2022-23 cyn yr addasiad a wnaed ar gyfer y trosglwyddiad cangen arbennig. Bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi grant ychwanegol gwerth £63.5 miliwn er mwyn sicrhau bod pob un o'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru yn cyrraedd lefel waelodol.
Y cynnig ar gyfer y ddadl heddiw yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, sydd wedi'i gyflwyno gerbron y Senedd. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn.
Fel y clywsom, cyflwynir cyllid ar gyfer y pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru drwy drefniant tair ffordd yn cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor, gyda'r Swyddfa Gartref yn gweithredu fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr, a chydrannau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gysondeb ledled Cymru a Lloegr.
Ar gyfer 2023-24, bydd cyfanswm y gefnogaeth graidd i heddluoedd Cymru yn £433.9 miliwn. Bydd heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn cael hwb ariannol o hyd at £287 miliwn y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth y DU. Bydd y cynnydd yn cymryd cyfanswm y cyllid ar gyfer plismona yng Nghymru a Lloegr hyd at £17.2 biliwn, ac yn golygu y bydd comisiynwyr yr heddlu a throseddu ar draws y 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cael cynnydd o hyd at £523 miliwn o grantiau'r Llywodraeth ac incwm praesept. Bydd praeseptau'r dreth gyngor yn codi 7.75 y cant yn Nyfed Powys, 7.4 y cant yn Ne Cymru, 6.8 y cant yng Ngwent, a 5.14 y cant yng Ngogledd Cymru, sy'n cyfateb i £1.86 y mis ar gyfer eiddo band D yn y de, a £1.34 yn y gogledd.
Roedd ffigyrau fis diwethaf yn dangos bod 1,420 o swyddogion ychwanegol wedi ymuno â heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn ystod y tri mis diwethaf, a 16,753 ers 2019 fel rhan o raglen tair blynedd Llywodraeth y DU i recriwtio 20,000 o swyddogion yr heddlu ychwanegol erbyn Mawrth 2023. Mae hyn yn cynnwys 1,843 o swyddogion yr heddlu newydd ledled Cymru. Wrth gwrs, mae polisi'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn parhau i fod i gynyddu'r cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu bob blwyddyn, gan gytuno â Llywodraeth Cymru ynghylch y mater hwnnw.
Er bod troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi codi, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod hyn wedi'i sbarduno i raddau helaeth gan gynnydd yng nghategorïau’r troseddau sy'n rhoi'r newidiadau mwyaf o ran arferion riportio a chofnodi. Felly, dywedwyd y dylai'r amcangyfrifon hyn gael eu trin yn ofalus gan nad ydynt o bosibl yn adlewyrchu cynnydd gwirioneddol mewn troseddau. Mae ffigyrau gafodd eu rhyddhau bythefnos yn ôl yn dangos bod tua 136,000 o droseddau treisgar wedi'u hatal ers 2019 mewn 18 ardal yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys ardal De Cymru, y mae troseddau treisgar yn amharu'n fawr arni, sydd wedi cael cyllid wedi'i dargedu gan Lywodraeth y DU. Yn ôl yr arolwg troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr, sef y dangosydd gorau o dueddiadau hirdymor mewn troseddau, mae'r ffigurau troseddau diweddaraf ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022 yn dangos bod cyfanswm y troseddau wedi gostwng 10 y cant, o'i gymharu â'r flwyddyn cyn pandemig y coronafeirws a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020.
Fel y dywedodd y Gweinidog cyllid yma'r wythnos ddiwethaf mewn cyd-destun gwahanol,
'mae gennym y ffin hir agored â Lloegr'.
Ac fel y dysgais wrth ymweld ag uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol y gogledd-orllewin, amcangyfrifir bod 95 y cant neu fwy o droseddau yn ardal Gogledd Cymru yn gweithredu ar sail drawsffiniol o'r dwyrain i'r gorllewin, a bron dim ar sail Cymru gyfan. Fodd bynnag, ac rwy'n cloi gyda'r sylw hwn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi egluro eto pam mai dim ond un cyfeiriad at droseddu trawsffiniol y mae adroddiad Comisiwn Thomas yn ei wneud, er gwaethaf y dystiolaeth a gyflwynwyd iddi, y rhoddwyd gwybod i mi amdano yn ystod yr ymweliad hwnnw. Diolch yn fawr.
Mae cyni wedi cael effaith ddinistriol ar blismona yn y DU. Mae'n bosibl mai syniad y blaid Dorïaid oedd y toriadau creulon i wariant cyhoeddus, y mae'r term 'cyni' yn ei guddio, ond maent hefyd yn staen ar bleidiau eraill San Steffan, gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol mewn Llywodraeth glymblaid yn cefnogi'r syniad hwnnw, a'r Blaid Lafur wedi cytuno iddo fel yr wrthblaid. Arweiniodd y don gychwynnol o gyni wedi'i sbarduno gan y Torïaid at golli 400 o swyddogion yr heddlu a 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu o'r rhengoedd—
A wnewch chi ildio?
Newydd ddechrau ydw i.
Mewn munud, 'te.
Arweiniodd y don gychwynnol o gyni wedi'i sbarduno gan y Torïaid at golli 400 o swyddogion yr heddlu a 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu o rengoedd heddlu yn ardal De Cymru yn unig. Er y buddsoddiadau diweddar, mae lefelau staffio yn yr heddlu hwn yn parhau i fod yn llawer is na'r niferoedd a oedd ganddo yn 2010. Mark.
Ydych chi'n derbyn—ac mae hyn yn ffaith—bod y toriadau i'r heddlu rydych chi'n cyfeirio atyn nhw, yn wreiddiol hyd at 2015, wedi'u cyhoeddi yng nghyllideb olaf Alistair Darling yn 2010, a bod Llywodraeth y DU dim ond wedi parhau â nhw o ran plismona? Mae'n amlwg yn natganiad y gyllideb derfynol gan Mr Darling.
Nid yw hynny'n esgus, ond dywedais 'pob plaid sydd wedi cefnogi cyni', a wnaethon ni ddim.
Codwyd y ffaith bod lefelau plismona wedi gwaethygu dros y degawd diwethaf yn ystod cymhorthfa ar y stryd yn ddiweddar, ddydd Gwener diwethaf ym Mhontlotyn. Roedd pobl wedi sylwi ar yr hyn y mae'r Torïaid, gyda chefnogaeth eraill yn San Steffan, wedi'i wneud i blismona cymunedol. Bydd y setliad hwn yn newyddion gwael pellach i bob un o'n heddluoedd yng Nghymru. Ni fydd cynnydd o 0.3 y cant yn unig mewn cyllid cymorth canolog yn gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r pwysau difrifol ar adnoddau y mae ein heddluoedd yn eu hwynebu. Bydd yn golygu bod angen gwneud penderfyniadau anodd iawn ynghylch y gyllideb. Mae Heddlu De Cymru, er enghraifft, yn wynebu bwlch cyllidol gwerth £20.8 miliwn, ac yn gorfod canfod gwerth £9.6 miliwn o arbedion eleni i ddangos bod ei gynlluniau gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 yn gynaliadwy, tra bod Heddlu Dyfed Powys yn gorfod ystyried arbedion o £5.9 miliwn dros y pum mlynedd nesaf.
Dangosodd arolwg morâl a thâl diweddar Ffederasiwn yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2022 y graddau y mae morâl swyddogion yr heddlu wedi'i erydu gan flynyddoedd o esgeulustod ar ran Llywodraeth y DU. Mae canfyddiadau o'r fath yn pwysleisio cyn lleied mae'r trefniadau cyfansoddiadol presennol ym maes plismona a chyfiawnder o fudd i Gymru. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd datganoli plismona a chyfiawnder yn llawn heb oedi, fel nad yw penderfyniadau ar sut rydym yn cadw ein cymunedau'n ddiogel yn cael eu gadael yn nwylo Llywodraeth San Steffan sydd wedi colli gafael ar faterion ac sydd ag obsesiwn â chyni. Nid yw cynigion presennol Llafur y DU i ddatganoli'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid yn unig yn mynd yn ddigon pell. Mae'r ffaith bod lefelau cyllid Llywodraeth ganolog y DU bron yn wastad hefyd yn golygu bod pob heddlu yn gorfod troi at gynnydd sylweddol yn eu praeseptau'r dreth gyngor i gyfyngu ar eu diffygion yn y gyllideb yn unig.
Yn olaf, rwyf eisiau ei gwneud yn glir pa mor annerbyniol yw hi bod cynnydd yn y dreth gyngor atchwel yn cael ei ddefnyddio i gadw gwasanaethau plismona hanfodol i fynd. Mae pob un ohonom yn gwybod bod y dreth gyngor yn effeithio'n anghymesur ar yr aelwydydd tlotaf yng Nghymru, ac yn fy rhanbarth i, ceir rhai o'r cyfraddau uchaf yn y wlad ym Mlaenau Gwent. Edrychwn ymlaen yn fawr at ei ddiwygio, neu'n well fyth, gael cynllun arall yn ei le. Diolch yn fawr.
Byddaf yn pleidleisio dros setliad yr heddlu y prynhawn yma, ond nid yw'n rhoi unrhyw bleser i mi bleidleisio dros setliad sy'n darparu hyd yn oed yn rhagor o doriadau i'n gwasanaethau plismona ledled Cymru. Mae Mark Isherwood yn talu teyrnged i'w cyd-Aelodau yn Llundain am y gwaith maent wedi bod yn ei wneud wrth ariannu'r heddlu dros y blynyddoedd diwethaf, ond yr hyn rydym yn ei wybod, a'r hyn rydym yn ei wybod yng Ngwent, yw bod heddluoedd mewn gwirionedd yn gweld gostyngiadau yn eu cyllidebau o un flwyddyn i'r llall. Yn y setliad hwn, bydd Heddlu Gwent, er enghraifft, yn gweld gostyngiad o 2.8 y cant yn ei rym gwario gwirioneddol, a phan fyddwch yn edrych ac yn cymryd 2010 fel y sylfaen, byddwch yn gweld unwaith eto bod gan Heddlu Gwent 85.9 y cant o'r grym gwario sydd ar gael iddo a oedd ganddo yn ôl yn 2010. A phan fyddwn yn clywed am 20,000 o swyddogion yr heddlu newydd, yr hyn rydym yn ei wybod hefyd yw mai'r hyn y maen nhw'n ei wneud yw disodli swyddogion yr heddlu gafodd eu diswyddo yn ystod blynyddoedd o gyni. A dweud y gwir, yn y flwyddyn ariannol hon sydd i ddod, bydd llai o swyddogion yr heddlu yng Ngwent nag a oedd yn 2010. Felly, nid ein bod ni ddim yn gweld y cynnydd; dydyn ni ddim hyd yn oed yn gweld sefydlogrwydd yn y niferoedd y gwnaeth y Torïaid eu hetifeddu gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Yr hyn yr ydym yn ei weld yw toriadau tameidiog o gyllidebau'r heddlu blwyddyn ar ôl blwyddyn, a'r bobl sy'n talu pris hyn, wrth gwrs, yw swyddogion yr heddlu eu hunain sydd ddim yn gallu darparu'r gwasanaeth yr hoffent ei ddarparu, ond hefyd y cymunedau y mae pob un ohonom yn ceisio eu gwasanaethu mewn unrhyw ran o Gymru.
Ac mae'n bwysig, pan fyddwn yn trafod hyn, ein bod yn gallu darparu'r cyllid y mae heddluoedd ei angen ledled y wlad, ond ein bod hefyd yn gallu darparu'r gwasanaeth plismona y mae cymunedau eisiau ei weld mewn gwahanol rannau o Gymru. A beth mae hynny'n ei olygu yw bod plismona yn gallu gweithredu ar yr un sail â gwasanaethau cyhoeddus eraill, a gwasanaethau golau glas eraill yng Nghymru, sy'n golygu eu bod yn gweithredu o fewn strwythur datganoledig a bod plismona yn cael ei ddatganoli i'r lle hwn ar fyrder. Oherwydd, mae'n rhaid i ni wneud dau beth: yn sicr, mae'n rhaid i ni gynnal a chynyddu gwariant, oherwydd mae hynny'n gwbl sylfaenol i allu darparu gwasanaeth; ond wedyn, yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau cydlyniad gwasanaethau, fel bod swyddogion yr heddlu'n gallu gweithio gyda phob heddlu a gwasanaeth cyhoeddus arall i ddarparu cydlyniad. Ac rwyf wedi clywed y dadleuon gan Mark Isherwood dros y materion hyn sawl gwaith, ac mae'n hapus iawn, iawn i ddyfynnu ei areithiau o flynyddoedd yn ôl i gefnogi ei ddadleuon heddiw, ond pe byddai'n dyfynnu ei areithiau o 2016, o 2017 i 2018, yna bydd e' hefyd yn gweld y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi cwtogi plismona. A'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau mwyaf bregus sydd wedi talu'r pris am y toriadau hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn, a hyd nes y bydd plismona wedi'i ddatganoli i'r lle hwn, ni fyddwn yn gallu cael cydlyniad gwasanaethau y mae'r lle hwn yn ei fynnu ac y mae ein pobl yn ei haeddu. Felly, byddaf yn pleidleisio dros setliad yr heddlu y prynhawn yma, ond rwy'n siomedig iawn i weld y ffordd y mae'r Swyddfa Gartref yn ddi-hid ac anghyfrifol gyda heddluoedd, yn ddi-hid ac anghyfrifol gyda diogelwch y cyhoedd ac yn ddi-hid ac anghyfrifol gyda dyfodol ein cymunedau.
Y Gweinidog cyllid i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.
Diolch. Hoffwn ddiolch i'r cyd-Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw, ac mae'r cyd-Aelodau wedi'i gwneud hi'n glir iawn ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith y mae swyddogion yr heddlu yn ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru yn fawr iawn, ac rydw i'n rhannu'r pryderon hynny a godwyd ynghylch morâl ymysg swyddogion yr heddlu ar hyn o bryd. Ond, yma yng Nghymru, maen nhw'n rhan gwbl allweddol o'n gwasanaeth cyhoeddus integredig; maen nhw'n gweithio gyda'r byrddau iechyd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Rwy'n meddwl eu bod nhw'n hollol anhygoel, mewn gwirionedd, o ran dod o hyd i ffyrdd creadigol o gydweithio. Felly, maen nhw'n bartneriaid gwerthfawr iawn yn ein gwaith Ystadau Cymru, er enghraifft, ac maen nhw'n gallu gwneud cynigion am nifer o gronfeydd Llywodraeth Cymru, ac rydym yn eu hannog i edrych ar ffyrdd o wneud hynny ar y cyd—er enghraifft, mae rhannu gwasanaethau corfforaethol yn ffordd dda iawn o weithio'n agos gyda'i gilydd, ac rwy'n gwybod eu bod o bosibl yn gobeithio ehangu'r gwaith hwnnw drwy'r partneriaethau diogelwch cymunedol i fynd i'r afael â materion yn ein cymunedau.
Byddwn hefyd yn ailadrodd ein cefnogaeth barhaus i ariannu swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yr heddlu, ac mae hynny wir yn adlewyrchu'r ddealltwriaeth o bwysigrwydd y ffordd gydweithredol honno o weithio. Rydym yn gwybod, pan ydym yn gweld mwy o hyder ym maes plismona mewn cymunedau, fod hynny yn aml oherwydd bod nifer o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu allan ar y strydoedd, ac felly'n rhoi'r math yna o amlygrwydd plismona y mae pobl yn ei ddisgwyl yn eu cymunedau hefyd, a hynny'n gwbl briodol—rydym yn falch iawn o barhau â'n hymrwymiad i ariannu a chynyddu nifer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled Cymru.
Ac rydym hefyd yn parhau i wneud yn glir iawn ein cefnogaeth i blismona gael ei ddatganoli fel y gallwn gyflawni ar anghenion, blaenoriaethau a gwerthoedd Cymru. Fel y clywsom, dyma'r unig wasanaeth golau glas sydd heb ei ddatganoli i Gymru, ac yn y cyd-destun hwnnw o weithio ar y cyd, gallwch weld bod yna lawer o ffyrdd y gallem newid a gwella pethau, pe bai'n cael ei ddatganoli. Rwy'n gwybod bod pryder ymhlith comisiynwyr yr heddlu a throseddu mai setliad dim ond fymryn yn fwy cadarnhaol yw hwn eleni. Mae hynny'n fater i'r Swyddfa Gartref, ond rydym wedi clywed am effaith pwerus iawn y toriadau ym maes plismona dros y blynyddoedd ar ein cymunedau, ac rwy'n clywed nad yw'r niferoedd cynyddol o swyddogion yr heddlu mewn unrhyw ffordd ar hyn o bryd yn gwrthbwyso'r toriadau i'r niferoedd rydym wedi'u gweld yn flaenorol, ac mae llawer i'w wneud o hyd mewn rhai rhannau o Gymru i wneud yn iawn am y niferoedd hynny.
Rydym wedi ymrwymo'n bendant iawn i weithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau bod yr heriau rydym wedi clywed amdanynt y prynhawn yma yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol ac ar blismona rheng flaen yng Nghymru. Ac wrth gwrs, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn camddefnyddio sylweddau a'r agenda benodol honno, ac mae ein cyllid yn y fan yna wedi cynyddu i £67 miliwn yn 2023-24. Mae cyfran fawr o hynny'n mynd i fyrddau cynllunio'r ardal drwy'r gronfa weithredu ar gamddefnyddio sylweddau.
Ac wrth gwrs, mae'r elfen olaf o gyllid yr heddlu yn cael ei chodi drwy braesept y dreth gyngor, ac yn wahanol i Loegr, rydym wedi cadw'r rhyddid i swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru wneud eu penderfyniadau eu hunain am gynnydd yn y dreth gyngor. Mae gosod y praesept yn rhan allweddol o rôl y comisiynwyr heddlu a throseddu, ac mae hynny'n dangos eu cyfrifoldeb a'u hatebolrwydd i'r etholwyr lleol. Er hynny, gwn y bydd y comisiynwyr, mewn cyfnod o bwysau cynyddol ar aelwydydd lleol, yn ystyried hyn yn ofalus iawn yn wir.
Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad i'r Senedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.